Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddwyd Maw 29 Hyd 2019
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddi Categori Newydd Plant & Phobl Ifanc a Lleoliad Seremoni 2020

Rydym yn falch o gyhoeddi categori newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn, sef categori Plant a Phobl Ifanc.  Bydd y categori ychwanegol hwn yn annog ac ysbrydoli cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol a chodi proffil awduron talentog Cymru.

Credwn fod rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn llenyddiaeth, i uniaethu a chwympo mewn cariad â geiriau yn cael effaith gadarnhaol, barhaol wrth iddynt dyfu’n oedolion. Byddwn yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Cymru i sicrhau bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed, ac fe fydd cyfle iddynt bleidleisio yng Ngwobr Barn y Plant a Phobl Ifanc.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru “Drwy ymgynghori â’r sector, a’n partneriaid wrth ddatblygu’r Cynllun Strategol newydd, daeth yn amlwg bod awydd cryf i weld ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei gynrychioli ar lwyfan llenyddol mwyaf Cymru. Cytunwn yn llwyr, ac mae’r datblygiad pwysig hwn yn sefydlu’n glir bod llenyddiaeth i blant llawn werth a’r hyn a fwriadir ar gyfer oedolion.

Bydd y categori Plant a Phobl Ifanc yn ymuno â’r tri chategori hir sefydledig arall – Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol – yn Gymraeg ac yn Saesneg, gydag un o’r pedwar enillydd categori yn cael ei gyhoeddi yn Brif Enillydd y Wobr mewn seremoni fawreddog haf nesaf. Bydd ceisiadau i’r categori Plant a Phobl Ifanc wedi’u bwriadu ar gyfer darllenwyr hyd at 16 oed, ac mae ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol i gyd yn gymwys. Cliciwch yma i ddarllen meini prawf cymhwysedd y pedwar categori.

Yn dilyn seremoni hynod lwyddiannus yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn 2019, rydym yn falch iawn o gadarnhau y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2020 yn dychwelyd i Theatr y Werin ar nos Iau 25 Mehefin 2020.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am yr ail flwyddyn yn olynol. Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gorau o lenyddiaeth Gymreig yn Aberystwyth, cartref answyddogol llenyddiaeth yng Nghymru.”


Dyddiadau Allweddol 2020

Cyhoeddir Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar ddydd Mawrth 12 Mai 2020, ac fe gynhelir y Seremoni Wobrwyo ar ddydd Iau 25 Mehefin 2020. Bydd enwau’r panel beirniadu yn cael eu rhyddhau yn ystod Mawrth 2020. Cliciwch yma i ddarganfod mwy o wybodaeth am wobr Llyfr y Flwyddyn.