Dewislen
English
Cysylltwch

Seminar Llenyddiaeth British Council 2021

Cyhoeddwyd Mer 3 Chw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Seminar Llenyddiaeth British Council 2021

Eleni mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â’u partneriaid, yn dathlu blwyddyn Cymru yn yr Almaen. Rhwng 4 – 6 Mawrth 2021, fel rhan o’r dathliadau, cynhelir seminar gan y British Council, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Literaturhaus Stuttgart, gan ganolbwyntio ar y testun “Ni yw Cymru: cyfoeth o leisiau, tirweddau a straeon.”

Cynhelir y seminar ar-lein eleni, dan gadeiryddiaeth Niall Griffiths, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a Francesca Rhydderch, Athro Cysylltiol Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r seminar yn cynnwys cyfraniadau gan yr awduron Zoë Brigley, Charlotte WilliamsManon Steffan Ros a Richard Gwyn. Yn ogystal, bydd yr awduron Joao MoraisRichard Owain RobertsHanan IssaEluned GramichAlex Wharton ac Ifan Morgan Jones yn ymddangos mewn ffilmiau arbennig sydd wedi eu comisiynu ar gyfer y Seminar. Mae rhagflas o’r seminar i’w weld isod:

Mae’r arlwy yn cynnwys darlleniadau, trafodaethau a gweithdai. Dyma gyfle i academyddion, myfyrwyr, cyhoeddwyr, cyfieithwyr a newyddiadurwyr o bob cwr o Ewrop gael dysgu rhagor am ddiwylliant llenyddol Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r Seminar eleni, yn ogystal â chyfrannu tuag at raglen ehangach Blwyddyn Cymru yn yr Almaen gyda’n prosiect trawsgelfyddyd Plethu/Weave, mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Rhyddhawyd Aber Bach, ffilm fer gan Y Prifardd Mererid Hopwood a’r ddawnswraig Elena Sgabri, yn ystod lansiad Blwyddyn Cymru yn yr Almaen ym mis Ionawr. Caiff ffilm arall ei rhyddhau ar 1 Mawrth, yr ail yn y gyfres o dri comisiwn arbennig i nodi’r flwyddyn, gyda’r trydydd i’w rhyddhau yn yr Hydref.

 

Cynhelir y Seminar ar-lein, dros Zoom, rhwng 5.30 pm nos Iau 4 Mawrth a 6.15 pm nos Sadwrn 6 Mawrth.

I gofrestru, ewch i: https://www.britishcouncil.de/en/programmes/arts/literature-seminar

Ar Gyfer Awduron