Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddwyd Llu 11 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn achlysur pwysig yng nghalendr llenyddol Cymru, ac yn dilyn ymgynghori â nifer o gynrychiolwyr o’r sector, yn cynnwys llyfrwerthwyr, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd y gwobrau mawreddog yma’n cael eu cynnal ar ffurf ddigidol newydd yn ystod yr haf.

Ynghyd a’n partneriaid, byddwn yn gweithio i ddatblygu cynnwys difyr i lwyfannu a dathlu’r gymdeithas lenyddol fywiog sydd yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau panel, darlleniadau a gweithgareddau rhyngweithiol i gyd-fynd â’r cyhoeddiadau.

Eleni byddwn yn cyhoeddi’r rhestr fer ar 1 Gorffennaf ac yn gwobrwyo’r enillwyr yn ystod Awst 2020. Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr a gyflwynir yn flynyddol i ddathlu talent lenyddol ragorol Cymru, yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r pedwar categori yn y ddwy iaith yn cynnwys am y tro cyntaf eleni wobr Plant a Phobl Ifanc, yn ogystal â Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol-greadigol. Bydd yr holl deitlau ar y rhestr fer hefyd mewn cystadleuaeth â’i gilydd am Brif Wobr, Llyfr y Flwyddyn.

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd bob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y rhestr fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360.

Yn dilyn llwyddiant seremoni 2019 yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth rydym yn falch o gyhoeddi y bydd seremoni Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd yno ar 10 Mehefin 2021.

 

Dyddiadau i’w Cofio:

Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2020:

  • Cyhoeddi rhestr fer 2020
  • Gwobrau Barn y Bobl yn agor ar wefannau Wales Arts Review a Golwg360.

Awst 2020

  • Cadwch lygad ar wefan Llenyddiaeth Cymru am ddatblygiadau a chyhoeddiadau pellach. Bydd dyddiadau pellach yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Dydd Iau 10 Mehefin 2021

  • Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2021, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Wales Book of the Year