‘Hold You’, cerdd i nodi Diwrnod Alzheimer y Byd gan Fardd Cenedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd Hanan Issa yn Fardd Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2022, a chymerodd yr awenau’n swyddogol gan gyn-ddeiliad y swydd, Ifor ap Glyn ym mis Medi. Mae mis Medi hefyd yn Fis Alzheimer’s y Byd, cyfle i godi ymwybyddiaeth am ddementia, i addysgu, ac i annog pobl i gefnogi’r achos. Thema Mis Alzheimer y Byd eleni yw Adnabod dementia, adnabod Alzheimer. Dyma’r un thema â 2021, ond eleni mae ffocws arbennig ar gymorth wedi diagnosis.
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn mynd â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog eraill i ddefnyddio’u llais creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol. Maen nhw’n llysgennad dros bobl Cymru, yn eiriol dros yr hawl i fod yn greadigol ac yn lledaenu’r neges bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb. Rhan o rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yw ysgrifennu cerddi comisiwn, rhai wedi’u comisiynu gan Llenyddiaeth Cymru, y corff cenedlaethol sy’n rhedeg y prosiect. ‘Hold You’ yw’r cyntaf o’r comisiynau hyn, sydd ar thema agos at galon Hanan.
Hold You
“Beware of the tigers, shunar beti1,”
you warn each time I leave the hospital.
As if the Moulvibazar jungle had
twined its vines around the streets of Heath
and tigers roamed the cherry-blossomed roads.
Forced to watch your fairy lights wink out.
One by one, your memories drop off the shelf
slowly, as a spider drags a fly
from knowing to confusion to certainty
over and over and over again.
“D’you know they took my car back?”
You fret each time I sit on your settee.
As if the years you spent zooming left and right
on errands for family meant nothing now
that you sometimes forget your left, your right.
You fill your wall with faces you can’t place,
every hesitation before you say my name stings.
I promise to hold you as Abba, as Nan –
fixing a car, buttering my toast.
Hanan Issa
Bardd Cenedlaethol Cymru /
National Poet of Wales
1 Bengali term of endearment meaning ‘golden girl’
Comisiynwyd cyfieithiad Cymraeg o’r gerdd gan y bardd Iestyn Tyne, ac mae i’w gweld ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Os ydych chi neu eich anwyliaid yn cael eich effeithio gan ddementia, neu os ydych yn poeni am eich cof neu eu cof, cysylltwch â Alzheimer’s Society Cymru.
Mae Alzheimer’s Society yn bodoli i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu, bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn a’u gwella trwy ymgyrchu, ac y bydd dyfodol mwy disglair iddynt diolch i fuddsoddiad mewn ymchwil. Dysgwch fwy am yr elusen, am Fis Alzheimer y Byd, a chanfod gwybodaeth a chymorth penodol i Gymru ar wefan Alzheimer’s Society Cymru.