Gweithdai Digidol i Ysgolion gan Children’s Laureate Wales
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi fod Children’s Laureate Wales, Eloise Williams bellach yn cynnig gweithdai digidol ar gyfer ysgolion.
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae’n bosib na fydd ymweliadau gan awduron yn cael eu caniatáu. Wrth gynnig gweithdai digidol ar gyfer ysgolion, bydd Eloise yn gallu parhau gyda’i gwaith o ddiddanu ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.
Cost gweithdy digidol gydag Eloise yw £150, a hynny am sesiwn hyd at 1 awr a hanner. Mae’r gweithdai hyn ar gyfer dosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2 a 3.
Gall ysgolion barhau i fwrw ati gyda cheisiadau am ymweliadau wyneb yn wyneb, ond mae’n bur debygol y byddai’n rhaid i’r ymweliadau hyn gael eu trefnu ar gyfer 2021 ymlaen.
Caiff y gweithdai digidol eu cynnal drwy gyfrwng Zoom, ar gyfrif diogel a chyfrinachol Llenyddiaeth Cymru. Oherwydd dyletswyddau gwarchod, caiff pob gweithdy eu recordio a’u cadw yn archif Llenyddiaeth Cymru. Ni fyddant yn cael eu rhannu. Disgwylir i athro fod yn bresennol gyda’r plant trwy gydol y gweithdy.
Er mwyn archebu gweithdy digidol, cwblhewch y ffurflen yma, neu am ragor o wybodaeth am Children’s Laureate Wales, cliciwch yma.