Dewislen
English
Cysylltwch

Llên mewn Lle: Prosiectau blaenorol ac effaith

Rhwng 2022 a 2025, cynhaliodd Llên Mewn Lle | Lit in Place bum prosiect ysgrifennu creadigol ledled Cymru, gan weithio gyda chymunedau yng Ngwynedd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Sir Benfro. Cynhaliwyd 105 o weithdai a digwyddiadau, gyda chyfanswm o 1,015 o bobl yn bresennol, gan adlewyrchu maint y fenter a dyfnder yr ymgysylltiad ym mhob lleoliad. Wedi’i wreiddio mewn tirweddau ac ieithoedd penodol, defnyddiodd pob prosiect ysgrifennu creadigol i archwilio newid hinsawdd a bioamrywiaeth, cefnogi lles a chryfhau cysylltiadau rhwng pobl a lle. Gyda chefnogaeth WWF Cymru, mae Llên Mewn Lle yn dangos pŵer ymarfer dan arweiniad y celfyddydau, sy’n seiliedig ar le, i ymgorffori ymwybyddiaeth o’r hinsawdd ym mywyd bob dydd a meithrin etifeddiaethau diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol parhaol.  

Darllenwch fwy am brosiectau blaenorol Llên Mewn Lle a’u hetifeddiaethau parhaol isod.