Print giclée o safon uchel yn dangos Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).
Wedi’i adeiladu yn y bymthegfed ganrif, mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig gradd II sy’n enwog am gartrefu’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George tua diwedd ei fywyd. Bellach yn Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, mae Tŷ Newydd yn gofod creadigol lle gall ysgrifennwyr ymlacio a rhannu syniadau gyda cyd-ysgrifennwyr.
Dyma brint heb fframio sy’n berffaith i gofio ymweliad â Thŷ Newydd, fel anrheg i rywun sydd wedi elwa o un o’r cyrsiau, neu fel darlun artistig o olygfa odidog.
Caiff unrhyw elw ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd llenyddol Cymreig, er engraifft y cynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli.
235 x 325mm
Cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris.