Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn penodi Dr Cathryn Charnell-White fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli

Cyhoeddwyd Gwe 28 Mai 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn penodi Dr Cathryn Charnell-White fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli
Cathryn Charnell-White

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai Dr Cathryn Charnell-White yw Cadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli.

Yn ystod cyfarfod diweddaraf y Bwrdd Rheoli ar ddydd Iau 20 Mai 2021, fe gamodd Dr Kate North i lawr o’r Bwrdd a’i rôl fel Cadeirydd wedi iddi gwblhau’r tymor gwasanaeth a nodir yn Erthyglau Cymdeithas y sefydliad.

Yn ystod yr un cyfarfod, fe etholwyd Cathryn Charnell-White yn unfrydol i olynu Kate North fel Cadeirydd Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn ddiolch i Kate North am ei hymroddiad a’i harweiniad yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Mae hi wedi’n cynorthwyo i lunio gweledigaeth gref ar gyfer y sefydliad, ar sail cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a gwir gred mewn grym llenyddiaeth i drawsnewid bywydau. Rydym yn hynod falch o ethol Cathryn Charnell-White fel ein Cadeirydd newydd. Mae cyfraniadau Cathryn yn ystod ei thymor presennol wedi bod yn hynod werthfawr, a bydd yn arwain y sefydliad trwy ei bennod nesaf gydag hyder, ymroddiad a gwerthoedd cadarn.”

Cathryn Charnell-White yw Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth Gymreig, merched a barddoniaeth, a llenyddiaeth y tywydd yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Cathryn oedd Pencampwr Cydraddoleb ac Amrywiaeth yr Adran (2018–20) a bu’n eistedd ar y pwyllgor canolog ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gweld eu hunain yn y cwricwlwm. Datblygodd fodiwl newydd, ‘Testunau’r Enfys’, gyda chydweithiwr yn yr Adran Theatr Ffilm a Theledu, a hwn yw’r modiwl LHDT+ cyntaf o’i fath mewn Adran Gymraeg. Bu’n Aelod o’r Cyngor i Gyngor Llyfrau Cymru hefyd. Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru ers Tachwedd 2019.

Meddai Cathryn Charnell-White: “Anrhydedd o’r mwyaf fydd cael cadeirio Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru ar drothwy degawd newydd yn ein hanes. Edrychaf ymlaen at gael arwain trafodaethau ar ein cynllun strategol newydd, ac yn benodol at gael gyrru prosiectau sy’n rhoi sylw i les a thangynrychiolaeth, ac at gydweithio’n agos â phartneriaid yn y sector i luniaru effeithiau COVID-19 ar ein diwylliant llenyddol.”

Daw penodiad Cathryn fel Cadeirydd wrth i’r sefydliad nodi 10 mlynedd fel y cwmni cenedlaethol dros ddatblygiad llenyddiaeth. Mae Bwrdd Rheoli’r sefydliad yn cynnwys 12 o Gyfarwyddwyr, ac yn cynnwys amrywiaeth o unigolion proffesiynol a chreadigol sydd yn cynnig sgiliau a gwybodaeth hanfodol er mwyn llywio ein gweithgaredd a’n strategaeth.

Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru, ewch i: https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni/bwrdd-rheoli/