Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021: Cyfnod cyflwyno ar agor

Cyhoeddwyd Llu 2 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021: Cyfnod cyflwyno ar agor

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 7 Rhagfyr 2020*

Dylid cyflwyno llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi rhwng 1 – 31 Rhagfyr 2020 erbyn dydd Gwener 15 Ionawr 2021

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Caiff y Rhestr Fer, a fydd yn cynnwys tri llyfr ym mhob categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, ei chyhoeddi yn y gwanwyn, gydag enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2021.

Mae Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Prif enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 oedd Ifan Morgan Jones gyda’i nofel Babel (Cymraeg) a Niall Griffiths gyda’i nofel Broken Ghost (Saesneg). Cewch ragor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.

Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol ynglŷn a chyflwyno cyfrolau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gan gynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais ar gael yma.

Llyfr y Flwyddyn