Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo ar gyfer Lansiad Digidol

Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales
Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo ar gyfer Lansiad Digidol
Cefndir:
Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn ddau rôl llysgenhadol cenedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain. Mae’r llysgenhadon hyn yn credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, grymuso, gwella a chyfoethogi bywydau – yn enwedig bywydau pobl ifanc. Maent hefyd yn dathlu a chynrychioli diwylliant llenyddol Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae eu gwaith yn cynnwys cynnal gweithdai i blant a phobl ifanc, ysgrifennu cerddi comisiwn, a gweithgareddau amrywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill (megis gwyliau a chlybiau ieuenctid).
Bydd bardd yn cyflawni’r rôl am ddwy flynedd, ac yn dilyn galwad agored yn ddiweddar, mae’r beirdd nesaf i gymryd yr awenau yn barod i gael eu cyhoeddi. Bydd y cyhoeddiad yn digwydd yn ddigidol ar wefan a rhwydweithiau cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru, a thrwy’r wasg a’r cyfryngau ar ddydd Iau 7 Hydref 2021.
Caiff y cynlluniau eu rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth yma:
Bardd Plant Cymru
Children’s Laureate Wales
www.llenyddiaethcymru.org
Gofynion:
Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i ddarparu gwasanaeth cynhyrchu fideo ar gyfer cyhoeddi’r Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales newydd, i gynnwys llunio cynnwys, ffilmio, sain, golygu (gyda phosibilrwydd o gyfuno eitemau sydd wedi eu ffilmio yn flaenorol), graffeg symudol ac isdeitlau (darperir y testun a’r cyfieithiad gan Llenyddiaeth Cymru).
Briff fideo:
Rydym yn gofyn am ddau fideo dwyieithog, heb fod dros 3 munud o hyd, un ohonynt gydag isdeitlau Cymraeg a’r llall gydag isdeitlau Saesneg. Bydd y cynnwys fwy neu lai yr un fath, ond bydd y strwythur yn wahanol. Hoffem hefyd gael clipiau unigol o’r prif fideo i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol (reel a grid instagram ayyb).
Bydd angen i’r fideo gynnwys rhai sleidiau â thestun a rhai gyda llun, yn ogystal ag adrannau wedi eu ffilmio gyda’r ddau fardd lle maent yn trafod eu gobeithion wrth gyflawni’r rôl. Mae’n bosib y byddwn yn dymuno cynnwys clipiau fydd yn cael eu recordio yn allan o bartneriaid yn eirioli dros y prosiect (i’w gadarnhau), a dylai orffen gyda sleidiau yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect a logos partneriaid.
Amserlen:
Dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o ddiddordeb: | 13 Medi |
Cyfarfod gyda Llenyddiaeth Cymru i drafod cynnwys: | 14 Medi |
Ffilmio gyda’r beirdd: | 15 – 22 Medi |
Golygu a chynhyrchu: | 23 – 27 Medi |
Cyflwyno drafft 1af: | 27 Medi |
Llenyddiaeth Cymru i roi adborth a sylwadau: | 27 Medi |
Isdeitlo: | 30 Medi – 4 Hydref |
Cyflwyno’r darnau gorffenedig i Llenyddiaeth Cymru: | 4 Hydref |
Mynegi Diddordeb:
Cysylltwch â gwasg@llenyddiaethcymru.org i fynegi eich diddordeb erbyn dydd Llun 13 Medi 2021. Os gwelwch yn dda darperwch esiamplau o’ch gwaith a dyfynbris am y gwaith a amlinellir yma.