Dewislen
English
Cysylltwch

Lucent Dreaming yn Cyhoeddi Maps & Rooms, Antholeg gan Gyfranogwyr Cynrychioli Cymru 2021-22

Cyhoeddwyd Llu 11 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lucent Dreaming yn Cyhoeddi Maps & Rooms, Antholeg gan Gyfranogwyr Cynrychioli Cymru 2021-22

Yn ddiweddar, mae’r chyhoeddwr llyfrau annibynnol a chylchgrawn, Lucent Dreaming wedi cyhoeddi eu llyfr cyntaf,  Maps & Rooms: Writing from Wales.

Casgliad o waith o bob rhan o Gymru yw Maps & Rooms: Writing From Wales sy’n amlygu perthynas parhaus ac amlhaenog gyda lle. Gwaith gan gyfranogwyr rhaglen Cynrychioli Cymru 2021-22 Llenyddiaeth Cymru a gyflwynir yn y gyfrol, gan arddangos lleisiau rhagorol unigolion sydd wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn hogi eu sgiliau ac yn ehangu eu gwybodaeth o’r diwydiant cyhoeddi.

Maps & Rooms yw’r llyfr cyntaf gan y cyhoeddwr o Gaerdydd, Lucent Dreaming, sydd wedi cyhoeddi ei gylchgrawn annibynnol ei hun ers sefydlu yn 2018. Mae’r antholeg yn adlewyrchu cenhadaeth Lucent Dreaming i hyrwyddo talent newydd. 

Cynrychioli Cymru yw rhaglen datblygu proffesiynol blwyddyn o hyd Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron. Nod y rhaglen yw gwella cynrychiolaeth o fewn y sector llenyddiaeth yng Nghymru trwy ddarparu mentora, cyfleoedd hyfforddi, a gwobr ariannol i awduron o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli. Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig tuag at nod Llenyddiaeth Cymru o ddatblygu sector lenyddol sy’n cefnogi mynediad teg i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol. 

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r holl awduron y tu hwnt i’r rhaglen 12 mis drwy gynnig mentora pellach, hyrwyddo eu gwaith, a’u cyfeirio at gyfleoedd creadigol a phroffesiynol perthnasol.

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Gallwch ddysgu mwy am gyfranogwyr Cynrychioli Cymru 2021-22 yma. 

Cyhoeddwyd Maps & Rooms: Writing from Wales ar 14 Mehefin 2022 ac fe’i lansiwyd yn nigwyddiad Llenyddiaeth Cymru, Dihuno’r Dychymyg, yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn nodi cyfres newydd o ddigwyddiadau gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu barddoniaeth yn y Senedd, gyda pherfformiadau gan Nia Morais, Taz Rahman, a Durre Shahwar, aelodau o’r garfan Cynrychioli Cymru; Casi Wyn, Bardd Plant Cymru; ac areithiau gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, Cyd-Brif Weithredwyr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru Leusa Llewelyn a ClaireFurlong, a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, CathrynCharnell-White a Natalie Jerome. 

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn siarad yn y digwyddiad Dihuno’r Dychymyg
Un o awduron Cynrychioli Cymru, Nia Morias, yn perfformio yn y digwyddiad Dihuno’r Dychymyg

Gellir archebu Maps & Rooms o wefan Lucent Dreaming nawr. 

Cynrychioli Cymru