Dewislen
English
Cysylltwch
Passa Porta, Brwsel

Ym mis Mai, cyflawnodd y bardd a’r academydd Nerys Williams breswyliad llenyddol ym Mrwsel, gan archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, ymwelodd Nerys ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd.

Darllenwch flogiau Nerys, wedi’u hysgrifennu yn ystod ei phreswyliad yn Passa Porta: Blog Un / Blog Dau / Blog Tri.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyddin, mae Nerys Williams bellach yn Athro Cysylltiol mewn Llên Americanaidd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, ac yn gynfyfyriwr Fulbright. Mae Nerys wedi ysgrifennu’n helaeth ar farddoniaeth gyfoes ac enillodd ei chyfrol o gerddi Sound Archive (Seren, 2011) sawl gwobr. Hi sy’n dal gwobr cerdd unigol Teddy McNulty Poetry Ireland, ac mae’n byw yn Kells, Co. Meath, Iwerddon, gyda’i gwr a’i merch.

Prif leoliad y preswyliad oedd Passa Porta (www.passaporta.be), Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel. Mae Passa Porta wedi ei leoli yng nghanol Brwsel, ac mae’n lleoliad unigryw i awduron, darllenwyr, cyfieithwyr a hyrwyddwyr llên o bob cwr o’r byd gyfarfod a gweithio.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017


Tŷ Newydd, Llanystumdwy

Yn mis Tachwedd, bydd llenor o Fflandrys yn cyflawni preswyliad llenyddol yn Nhŷ Newydd fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled.

Tŷ Newydd (www.tynewydd.cymru) yw canolfan ysgrifennu genedlaethol Cymru. Mae’r ganolfan yn cynnal rhaglen flynyddol o gyrsiau ysgrifennu creadigol ac encilion i gynulleidfa o bob oed a gallu, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Tŷ Newydd, sy’n hen gartref i’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd. Mae Tŷ Newydd, sy’n hen gartref i’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd, a caiff ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 6 – Dydd Sul 26 Tachwedd 2017

Nôl i Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss