Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dyfarnu £5,000 mewn comisiynau digidol

Cyhoeddwyd Gwe 12 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dyfarnu £5,000 mewn comisiynau digidol

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Seiciatryddion yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi enwau’r awduron sydd wedi eu comisiynu i greu cynnwys a/neu brosiectau digidol gwreiddiol i gyfranogwyr yn dilyn galwad agored diweddar.

Oherwydd haint COVID-19, mae swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru ar gau, a rhan helaeth o’n gweithgaredd wedi ei ohirio. Serch hynny, mae ein hymrwymiad i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru mor gadarn ac erioed.

Ar 1 Ebrill 2020 fe gyhoeddom rownd gomisiynu lle gwahoddwyd awduron llawrydd i anfon mynegiant o ddiddordeb i ddyfeisio a chreu cynnwys a phrosiectau digidol gwreiddiol. Cyhoeddwyd ail rownd gomisiynu ar 4 Mai 2020, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Ffocws y rownd yma oedd iechyd a llesiant. Caiff llenyddiaeth ei ddefnyddio’n aml fel therapi, ac yn feddyginiaeth i atal, lliniaru a gwella rhai afiechydon ac anableddau. Sylwyd ar ystod o ganlyniadau lles amlwg mewn treialon clinigol lle cynigiwyd ysgrifennu a darllen creadigol ar bresgripsiwn. Roedd y canlyniadau yn cynnwys llai o symptomau iselder, llai o risg dementia a phobl yn gallu disgwyl byw’n hwy. Mae ystod llawn effaith posibl llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn cyfrannu at wella lles yn cyfrannu at wella lles unigolion, ein cymdeithas, ein heconomi a’n diwylliant.

Roedd y cynllun yn gystadleuol tu hwnt, a daeth nifer o gynigion dyfeisgar i law. Dewiswyd 10 ohonynt i’w comisiynu, a bydd awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol yn sicr o elwa o’u cynnwys a’u gweithgareddau arfaethedig yn ystod y cyfnod cythryblus hwn.

Yr awduron sydd wedi eu comisiynu yw Fiona Collins, Siân Melangell Dafydd, Ffion Jones, Deborah Llewellyn, Sian Northey, Grace Quantock, Kerry Steed, David Thorpe, Amanda Wells a Paul Whittaker. Mae’r gweithiau comisiwn yn cynnwys gweithdai digidol ar gyfer cleifion gyda chyflyrau cronig; casgliadau digidol o atgofion pobl hŷn; fideo ynglŷn ag ysgrifennu therapiwtig diogel ac effeithiol; webinarau ac ymarferion i godi hyder a gwella iechyd meddwl; gweithdai digidol ar gyfer y grwpiau sydd wedi eu hynysu – plant sy’n derbyn addysg adref fel arfer ag y rheiny sy’n byw ag anableddau; gweithdai ysgrifennu a yoga a chwrs ac adnoddau ar-lein ar gyfer artistiaid sydd â diddordeb mewn gweithio iddi fewn i’r sector iechyd a llesiant yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ceir rhagor o wybodaeth am bob prosiect isod, ac fe gyhoeddir manylion pellach a bywgraffiadau awduron ar ein gwefan yn fuan.

Y Prosiectau:

Bydd Fiona Collins yn casglu ac yn rhannu atgofion pobl hŷn, a hynny trwy ddulliau digidol; cyfle i unigolion gael eu clywed a’u gwerthfawrogi, a chadarnhau fod eraill yn gwerthfawrogi eu straeon.

Bydd Siân Melangell Dafydd yn cynnal cyfres o dri gweithdy yoga ac ysgrifennu creadigol, yn ogystal â gweinyddu grŵp Facebook preifat. Bydd yn fan i gynnal trafodaethau tu hwnt i’r dosbarth, a bydd ymarferion cartref yn cael eu rhannu yno. Dyma brosiect ar gyfer pob un, yn arbennig y rheiny sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, megis gor-bryder, yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd Ffion Jones yn datblygu ac yn cyflwyno cwrs ysgrifennu creadigol ar-lein wedi’i ysbrydoli gan gelf, a hynny ar gyfer dau grŵp o blant ac oedolion ifainc (rhwng 4 a 10 mlwydd oed, a rhwng 11 ac 16 mlwydd oed) sy’n cael eu haddysgu o adref. Bydd y prosiect hwn yn derbyn cefnogaeth gan sefydliad cynhwysedd cymdeithasol Mountain Movers, sy’n darparu cyfleoedd i deuluoedd sy’n addysgu o gartref.

Bydd Deborah Llewellyn yn cynnal cwrs barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol ar-lein ar gyfer unigolion sy’n byw gyda phoen cronig. Bydd y cwrs hwn yn darparu man diogel i drafod meddyliau a theimladau wrth archwilio lleisiau a dulliau ysgrifennu amrywiol. Bydd yn cynnig ymdeimlad o bwrpas, ac yn gyfle i gysylltu gydag eraill.

Bydd Sian Northey yn dylunio adnodd Cymraeg ei iaith ar gyfer unigolion sy’n dymuno arwain gweithdai ysgrifennu creadigol mewn cyd-destun iechyd a llesiant. Caiff yr adnodd ei anelu at ddwy gynulleidfa: awduron sy’n newydd i waith iechyd a llesiant; ac elusennau / grwpiau cymorth sydd â’r bwriad o gynnal sesiynau ysgrifennu creadigol ond sydd eisiau cynyddu eu hyder.

Bydd Grace Quantock yn creu fideo ynglŷn â sut i ysgrifennu am emosiynau neu atgofion poenus mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Bydd Grace hefyd yn ysgrifennu ac yn dylunio adnodd yn cynnwys cyngor ac argymelliadau er mwyn cefnogi gofalwyr ac unigolion ag anableddau, yn ogystal â chynnal gweminar gaeedig.

Bydd Kerry Steed yn cynnal cwrs ar-lein ar gyfer awduron yng Nghymru sy’n gweithio ym myd ysgrifennu ar gyfer iechyd a llesiant. Bydd Kerry hefyd yn trefnu grŵp ar-lein sy’n cynnig cymorth, gofod trafod, mynediad at ddeunyddiau sy’n berthnasol i’r cwrs, adnoddau, ysbrydoliaeth ac awgrymiadau.

Bydd David Thorpe yn creu cyfres o weminarau ac ymarferion gyda’r nod o greu gofod diogel i awduron fynegi eu teimladau a thrafod effeithiau emosiynol y cyfnod clo. Gan ddefnyddio ystod o ymarferion gwahanol, bydd yr adnodd hwn yn gyfle i fagu hyder a gwella lles emosiynol.

Bydd Amanda Wells yn cynnal gweithdai caeedig digidol ar gyfer grwpiau o bobl fregus, megis unigolion gydag anableddau, unigolion â phroblemau iechyd meddwl a phobl hŷn. Bydd y gweithdai hyn yn cyfuno technegau barddoniaeth gweledol ac ysgrifennu creadigol.

Bydd Paul Whittaker yn treialu gweithdy ysgrifennu gyda chleifion â salwch cronig sydd ar hyn o bryd yn hunan-ynysu, gyda’r nod o greu cywaith hunangofiannol eu hunain y gellir eu rhannu gyda staff a chynulleidfa ehangach ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.