Dewislen
English
Cysylltwch

Hachette yn cyhoeddi Grow Your Story – Rhaglen ddatblygu ar gyfer awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig

Cyhoeddwyd Gwe 4 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Hachette yn cyhoeddi Grow Your Story – Rhaglen ddatblygu ar gyfer awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig

Mae THRIVE (rhwydwaith BAME Hachette UK) yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnig rhaglen ddatblygu ffuglen ar gyfer awduron heb asiant a heb eu cyhoeddi o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig, i gychwyn yn Ionawr 2021. Ni fydd cost ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen, ac mae’r rhaglen ar agor I awduron o’r DU ac Iwerddon.

Cefnogir y rhaglen gan David Higham Associates, The Future Bookshelf, Spread the Word a’i noddi gan yr adrannau masnach oedolion – Bookouture, Headline Publishing, Hodder & Stoughton, John Murray Press, Little, Brown, Orion a Quercus.

Bydd awduron ar y rhaglen yn cael cyfle i ddatblygu eu llawysgrif trwy weithdai ar-lein dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd pob awdur hefyd yn cael cynnig mentoriaeth un i un gyda golygydd ac asiant am hyd at naw mis.

Mae THRIVE a Hachette UK yn cynnig y canlynol i’r 10 awdur a gaiff eu dewis ar gyfer rhaglen 2021:

– Saith gweithdy ar-lein dan arweiniad Rowan Hisayo Buchanan (awdur Starling Days a Harmless Like You) a Niki Chang (asiant David Higham) ochr yn ochr â golygyddion Hachette Becky Walsh, Ed Wood, Emad Akhtar, Eleanor Dryden, Federico Andornino a Rose Tomaszewka. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys golygu, ailddrafftio, pitsio a dod o hyd i graidd eich stori. Bydd gweithdai ar-lein yn cael eu cynnal rhwng Ionawr a Chwefror 2021 – dyddiadau i’w cyhoeddi ym mis Tachwedd.

– Panel Holi ac Ateb Awdur i’w arwain gan Bobby Nayyar (Rheolwr Rhaglen Spread the Word)

– Adborth ar eu gwaith a gyflwynwyd yn ystod y gweithdai – bydd hyd at ddau awdur yn cael eu dewis ar gyfer asesiad grŵp fesul gweithdy

– Y cyfle i gynnwys enghreifftiau o’u gwaith mewn llyfryn ac ar-lein o Wanwyn 2021 ymlaen

– pecyn mentora cynhwysfawr o Ebrill 2021 – yn cynnwys hyd at 6 awr o fentora un i un gyda golygydd Hachette ac asiant, a phecyn o lyfrau ysgrifennu creadigol ac ymweliad â swyddfeydd Hachette UK (yn dibynnu ar y lleoliad), ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb â’u mentor golygyddol

– Cyfarfodydd ar-lein bob pythefnos ag awduron ar y rhaglen o Ebrill 2021 (hyd at 9 mis) gyda sgyrsiau gwesteion arbennig wedi’u trefnu.

Meddai Ella Patel, Cyd-arweinydd Allgymorth THRIVE “Rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd egin awduron o bob cwr o’r byd, eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i wneud y camau nesaf yn eu gyrfaoedd fel awduron ac yn eu tro gymryd y camau angenrheidiol i wella cynrychiolaeth wrth gyhoeddi.”

Meddai Niki Chang, Asiant Llenyddol David Higham Associates “Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn bartner gyda Hachette, THRIVE, The Future Bookshelf, a Spread the Word ar y rhaglen ddatblygu bwysig hon ar gyfer awduron o liw. Yn DHA rydym yn angerddol dros feithrin talent newydd a helpu i adeiladu diwydiant gwirioneddol amrywiol. Rydym yn hynod gyffrous ar gyfer creu cysylltiadau newydd ag awduron a’u cefnogi yng nghamau cynnar hanfodol eu gyrfaoedd.”

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Hachette, David Shelley “Ein cenhadaeth yn Hachette yw ei gwneud hi’n hawdd i bob darllenydd, ym mhobman, ddarganfod bydoedd newydd. Felly rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr awduron rydyn ni’n eu cyhoeddi yn gynrychioliadol o’r darllenwyr rydyn ni’n eu gwasanaethu – ac rydyn ni’n gwybod bod gennym ni lawer i’w wneud i gyrraedd y lle hwnnw. Rwy’n cael fy nghyffroi’n fawr gan y Gweithdy Ysgrifennu a’r Rhaglen Fentora THRIVE gyda chefnogaeth David Higham Associates, mae The Future Bookshelf a Spread the Word wedi dyfeisio, gan fy mod yn gobeithio y dylai fod yn ffordd ymarferol o ddatblygu talent greadigol newydd ddeinamig o sylfaen fwy amrywiol a helpu i adeiladu cysylltiadau ag awduron poblogaidd y dyfodol.”

I wneud cais am y rhaglen, bydd angen i chi gyflwyno: sampl tair mil o eiriau o’ch nofel; crynodeb un dudalen o’r llyfr; a datganiad personol un dudalen ar pam y byddech chi’n elwa o raglen ddatblygu.

Rhwydwaith BAME Hachette UK fydd yn beirniadu’r rownd gyntaf. Bydd rhestr fer o 10 awdur yn cael ei beirniadu gan:

– Charlie Brinkhurst-Cuff – Pennaeth Golygyddol ar gyfer gal-dem, awdur ar eu liwt ei hun ac awdur Mother Country

– Emad Akhtar – Cyhoeddwr Orion Fiction

– Niki Chang – Asiant Llenyddol yn David Higham Associates

– Rowan Hisayo Buchanan – awdur Startling Days a Harmless Like You

– Joey Esdelle – Cyd-Gadeirydd THRIVE

Bydd y cyfnod cyflwyno yn agor am 12.00 GMT ar 4 Medi 2020, a bydd yn cau ar 14 Medi 2020, am 11.59 GMT.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma: GrowYourStory.hachette.co.uk