Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Rising Stars Cymru 2021 Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press

Cyhoeddwyd Mer 20 Ion 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Rising Stars Cymru 2021 Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press

Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn buddsoddi mewn egin awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n byw yng Nghymru.

Mae Gwobr Rising Stars Cymru, sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press, yn rhoi cyfle i feirdd plant o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n byw yng Nghymru ddatblygu a mireinio eu sgiliau. Dyma’r ail waith i’r cynllun hwn gael ei gynnal, yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn 2020, ac mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn falch o gyhoeddi bod dau fardd, sy’n dangos gwir addewid, wedi cael eu dewis i dderbyn Gwobr Rising Stars Cymru 2021.

Y beirdd yw Connor Allen a Bev Lennon.

Mae’r ddau yn derbyn gwobr ariannol o £100 yr un, wedi ei noddi gan Quatro Translations, yn ogystal â chyfleoedd datblygu gan Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press, gyda’r nod o gynnwys eu gwaith ochr yn ochr â gwaith tri enillydd blaenorol Gwobr Rising Stars Cymru mewn antholeg arbennig. Bydd y ddau fardd hefyd yn derbyn sesiwn fentora gydag Alex Wharton, enillydd Gwobr Rising Stars 2021, a fydd yn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, y mis hwn gyda Firefly Press.

Mae Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb wedi ei nodi fel un o dair prif flaenoriaethau Cynllun Strategol 2019-2022 Llenyddiaeth Cymru. Yn hanesyddol nid yw llenyddiaeth plant wedi bod yn gynrychioliadol o ystod amrywiol o leisiau a straeon, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod bod llawer mwy o waith angen wneud i fynd i’r afael â’r diffyg hwn. Yn ôl Reflecting Realities, adroddiad a gyhoeddwyd gan Y Ganolfan ar gyfer Llythrennedd mewn Addysg Gynradd, dim ond 7% o’r llyfrau plant a gyhoeddwyd yn y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf (2017, 2018, 2019) sydd yn cynnwys cymeriadau o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.

Mae prosiect Rising Stars yn un o blith nifer o gynlluniau newydd gan Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sector llenyddol a’r sector cyhoeddi yng Nghymru. Yn dilyn galwad agored y llynedd, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enwau’r awduron rheiny a ddewiswyd ar gyfer Rhaglen Datblygu Proffesiynol i Awduron o Liw yn yr wythnosau nesaf.

Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn credu y dylai awduron Cymru adlewyrchu pobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, rhyw, rhanbarthau ac ieithoedd. O ganlyniad, mae buddsoddi mewn awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig yn gam hanfodol ymlaen at sicrhau nad oes unrhyw rwystrau mewn llenyddiaeth.

 

Connor Allen

Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer rownd yr enillwyr. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, yn ogystal â chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer ei wefan, 27. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.

 

Bev Lennon

Mae Bev Lennon yn hanu o dde Llundain, ond symudodd i’r Barri yn 1987. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1990. Mae ei gwaith ar gyfer y radio yn cynnwys Learning Welsh ar BBC Catchphrase a’i sioe hi ei hun, Bev. Enillodd ei BA Ed erbyn 1997. Comisiynwyd ei braslun comedi teledu cyntaf gan The Real McCoy (BBC) ac mae hi i’w gweld yn The Joke’s On Us gan Pandora Press. Mae ei cherdd The Consultation yn ymddangos yng nghasgliad Allan o’r Golwg (Disability Arts Cymru). Cafodd Bev ei anrhydeddu gyda’r Wisg Las yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019. Mae Bev yn ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ac yn mwynhau ysgrifennu creadigol ac mae hi’n athrawes gyflenwi ar gyfer Cymraeg.

 

 

Meddai Penny Thomas, Cyhoeddwr Firefly, “Rydyn ni wrth ein bodd o gael bod yn rhan o Rising Stars 2021 ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r enillwyr ac egin awduron eraill o gefndiroedd amrywiol dros y misoedd nesaf, gyda’r nod o gyhoeddi blodeugerdd o farddoniaeth plant posib.”

 

Meddai Robin Bennet, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Quarto Translations, “Rydyn ni’n hynod falch o noddi gwobr Rising Stars Cymru unwaith yn rhagor eleni. Mae amrywiaeth yn y byd cyhoeddi yn allweddol: po eang y taflwn ni’r rhwyd, po fwyaf y siawns sydd o ddal dychymyg plant o phob cefndir.”

 

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Firefly Press unwaith eto eleni ar y wobr arbennig yma, sydd yn rhoi llwyfan i leisiau amrywiol oddi fewn i fyd ysgrifennu i blant yng Nghymru. Rydym eisoes wedi gweld sut y gall y wobr hon gael effaith arwyddocaol ar yrfa awdur, gyda Firefly Press yn arwyddo cyfrol farddoniaeth i blant gan Alex Wharton ar gyfer 2021. Dyma gyfnod cyffrous i ddiwylliant llenyddol Cymru.”

 

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd datblygu awduron gan Llenyddiaeth Cymru, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am Firefly Press a chyhoeddiadau diweddaraf, cliciwch yma.

 

Am Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, rydym wedi datgan ein hymrwymiad at fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sector llenyddiaeth drwy bennu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau.

Am Firefly Press

Cyhoeddwr annibynnol llyfrau plant a phobl ifanc yw Firefly Press, a chanddynt swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Aberystwyth. Ers eu sefydlu 2013, Firefly yw’r unig gyhoeddwr yng Nghymru sy’n bodoli’n unswydd ar gyfer plant. Mae’n cyhoeddi ffuglen o safon mewn genres o bob math i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 19 oed ac maent wedi ennill gwobrau niferus am eu gwaith. Eu nod yw cyhoeddi llyfrau gan awduron a darlunwyr gwych, waeth o ble y daw’r rheini. Ymhlith eu llwyddiannau diweddar y mae The Clockwork Crow gan Catherine Fisher, a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Llyfrau Blue Peter ac a enillodd Wobr Tir na N’og, ac Aubrey and the Terrible Yoot gan Horatio Clare, a enillodd wobr Branford Boase am y nofel gyntaf orau i blant.

ant.