Dewislen
English
Cysylltwch

Llyfr y Flwyddyn 2023: Cyhoeddi’r Beirniaid

Cyhoeddwyd Iau 2 Maw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llyfr y Flwyddyn 2023: Cyhoeddi’r Beirniaid
A hithau’n Ddiwrnod y Llyfr 2023, rydym yn falch o nodi’r diwrnod trwy gyhoeddi panel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023. 

Mae’r panel Cymraeg eleni’n cynnwys y bardd arobryn Ceri Wyn Jones; enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones. 

Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, actores ac enillydd BAFTA Emily Burnett; yr awdur a’r athro Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker. 

Yng ngeiriau’r beirniaid:

‘Mae’n fraint cael bod yn rhan o unrhyw broses sy’n hyrwyddo a gwobrwyo llenyddiaeth yng Nghymru. Ac mae hynny’n arbennig o wir yn achos gwobr Llyfr y Flwyddyn, gwobr sy’n dathlu’r ffaith ein bod ni, nid yn unig yn genedl o awduron, ond yn genedl o ddarllenwyr hefyd.’ 

 – Ceri Wyn Jones

‘Mae’n fraint cael y cyfle i feirniadu categori pwysig sydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc heddiw ac awduron y dyfodol.’

Savanna Jones 

Roedd derbyn y cais i feirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni yn sioc hyfryd ac yn anrhydedd llwyr. Dwi’n arbennig o ddiolchgar am y cyfle i feirniadu yn ystod blwyddyn mor gref â hon sy’n gyforiog â lleisiau newydd a gwreiddioldeb eithriadol. Adlewyrcha’r llyfrau gyfoeth yr arlwy o lenyddiaeth sydd wedi bod erioed yma yng Nghymru; mae darllen pob un wedi bod yn bleser ac yn fraint.’

Megan Angharad Hunter

 

I ganfod mwy am y panel beirniadu, ewch i dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn.

 

Y Wobr

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dewisai’r beirniaid enillwyr mewn pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. 

Ceir cyfanswm o ddeuddeg gwobr sydd oll yn trysori, dathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Cyniga’r wobr lwyfan amhrisiadwy i awduron newydd a sefydledig Cymru. 

Fel pob blwyddyn, byddwn yn rhannu cyhoeddiadau cyffrous ddechrau’r Haf. Yn gyntaf ceir cyhoeddiad y rhestrau byrion, cyn dilyn â’r prif gyhoeddiadau, sef enillwyr y categorïau a’r prif enillwyr. Cadwch lygad ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru dros yr wythnosau nesaf i fod gyda’r cyntaf i glywed trefniadau’r wobr eleni, yn cynnwys dyddiadau pwysig i’r dyddiaduron. Yn y cyfamser, ewch i ganfod mwy am enillwyr y gorffennol. 

Hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch yn fawr am gefnogaeth arianwyr a phartneriaid y gwobrau: Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru, Golwg 360, BBC Cymru Wales, a’r Wales Arts Review. 

Llyfr y Flwyddyn