Dewislen
English
Cysylltwch

Gwahoddiad i Gynnig Tendr: Ymchwil craidd i’r farchnad ar gyfer Tir a Llên Cymreig

Cyhoeddwyd Maw 13 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwahoddiad i Gynnig Tendr: Ymchwil craidd i’r farchnad ar gyfer Tir a Llên Cymreig
Llenyddiaeth Cymru / Pete Fowler

Mae Llenyddiaeth Cymru eisiau comisiynu ymchwil i’r farchnad (craidd) ynglŷn â diddordebau a dewisiadau cynulleidfaoedd sy’n chwarae gemau fideo gyda thema ffantasi. Bydd yr ymchwil yn adnabod y cynnwys a’r arddulliau sydd yn apelio fwyaf at y gynulleidfa, ac yn sail i ddatblygu ein prosiect ‘Tir a Llên Cymreig’ a fydd yn addasu ac yn hyrwyddo chwedloniaeth Gymreig fel ysbrydoliaeth ar gyfer gemau fideo.

 

Cyd-destun

Mae gan Gymru gasgliad cyfoethog o chwedlau, o lawysgrifau canoloesol a gasglwyd yn Y Mabinogion i’r straeon arwrol am y Brenin Arthur. Mae Cymru, ac ysgrifau Cymreig, wedi darparu ac ysbrydoli rhai o’r straeon ffantasi byd-eang mwyaf adnabyddus, gan cgynnwys The Lord of the Rings, His Dark Materials, a Howl’s Moving Castle.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi mapio’r dreftadaeth lenyddol yma fel rhan o wefan Gwlad y Chwedlau, a grëwyd gyda’r nod o gynyddu twristiaeth llenyddol ar draws Cymru. Mae’r wefan yn mapio 150 o straeon Cymreig trawiadol ac eiconig, ar draws deg thema amrywiol. Gall ymwelwyr dewis lleoliadau a straeon o ddiddordeb cyn derbyn cynllun teithio unigryw dros e-bost. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r wefan yn parhau i dderbyn 45,000  o ymweliadau bob blwyddyn, ar gyfartaledd, gyda 28% ohonynt yn dod o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Cafodd datblygiad o’r wefan ei lywio gan ymchwil i’r farchnad. Cynhaliwyd arolwg gan ‘The Audience Agency’, ar ran Llenyddiaeth Cymru, gyda dros 3,000 o unigolion o farchnadoedd targed yng Nghymru ac yn y DU. Nododd canlyniadau’r arolwg pa themâu a chynnwys a fyddai o fwyaf o ddiddordeb i gwsmeriaid posib, ac fe gyfrannodd tuag at ddewisiadau brandio a chelf y wefan.

Yn ogystal â hyrwyddo twristiaeth lenyddol, mae’r wefan hefyd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer casglu amrywiaeth o chwedlau a llên gwerin Cymreig. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgymryd â gwaith Ymchwil a Datblygu er mwyn dadansoddi hyfywedd masnachol addasu’r chwedlau hyn i ddeunydd ar gyfer gemau fideo. Ein gobaith yw datblygu asedau gydag awduron, artistiaid, a datblygwyr gemau o Gymru, gan ddysgu trwy’r ymchwil a fydd yn dadansoddi diddordebau chwaraewyr sydd ar hyn o bryd yn chwarae gemau sydd wedi eu seilio ar ffantasi a chwedloniaeth. Bydd yr asedau yn ymateb i anghenion ein cynulleidfa darged ac yn annog datblygiad pellach i gemau fideo sydd wedi’u hysbrydoli gan chwedlau Cymru.

Rydym yn cyflawni’r gwaith Ymchwil a Datblygu mewn partneriaeth â Clwstwr, sefydliad sydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant arloesol o fewn y sector sgrin yng Nghymru. Mae’n anelu i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin, boed hynny trwy ddatblygu gemau, cynhyrchu cyfryngau, neu newyddiaduraeth.

 

Am Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Rydym yn elusen gofrestredig, a gweithiwn i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn y Gymraeg, y Saesneg, ac yn ddwyieithog ar draws Cymru. Ein noddwr yw Sir Phillip Pullman, awdur His Dark Materials.

Mae dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn un o dri brif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Rydym yn ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru er mwyn dathlu ein hawduron cyfoes a’n treftadaeth lenyddol. Mae llenyddiaeth yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru. Mae ein treftadaeth lenyddol gyfoethog yn coleddu’r ddynameg hon o’r degawdau, y canrifoedd a’r milenia sydd wedi mynd heibio. Mae ein hawduron cyfoes yn saernïo’r ddynameg hon ac yn myfyrio arni yn awr, a hynny ar lwyfannau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein hawduron a’n darllenwyr yn hanfodol ar gyfer sicrhau cymdeithas iach, fywiog, agored a hunanymwybodol.

Rydym yn gweithio gydag awduron profiadol Cymru i ddod â mwy o amlygrwydd i’n llenyddiaeth a’i gwneud yn fwy hygyrch. Yn ei dro, mae hyn yn cynyddu’r gwerth a roddir ar lenyddiaeth Cymru ymhlith ein dinasyddion ni a dinasyddion gwledydd eraill. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i ddangos ein llenyddiaeth a’n hawduron ar eu gorau ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys, yn ogystal â gweithio i ysgogi comisiynau amlwg eu proffil gan sefydliadau eraill.

 

Y Cytundeb

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal arolwg gyda phobl (18-55 mlwydd oed) sydd wedi chwarae o leiaf un gêm fideo gyda thema ffantasi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gall fod naill ai’n gêm un chwaraewr neu’n gêm aml-chwaraewr, ac mae rhestr o deitlau enghreifftiol wedi eu cynnwys isod. Bydd yr arolwg yn targedu o leiaf 1,500 o unigolion cymwys sydd yn byw yn y gwledydd canlynol: Y Deyrnas Unedig; Iwerddon; Unol Daleithiau America; Yr Almaen; De Corea; a Siapan.

Yn gryno, bydd yr arolwg yn holi:

  1. Beth yw apêl gemau gyda thema ffantasi (llên, cymeriadau, themâu, graffeg, ffordd o chwarae, ayyb.)?
  2. Pa enghreifftiau o chwedlau Cymraeg y maent yn gyfarwydd â nhw, ac ydy’r chwareuwyr yn ymwybodol o’u tarddiad?
  3. Sut mae’r chwareuwyr yn ymgysylltu gyda llên gemau fideo (darllen yn y gêm, edrych ar wici, darllen unrhyw destun gwreiddiol)?
  4. Allwch chi raddio apêl yr amrywiaeth o chwedlau, ac esbonio pam?
  5. Allwch chi raddio apêl yr amrywiaeth o raffeg ac arddulliau rhyddiaith, ac esbonio pam?
  6. Am eu profiad blaenorol gyda gemau ffantasi sy’n gwreiddio o chwedloniaeth, a’u hymgysylltiad gyda’r chwedlau hynny y tu hwnt i’r gêm

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â mynediad at unigolion yn y gwledydd uchod sydd yn cyd-fynd â’r meini prawf, sydd wedi chwarae o leiaf un gêm thema ffantasi o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd â phrofiad o gasglu ymchwil i’r farchnad, yn ddelfrydol profiad yn ymwneud â gemau fideo.

Enghreifftiau o Gemau Ffantasi

Un Chwaraewr: Final Fantasy XV; Monster Hunter: World; The Elder Scrolls V: Skyrim; The Witcher 3: Wild Hunt; Dragon Age: Inquisition; Middle Earth: Shadow of Mordor; Ni-No-Kuni II: Revenant Kingdom; Dark Souls 3.

Aml-Chwaraewr: World of Warcraft; The Elder Scrolls Online; The Lord of the Rings Online; Runescape; Guild Wars 2.

 

Amserlen a Ffi

Rydym yn rhagweld y bydd yr ymchwil yn cychwyn ym mis Tachwedd 2020, a bydd angen ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2020.

Hoffem wahodd cynigion i ymgymryd â’r ymchwil uchod. Bydd y ffi cytunedig yn cael ei dalu mewn dau randaliad – 60% ar gychwyn y prosiect a 40% ar ôl ei gwblhau. Byddwn yn ystyried nifer o opsiynau prisio o fewn y dyfynbris, a all gynnwys newidynnau megis y nifer o ymgeiswyr yn yr arolwg, a ffurf cyflwyno dadansoddiad o’r data.

 

Sut i Ymgeisio

Os gwelwch yn dda, cyflwynwch ddyfynbris ynghyd â disgrifiad byr ohonoch chi / eich cwmni, yn ogystal â gwybodaeth am o leiaf un enghraifft o brosiect ymchwil i’r farchnad blaenorol yr ydych wedi ei wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn hefyd yn croesawu disgrifiad o sut y byddwch chi / eich cwmni yn canfod ymatebwyr sydd yn chwarae gemau ffantasi o’r gwledydd sydd wedi eu rhestru.

Os gwelwch yn dda, cyflwynwch y wybodaeth hon fel un ddogfen, er mae croeso i chi gynnwys unrhyw ddogfennau ategol neu linciau perthnasol. Dylai’r cyflwyniad gael ei anfon at post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pennawd ‘Tir a Llên Cymreig – Dyfyniad Ymchwil Marchnata.’

 

Dyddiad Cau: 5.00 pm (BST), Dydd Gwener 23 Hydref 2020

 

Caiff Llenyddiaeth Cymru ei gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Caiff prosiect ‘Tir a Llên Cymreig: Addasiad gêm fideo o Gwlad y Chwedlau’ ei ariannu gan Clwstwr.

Dogfennau Tendr

Dogfen Tendr Llenyddiaeth Cymru
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 100KB