Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi 13 awdur i fentora grŵp awduron Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw

Cyhoeddwyd Maw 22 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi 13 awdur i fentora grŵp awduron Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw

Heddiw fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru enwau’r 13 Mentor sydd wedi eu dethol ar gyfer ein rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw.

Y Mentoriaid, sydd ymysg rhai o’r awduron mwyaf cyffrous ac uchel eu parch yn y byd llenyddol, yw Ishmahil Blagrove, Malika Booker, Zoë Brigley, Eric Ngalle Charles, Salma el Wardany, Inua Ellams, Mona Eltahawy, Jasleen Kaur, Daniel Morden, Abi Morgan, Alastair Reynolds, Manon Steffan Ros, a Michael Rosen.

Mae rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw yn un o brif brosiectau Llenyddiaeth Cymru. Ei phrif nod yw gweddnewid diwylliant llenyddol Cymru i un sydd yn cynrychioli lleisiau amrywiol ein cymunedau ac i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled ein gwlad a thu hwnt am eu crefft. Gellir darganfod mwy am y rhaglen yma.

Mae’r Mentoriaid yn adlewyrchu rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus y sin llenyddol, ac mae pob un yn cynnig cyfoeth o wobrau, genres, a phrofiadau amrywiol. O enillydd gwobr driphlyg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, i sgriptiwr ac enillydd BAFTA, yn ogystal ag un o hoff awduron plant gwledydd Prydain, bydd cyfraniad y Mentoriaid yn sicr o gael effaith uniongyrchol ar ddatblygiad a phrosiectau’r awduron, a thrwy hyn, ar ddiwylliant ein llenyddiaeth yn ehangach.

Meddai Mona Eltahawy, un o fentoriaid y rhaglen: “Un o’r heriau mwyaf fel awdur o liw ydi dy fod di weithiau’n teimlo fel yr unig un, gyda dim ond llond llaw o enghreifftiau o sut i lwyddo mewn diwydiant cyhoeddi gwyn. Gall y cynllun mentora hwn helpu’r awduron drwy eu paru gydag awduron sydd gam ar y blaen ar eu gyrfa fel awdur, er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth.”

Mae Rhaglen Cynrychioli Cymru yn rhedeg am 12 mis, a bydd yr elfen o fentora un-i-un yn rhan bwysig o ddatblygiad creadigol a phroffesiynol pob awdur. Bydd y mentoriaid yn gymorth i fagu hyder yr awduron yn eu hysgrifennu, i ddatblygu eu proffil o fewn y byd llenyddol yng Nghymru a thu hwnt, ac i ehangu eu gwybodaeth o’r sector a’r rhwydweithiau cyhoeddi ehangach.

Cafodd pob un o’r Mentoriaid eu dethol trwy ymgynghori gyda’r awduron sydd yn rhan o’r rhaglen. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd y Mentoriaid yn rhannu eu harbenigedd â’r awduron, ac yn helpu i ddatblygu’r grefft ysgrifennu ymhellach, yn ogystal â rhannu profiadau personol o’u teithiau llenyddol eu hunain.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r diffyg cynrychiolaeth hanesyddol yn ein diwylliant llenyddol yn araf newid o’r diwedd. Mae Mentora yn rhan ganolog o raglen Cynrychioli Cymru er mwyn meithrin lleisiau a thalent amrywiol arbennig Cymru, a datblygu potensial pob awdur i drawsnewid ein diwylliant llenyddol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld datblygiad a phenllanw’r berthynas fentora dros y misoedd nesaf.”

Bydd pob pâr yn cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, gyda sesiynau yn adlewyrchu ystod o destunau a themâu gwahanol, o olygu gwaith creadigol i archwilio cyfleoedd proffesiynol. Mae’r sesiynau wedi cael eu teilwra i fod mor unigryw ag sydd yn bosib, gyda phob partneriaeth yn gweithio tuag at gyrraedd amcanion personol yr awduron eu hunain. Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am awduron y rhaglen, a’u hamcanion, yma.

Meddai Zoë Brigley, un o Fentoriaid y rhaglen: “Mae’n ffaith nad yw pawb yn cael eu trin yr un fath, a does dim mynediad gan bawb at yr un adnoddau a chyngor. Mae mor bwysig sicrhau nid yn unig cyfartaledd, ond gwell tegwch hefyd, gan roi help llaw i’r rheiny sydd angen cymorth i adnabod eu lleisiau ac i ddatblygu eu potensial.”

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen, a bywgraffiadau’r holl Fentoriaid, ar gael ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.

Ar Gyfer Awduron