Dros nos, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n ddirfawr ar y ffyrdd y mae pobl yn gallu ymwneud â’i gilydd. Mae’r newidiadau hyn eisoes wedi gwaethygu’r lefelau uchel o ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd y mae llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig yn eu profi. Mae mwy o unigrwydd yn ei dro’n effeithio ar iechyd meddwl a llesiant pobl, gan arwain at fwy o bwysau ar y sector iechyd a’r economi. Bydd hyn yn gryn her yn y cyfnod adfer ar ôl Covid.
Mae profion clinigol wedi dangos bod darllen ac ysgrifennu creadigol yn fuddiol i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol ill dau. Mae llenyddiaeth yn adnodd economaidd grymus y gellir ei ddefnyddio i fynd i’r afael mewn ffordd gadarnhaol â rhai o’r problemau hyn, a gall gyfrannu at wella bywydau pobl Cymru.
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
Byddwn ni’n gweithio tuag at greu Cymru iachach:
Drwy ddarparu prosiectau cyfranogi mewn amrywiaeth eang o gymunedau, ysgolion a gwasanaethau gofal iechyd, byddwn ni’n helpu i greu Cymru iachach ac yn defnyddio grym llenyddiaeth i fynd i’r afael â phroblemau iechyd a llesiant, gan gynnwys gorbryder, iselder, unigrwydd ac ynysigrwydd.
Byddwn ni’n mesur effaith llenyddiaeth:
Byddwn ni’n gosod canlyniadau mesuradwy ar gyfer ein prosiectau, sef gwella sgiliau, hyder a gallu cyfranogwyr i fynd ati i gymryd rhan yn eu cymunedau, dod o hyd i waith, neu o bosibl sicrhau gwell deilliannau dysgu yn yr ysgol.
Byddwn ni’n meithrin perthnasau llwyddiannus:
Byddwn ni’n ehangu ac yn datblygu ein partneriaethau yn y sector iechyd, gan gynnwys ein partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, byrddau iechyd lleol, a Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, i sicrhau bod ein prosiectau’n cael effaith er gwell. Law yn llaw â’r sector celfyddydau yn ehangach, byddwn ni’n edrych ar ffyrdd o wreiddio llenyddiaeth mewn rhaglenni presgripsiynu cymdeithasol fel ffurf ar driniaethau ataliol, iachaol a lliniarol, ac yn gweithio i gyflwyno prosiectau peilot llwyddiannus ar raddfa ehangach drwy Gymru gyfan.
Pam blaenoriaethu Iechyd a Llesiant?
Golygodd y cyfnod clo a chyfyngiadau cadw pellter pandemig COVID-19 fod y ffordd roedd pobl yn gallu ymwneud â’i gilydd wedi newid yn ddirfawr, a hynny dros nos. Mae’r newidiadau hyn eisoes wedi gwaethygu’r lefelau uchel o ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd y mae llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig yn eu profi. Mae mwy o ynysigrwydd yn ei dro yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant pobl ac yn gwaethygu ffactorau iechyd ac economaidd eraill, sy’n golygu y bydd hon yn her o bwys yn ystod y cyfnod adfer ar ôl y pandemig. At hynny, mae bron i draean plant Cymru bellach yn byw mewn tlodi ac mae hwn yn ffigur sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19. Mae tlodi ac anghydraddoldebau’n achosi heriau economaidd-gymdeithasol sylweddol, ac mae cysylltiad agos rhwng y rhain a lefelau llythrennedd isel, unigrwydd, ynysigrwydd, allgáu cymdeithasol, problemau iechyd meddwl, salwch corfforol, cam-drin sylweddau, troseddu a thrais.
Dangoswyd bod ymwneud â gweithgareddau celfyddydol, gan gynnwys darllen ac ysgrifennu creadigol, yn gwella llesiant pobl, yn gorfforol a meddyliol ill dau. Yn 2019, cyhoeddwyd yr adroddiad tystiolaeth mwyaf erioed am y celfyddydau ac iechyd, a hwnnw’n rhoi sylw i ganfyddiadau dros 3,500 o astudiaethau cyhoeddedig ac yn rhoi trosolwg manwl o’r modd y mae’r celfyddydau’n gallu hybu iechyd yn fyd-eang. Mae tystiolaeth benodol am fanteision darllen yr un mor drawiadol, gan gynnwys tystiolaeth gan y Reading Agency (ein prif bartner wrth ddarparu’r cynllun Ffrindiau Darllen yng Nghymru). At hynny, yn ôl ymchwil gan y National Literacy Trust yn 2018 a edrychai ar lesiant meddyliol, darllen ac ysgrifennu, mae llesiant meddyliol plant sy’n mwynhau darllen ac ysgrifennu yn eu hamser rhydd yn well o lawer na llesiant meddyliol cyfoedion nad ydyn nhw’n gwneud hynny.
“Roedd y gweithdy ysgrifennu hwn yn ffordd unigryw o fynegi sut rydyn ni fel pobl ifanc yn teimlo am ein trafferthion ein hunain a thrafferthion pobl eraill gydag iechyd meddwl. O’r dechrau i’r diwedd, gallen ni fod yn ni’n hunain, ac rydyn ni’n ddiolchgar inni gael y cyfle a’r llais” Cyfranogwr yn ein prosiect Bridging the Gap, mewn partneriaeth â Mind Casnewydd.
Rydyn ni’n gwybod bod ymwneud â llenyddiaeth yn gallu helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau hynod heriol hyn. Er na all hynny leihau tlodi, mae’n gallu helpu pobl i ddygymod yn well â straen, yn ogystal â gwella llesiant cyffredinol pobl a lleddfu gorbryder ac unigrwydd. Mae hefyd yn gallu gwneud pobl yn hapusach a rhoi hwb i’w hunanhyder, ynghyd â chyfrannu at greu cymunedau mwy cysylltiedig a chydlynus. Mae’r dystiolaeth o’r effaith yn gryf wrth edrych ar nifer o’n prosiectau cyfranogi cymunedol ni’n hunain.
Teimlai 82% o’r cyfranogwyr a gymerodd ran yn ein Prosiect Awduron Preswyl fod ganddyn nhw ‘fwy o hyder yng ngrym eu llais’ Mae llawer o’n gwaith yn y maes hwn wedi cyrraedd rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ac ymylol yn y gymdeithas, gan gynnwys pobl mewn cartrefi gofal, ffoaduriaid a phobl sy’n byw gydag anableddau meddyliol a chorfforol.
Nawr yn fwy nag erioed, dylid defnyddio llenyddiaeth i drin cynnydd sydyn mewn salwch meddyliol a chorfforol hirdymor, ac mae modd gwneud hynny mewn unrhyw leoliad yng Nghymru, bron iawn. Mae llenyddiaeth yn adnodd grymus (a rhad) i wella canlyniadau llesiant, a gall wneud cyfraniad aruthrol at wella bywydau pobl Cymru. Gall hefyd fod yn fodd o greu gweithluoedd a chymunedau mwy gwydn, ac mae’n bosibl ei ddefnyddio law yn llaw â chamau ataliol eraill i wella afiechyd (ac afiechyd meddyliol yn enwedig).
“Ar hyn o bryd, mae gan bawb ohonon ni gynifer o bryderon, ac am yr awr hon gallwn ni ddianc i le brafiach, gwell. Mae’r gweithdai hyn yn fwynhad pur.” Unigolyn sy’n dioddef o boen cronig a chyfranogwr yn ein rhaglen Gwaith Comisiwn i Awduron
Enghreifftiau o Brosiectau
Cyfranogi: Gwaith Comisiwn i Awduron a Ffrindiau Darllen
Byddwn ni’n ehangu ac yn datblygu ein partneriaethau cryf yn y maes iechyd a llesiant, gan gynnwys gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, y Reading Agency, byrddau iechyd lleol, a Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Byddwn ni’n chwilio am ffyrdd o gydweithio yn y tymor hir er mwyn i raglenni presgripsiynu cymdeithasol gynnwys mwy o weithgareddau llenyddol. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ehangu prosiectau a’u cyflwyno drwy Gymru gyfan.
Datblygu Awduron: Cyfleoedd hyfforddi, mentora a chysgodi i awduron
Byddwn ni’n gwella sgiliau ein hawduron eto, fel bod ganddyn nhw’r hyder a’r sgiliau i weithio mewn lleoliadau cymunedol ac ar brosiectau ymgysylltu. Byddwn ni’n cynnig cyfleoedd mentora a chysgodi arbenigol i awduron sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd, a byddwn ni’n chwilio am ffyrdd newydd o weithio mewn lleoliadau cyfranogol, fel ysbytai, carchardai, a chartrefi gofal.
Diwylliant Llenyddol Cymru: Awduron preswyl a llysgenhadon
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid a chyrff cenedlaethol i gefnogi penodi Awduron Preswyl ar gyfer blaenoriaethau penodol (e.e. gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn, elusennau amgylcheddol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill).