Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyflwyno y bedwaredd garfan o awduron fydd yn cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru eleni.

O Wrecsam i Fachynlleth, Pontypridd i Gaerdydd, mae carfan eleni yn byw ym mhob cwr o Gymru. Maent yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres megis ffeithiol greadigol, ffuglen, gair llafar a barddoniaeth. Mae pob awdur gydag ystod eang o ddiddordebau a safbwyntiau, ac yn defnyddio dulliau creadigol arloesol wrth greu. . Yn ystod y 12 mis nesaf, byddant yn cefnogi ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol sy’n amrywio o arbrofi gyda  ffurf, cwblhau eu llawysgrif, datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant a gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi.

Azad Ali Malik
Mwy
Ed Garland
Mwy
Grace Quantock
Mwy
Heledd Melangell
Mwy
Janett Morgan
Mwy
Leo Drayton
Mwy
Lesley James
Mwy
Lowri Morgan
Mwy
Marged Elen Wiliam
Mwy
Natasha Borton
Mwy
Natasha Gauthier
Mwy
Rudy Harries
Mwy
Si Griffiths
Mwy
Tia-zakura Camilleri
Mwy
Azad Ali Malik

Mae Azad Ali Malik yn awdur traws sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru , a sy'n ystyried eu cenedligrwydd yn hylifol. Yn flaenorol, maent wedi ysgrifennu ac arddangos barddoniaeth, rhyddiaith hunan-gyhoeddedig, a thraethodau ar ffurf Zine yn ogystal ag erthyglau ysgrifenedig ar bynciau amrywiol. Mae Azad yn disgrifio'r broses ysgrifennu fel rhywbeth hudolus, radical a gwydn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn archwilio’r tensiwn sylfaenol o fewn rhyngweithiad cymdeithasol a'i berthynas â safbwynt a realiti dynol. Mae Azad yn mwynhau ymchwilio fel rhan o'u proses ysgrifennu, gan ganolbwyntio ar straeon dynol, ysbrydolrwydd, ecoleg a chymuned. Mae'r weithred o ymchwilio yn golygu eu bod yn parhau i ddysgu wrth ddyfnhau ystyr, pwrpas a chysylltiad yn eu bywyd. Mae Azad yn edrych ymlaen at ddatblygu eu llais trwy farddoniaeth a gwaith ffeithiol greadigol a mireinio eu llais yn ein byd sy'n fythol newid.
Sut ydych chi'n rhagweld bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy'n dychmygu bydd y rhaglen hon yn fy helpu i ddysgu rhannu fy ngwaith creadigol a derbyn adborth gan awduron eraill sydd hefyd ar lwybr tebyg. Hoffwn ddysgu mwy am y ffordd y mae cyhoeddi yn gweithio yng Nghymru a gyda chymorth, dysgu sut i olygu fy ngwaith, creu ymarfer disgybledig, a dod â syniadau mawr i'r dudalen."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r awduron eraill a chael cyfle i dderbyn sylw uniongyrchol a ffocws gan fentor sydd â gwaith sy’n atseinio gyda gwaith fy hun. Rwy'n edrych ymlaen yn enwedig at benwythnosau preswyl Tŷ Newydd, wedi'u trochi mewn creadigrwydd."

Cau
Ed Garland

Ganed Ed Garland ym Manceinion yn 1984, ac mae wedi byw yng Nghaerlŷr, Ffrainc a Bryste cyn symud i Aberystwyth yn 2016. Enillodd ei lyfr o draethodau, Earwitness, Wobr Ysgrifennu Cymraeg Newydd yn 2018. Mae ei waith hefyd wedi ymddangos yn The Stinging Fly, The New Welsh Review, A Glimpse Of ac amryw o antholegau. Mae ganddo radd mewn Technoleg Cerddoriaeth, MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a doethuriaeth mewn dadansoddi sain lenyddol. Mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas rhwng ysgrifennu ac amrywiaeth glywedol (y ffaith bod pawb yn clywed yn wahanol), a photensial llenyddol salwch cronig. Unwaith y flwyddyn mae'n troi ei law at fod yn gerddor ond yn rhoi’r gorau iddi bron yn syth. Unwaith y flwyddyn mae o hefyd yn ceisio ysgrifennu nofel ac fel arfer yn rhoi'r gorau iddi ar ôl deng mil o eiriau, tan nawr. Darganfyddwch fwy am Ed drwy ei wefan: edgarland.co.uk

Sut ydych chi'n rhagweld bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Bydd rhaglen Cynrychioli Cymru yn fy helpu i roi'r gorau i boeni am bethau sydd ddim o bwys, a fy ngalluogi i gynhyrchu nofel gynhwysfawr. Rwy'n edrych ymlaen at wella fy nulliau o ddatblygu brawddegau, technegau atgyfnerthu paragraffau, a strategaethau crynhoi tudalennau trwy gymorth fy nghyfoedion, mentor, a siaradwyr arbenigol."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n edrych ymlaen at fod mewn grŵp o bobl ag uchelgeisiau tebyg, sydd i gyd yn ceisio gwneud cynnydd creadigol yn ffyrdd unigryw eu hunain. Clywed gan awduron yr ydym i gyd yn eu hedmygu, a thrafod fy nghynnydd gyda mentor sydd wedi ysgrifennu gwaith sy’n bwysig i ddiffiniad fy hun o'r hyn y mae 'ysgrifennu da' yn ei olygu."

Cau
Grace Quantock

Mae Grace Quantock yn awdur a chwnselydd seicotherapiwtig achrededig UKCP. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn The Guardian, The New Statesman ac An Open Door, (Parthian, 2022) a Women's Wales (Parthian, 2024). Cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nan Shepherd a Gwobr Awduron Dosbarth Gweithiol Awduron ac Artistiaid, ac enillodd wobr Curtis Brown am Ddatblygiad Creadigol Arloesol, a gwobr New Writing North A Writing North A Writing Chance. Mae gwaith Grace yn archwilio sut yr ydym yn etifeddu trawma ar y cyd, gofal cymunedol, rhyddid cyfunol,arallrwydd ac ymgorfforiad.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy'n awyddus i glywed gan awduron sydd wedi creu llyfrau teimladwy a sut maent yn cyfathrebu â'u darllenwyr yn ogystal ag ennill gwell dealltwriaeth o gyhoeddi a hanfodion gweithio fel awdur o fewn hunaniaethau ymylol."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gofod anhygoel hwn a derbyn cefnogaeth i ganolbwyntio ar fy ysgrifennu, i ddatblygu fy straeon ac i fagu hyder yn fy llais a hunaniaeth ar y dudalen, mewn rhyddiaith ffurf hirach."

Cau
Heledd Melangell

Mae Heledd wedi bod yn ymgyrchydd mewn mudiadau gwrthgyfalafol ers iddi fod yn ei harddegau. Yn 2023 dechreuodd weithio’n llawrydd ac ymroddodd ei hun i adrodd ei stori yn ei llais ei hun. Y prif themâu sy'n codi yng ngwaith Heledd yw archwiliad o ddosbarthiadau cymdeithasol, rhywedd ac anabledd.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwyf yn gobeithio bydd y rhaglen yn fy ymbaratoi i wneud ysgrifennu yn rhywbeth cynialadwy. Rwyf yn gobeithio bydd y rhaglen yn meithrin fy hyder ac yn fy helpu i wireddu fy mreuddwyd o ennill bywoliaeth wrth ysgrifennu, ar ôl osgoi'r ysfa i wneud hyn am nifer o flynyddoedd gan gymryd yn ganiataol na fuasai byth yn bosib i mi. Mae gen i ddyslexya dwys ac nid yw’r meddalwedd ar gael yn y Gymraeg i unioni hyn - gobeithiaf caf ddarganfod dulliau o oresgyn hyn wrth ysgrifennu yn Gymraeg."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda mentor, awdur rwyf yn eu parchu a sydd wedi fy syfrdanu gyda'u crefft. Mae'r syniad o wneud ffrindiau a bod mewn cymuned gefnogol hefyd yn wefreiddiol. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at allu ddefnyddio'r arian tuag at gostau ofal plant fel galla i gael yr amser i 'sgwennu o ddifri."

Cau
Janett Morgan

Mae Janett Morgan yn hanesydd sy'n defnyddio gweddillion marwol a gwneuthuredig i ymchwilio i'r gorffennol. Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae grwpiau ac unigolion yn defnyddio celf, arteffactau a phensaernïaeth i adeiladu a chyfleu straeon cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol. Mae ei gwaith, sydd wedi'i gyhoeddi mewn llyfrau, erthyglau cyfnodolion, a phenodau mewn cyfrolau wedi'u golygu, yn cwmpasu ystod amrywiol o bynciau gan gynnwys partïon yfed hynafol, palasau, crefydd aelwydydd, fasau Groegaidd, a bywydau menywod. Pan brofodd newidiau mawr yn ei bwyyd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau trychinebus, daeth Janett o hyd i gysur a lloches mewn ysgrifennu. Gyda'i sgiliau fel hanesydd a'i gwybodaeth am fytholeg a diwylliant materol Groegaidd, aeth ati i ddarganfod y gwir y tu ôl i stori ddirgel am fasau Groegaidd, trawsnewidiad cymdeithasol a thrasiedi yng Nghymru Oes Fictoria ac mae bellach yn datblygu’r stori antur hon yn ddarn o waith ffeithiol greadigol.

Sut ydych chi'n rhagweld bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Bydd y gefnogaeth a'r arweiniad yn ystod camau olaf ysgrifennu fy nofel yn amhrisiadwy er mwyn cyhoeddi fy stori. Bydd gweithio gyda mentor yn fy annog i edrych ar fy ngwaith ysgrifennu o safbwynt beirniadol a chredaf bydd treulio blwyddyn yn mireinio fy sgiliau o fewn gofod cefnogol rhaglen Cynrychioli Cymru yn fy helpu i fagu hyder."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n llawn cyffro am y cyfleoedd y mae'r rhaglen yn eu cynnig i greu cysylltiadau a datblygu fy hun. Ar ôl gweithio ar fy mhen fy hun am gymaint o amser, rwy'n teimlo'n barod i fod yn rhan o gymuned ysgrifennu. Rwy'n bwriadu defnyddio'r gweithdai ysgrifennu a'r cyrsiau preswyl fel cyfle i arbrofi gydag arddull a genre ac rwy'n edrych ymlaen at roi a derbyn adborth. Gan nad wyf yn gwybod fawr ddim am gyhoeddi llenyddol, rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr o’r diwydiant a dysgu mwy am y broses, yn enwedig sut a phryd i fynd at asiantau. Gobeithio, pan ddaw'r flwyddyn i ben y bydd y llyfr yn barod i gael ei gyhoeddi a byddaf yn dechrau fy antur nesaf!"

Cau
Leo Drayton

Mae Leo Drayton yn storïwr traws o Gaerdydd. Cydweithiodd ar gyfres ‘Y Pump’ fel cyd-awdur ar nofel Robyn hefo Iestyn Tyne ac ers hynny mae wedi cydweithio gydag Elgan Rhys ar y ddrama ‘Dy Enw Marw’ ar gyfer yr wŷl ‘National Theatre Connections’ ac wedi datblygu sgriptiau fer ar gyfer It’s My Shout. Cafodd un o’i gerddi ei chynnwys yn y flodeugerdd LHDTC+ Cymraeg gyntaf, Curiadau, a chyrhaedodd rownd gynderfynol y ‘Roundhouse poetry Slam’ yn 2022. Mae Leo yn awyddus i ysgrifennu am ei brofiadau fel dyn traws a rhannu straeon am y gymuned cwiar sydd yn aml yn cael ei thangynrhychioli.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Roeddwn i wastad yn mwynhau ysgrifennu ond doeddwn i erioed wedi dychmygu bod hi’n bosib i mi ddilyn y trywydd yma fel gyrfa, yn enwedig gan nad wyf wedi astudio ysgrifennu creadigol yn ffurfiol. Mae fy natblygiad wedi digwydd yn sydyn gan geisio dysgu wrth fynd am ymlaen. Rwy’n gobeithio bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i mi ddysgu a datblygu y grefft o adrodd stori yn y ffordd mwyaf effeithiol a llwyddiannus. Rwyf eisiau datblygu fy nealltwriaeth o bob genre a steil o ysgrifennu i wybod pa ffurf yw'r gorau i ba stori, a sut i’w lunio yn drefnus. Rwyf eisiau datblygu llais fy hun a dysgu sut i ddod o hyd iddo. Wrth gwrdd ag awduron eraill ar y rhaglen rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddysgu prosesau eraill a sut i fynd ati i gyflawni gwaith a’i rannu gyda’r byd. Dwi’n gobeithio dysgu mwy am y gwaith ‘tu ôl i’r llen’, o fewn y broses gyhoeddi, a sut i gyrraedd fy nghynulleidfaoedd dymunol. Rwyf yn rhagweld byddaf yn dysgu llawer o’r rhaglen hon ac fe fydd bendant yn meithrin fy hyder, un o’r pethau dwi’n ei weld yn anodd."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

Yn bendant y peth dwi’n edrych ymlaen ato fwyaf yw’r sesiynau mentora. Dwi methu aros i gael y cyfle i siarad efo awduron profiadol a thrafod syniadau, drafftiau a chrefft gyda nhw. Un o’r pethau gwaethaf am ysgrifennu yw’r unigedd, gweithio ar ben dy hun heb unrhyw adborth wrth i ti fynd yn dy flaen. Dwi’n edrych ’mlaen at gael rhywun alla i eu holiwrth geisio llunio stori a chael cyngor ganddynt. Mae’r rhaglen hon hefyd yn gyfle anhygoel i gwrdd a chreu cysylltiadau hefo’r unigolion yng Nghymru sydd hefyd yn ysgrifennu. Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd ag awduron y dyfodol ac i weld gyrfaoedd yn ffynnu ar ôl gorffen y rhaglen. Ar ôl gweithio ar ‘Y Pump’ un o’r pethau gorau oedd y ffrindiau cefnogol dwi wedi eu gwneud. Rydym i gyd yn hapus i ddarllen dros gwaith ein gilydd a rhoi adborth os oes angen. Dwi’n gobeithio bydd y rhaglen yma yn cynnig yr un cysylltiadau."

Cau
Lesley James

Yn ei harddegau, enillodd Lesley James gystadleuaeth farddoniaeth Cymdeithas Llundain-Sir Gâr; ond wynebodd sawl rhwystr yn ei bwyd a orfododd iddi roi'r gorau i ysgrifennu. Erbyn hyn mae hi’n teimlo’n ddewrach acwedi'i hannog gan awduron y mae'n eu parchu, dechreuodd Lesley rannu ei gwaith yng ngwanwyn 2021, gan ysgrifennu ar gyfer oedolion a phlant. Mae hi wedi cael ei chyhoeddi yn Spelt, Nawr, Bold, The Broken Spine, Cardiff Writers 75th Anniversary Anthology, Full House Literary, Dirigible Balloon, Chasing Clouds Anthology, Tatws Sion Cent, Newport Stanza's Wire: Elemental Emergency et al. Roedd Lesley ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Stori Fer Iawn y DU, enillodd cystadleuaethau erthygl, llên meicro a barddoniaeth Awduron Caerdydd ac enillodd ddau enwebiad Net yn 2023. Cyhoeddwyd ei llyfr llun a stori A Walk With Scissors gan Infinity Books UK ac yn ddiweddar dewisodd Glyn Maxwell un o gerddi rhyddiaith Lesley i’w gyhoeddi ac adolygu yn ei gylchlythyr Substack Simple Games to Save the World. Mae'n aelod o Grŵp Stanza Casnewydd y Poetry Society, ac yn perfformio ei gwaith yn rheolaidd, gan gynnwys i Pen Cymru yn Nhŷ Turner.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Byddaf yn defnyddio pob eiliad o'r profiad hwn i wneud fy ngrefft ysgrifennu y gorau y gall fod. Rwy'n frwdfrydig iawn am hyn. Ar ben hynny, rwy'n gobeithio archwilio mannau i rannu fy ngwaith presennol. Pan fyddwch chi yn y feddylfryd o ysgrifennu ‘pen-i-lawr', gall fod yn her mynd i'r afael ag elfennau ymarferol y byd cyhoeddi, ac rwy'n gobeithio bydd y profiad hwn yn cynnig sianeli ac arweiniad i mi ddilyn y cyfeiriad cywir."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Y bosibilrwydd o fentora arbenigol sy’n fy nghyffroi fwyaf. Mae'n anodd dod o hyd i'r adborth cywir ar yr adeg iawn heb gefnogaeth sefydliad fel Llenyddiaeth Cymru. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o awduron yn cyrraedd pwynt lle mae derbyn adborth o'r ansawdd gorau yn hanfodol i gwblhau gwaith. Mae gweithio ochr yn ochr ag unigolion proffesiynol profiadol yn brofiad amhrisiadwy. Ar ben hynny, mae bod ymhlith cymuned o awduron mewn sefyllfa debyg yn beth arbennig iawn. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y rhaglen hon."

Cau
Lowri Morgan

Mae Lowri yn awdur, gwneuthurwr theatr a chyfieithydd o Gaernarfon yng Ngogledd Cymru sy’n byw ar hyn o bryd yng Nghaerdydd gyda’i phartner Miryam a’u cath Eevee. Roedd Lowri yn rhan o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a Grŵp Dramodwyr Ifanc Cwmni’r Fran Wen. Cynhyrchwyd drama gyntaf Lowri ‘Cuddio’ gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer eu carfan graddiedig yn 2021. Ers hynny mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer sebon teledu Rownd a Rownd ac ar hyn o bryd mae hi o dan gomisiwn gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Mae Lowri hefyd yn gweithio fel Cydymaith Llenyddol yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth cwîar a rhywedd, niwroamrywiaeth a themâu ffeministaidd. Mae gan Lowri hefyd ddiddordeb mawr ym mytholeg Cymru, ffantasi a'r celfyddydau esoterig.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau ar sialens newydd. Hyd yn hyn, mae fy mhrofiad wedi bod ym myd teledu a theatr felly dwi’n edrych ymlaen at ddechrau menter newydd. Dwi’n werthfawrogol iawn o’r cyfle i gael cefnogaeth o fy nghwmpas wrth i mi ddechrau mentro i mewn i fyd cyhoeddi ac ysgrifennu mewn ffurf newydd."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Y peth dwi’n edrych ymlaen ato fwyaf yw’r gweithdai misol a’r cyfle i ddysgu gan awduron profiadol. Dwi hefyd methu aros i gyfarfod carfan o gyd-awduron sydd gyda phrofiadau gwahanol. Erbyn diwedd y rhaglen yma dwi’n gobeithio bod wedi gorffen ysgrifennu fy llyfr cyntaf ac yn barod am y cam nesaf. Dwi’n gobeithio y byddaf yn gadael y rhaglen gyda syniad da o sut mae’r byd cyhoeddi yn gweithio yng Nghymru a Phrydain."

Cau
Marged Elen Wiliam

Yn wreiddiol o Fangor, ac yn dilyn cyfnodau yn Llundain, Caergrawnt ac India, mae Marged bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd Codi Pais ddetholiad o’i stori fer, Gwarchod, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen 2019, ac enillodd ei stori fer, Si-si-ti-fi, gystadleuaeth yng nghylchgrawn Cara cyn cael ei chyhoeddi yng nghasgliad Adref yn Nhachwedd 2020. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i bobl ifanc, Aniq, gyda Mahum Umer, yng Nghorffennaf 2021 fel rhan o gyfres Y Pump dan ofal Elgan Rhys. Enillodd y gyfres Wobr Uwchradd Tir na n-Og 2022, Gwobr Plant a Phobl Ifanc a Gwobr Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022. Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd ei stori fer, Cacan Ffenast, yng nghyfrol Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ dan ofal Gareth Evans-Jones yng Nghorffennaf 2023. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Marged yn mwynhau darllen, crwydro, bwyd da, a rhoi’r byd yn ei le hefo criw Llyfrau Lliwgar Caerdydd.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy’n gobeithio bydd y rhaglen yn cynnig strwythur a rhyddid i mi ddatblygu fy llais fy hun fel awdur. Bydd y rhaglen yn rhoi gofod ac amser ymroddedig i ganolbwyntio ar syniadau sydd wedi bod yn ffrwtian yn fy nychymyg ers amser. Rwy’n awyddus i gael mentor fydd yn fy ymestyn a’m herio, a bydd bod yn rhan o gymuned Cynrychioli Cymru yn ehangu fy rhwydwaith o awduron i’m cefnogi a’m hysbrydoli."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Treuliais un o benwythnosau hyfrytaf fy mywyd yn Nhŷ Newydd ar Encil Llyfrau Lliwgar. Mae gen i lond llyfr nodiadau o egin syniadau o’r penwythnos hwnnw. Datblygais un yn stori fer ac fe’i cyhoeddwyd yn y flodeugerdd LHDTC+ Gymraeg gyntaf, Curiadau, dan ofal Gareth Evans-Jones a Barddas. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i ddatblygu’r syniadau hyn, eu harchwilio gyda chyd-awduron, a’u herio a’u mireinio dan ofal mentor. Yn ddelfrydol hoffwn gwblhau nofel neu gyfrol o straeon byrion cysylltiedig."

Cau
Natasha Borton

Mae Natasha Borton yn awdur, cerddor a gwneuthurwr theatr o Wrecsam. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Voicebox Wxm, llwyfan ar gyfer barddoniaeth llafar ac mae'n curadu'r Voicebox Collective ar gyfer digwyddiadau a gwyliau. Datblygodd y gwaith creadigol ysgrifennodd yn ystod ei chwrs MA ym Mhrifysgol Edge Hill mewni’w llyfr cyntaf Signed Asbestos a daeth yn ail ar gyfer Gwobr Erbacce. Mae hi wedi cael ei chomisiynu gan National Theatre Wales, Chester Pride, a #FlytheFlag gyda Donmar Warehouse. Roedd Natasha yn rhan o'r grŵp gair llafar rhyngwladol Talking Doorsteps with Roundhouse London. Yn 2022 hi oedd yr artist cyd-arweiniol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol ar gynhyrchiad TEAM National Theatre Wales, A Proper Ordinary Miracle a chyd-sefydlodd gwmni theatr Gogledd Cymru Gogsmacked. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar flodeugerdd o ysgrifennu gyda rhieni o wardiau newydd-enedigol ac yn hwyluso celf a diwylliant yn y gymuned.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Bydd bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru yn fy ngalluogi i edrych ar fy ngyrfa hyd yma a nodi'r bylchau yn fy ngwybodaeth a phrofiad i gyrraedd lefel nesaf fy ngyrfa. Rwy'n edrych ymlaen at bwyso a mesur fy llwyddiannau a chael arweiniad gan y garfan, mentoriaid a thiwtoriaid, yn ogystal â Llenyddiaeth Cymru ar sut i fod yn awdur yng Nghymru yn y 21ain ganrif a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i fy ymarfer creadigol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymroi fy hun i gyd-greu a chelf gymunedol, ac rwy'n bwriadu cymryd yr amser hwn i ymroi fy hun ymhellach i’m hysgrifennu a chanfody straeon rwyf am eu hadrodd nesaf."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod mewn ystafell o awduron angerddol, yn canolbwyntio ar ysgrifennu a chlywed y gymysgedd o brofiadau, dyheadau ac ysbrydoliaeth o fewn y grŵp wrth i ni symud drwy'r rhaglen, mae hyn yn rhywbeth nad wyf yn credu bod gennym ddigon o gyfle i'w wneud. Rwyf yn mynd i fwynhau'r cyfle i ddod o hyd i le yn Nhŷ Newydd i ailddarganfod fy storïwr mewnol. Drwy gymryd rhan, rwy'n gobeithio y byddaf yn datblygu'r rhwydwaith hwn o artistiaid ledled Cymru, ac yn gweithio tuag at fy nghasgliad cyntaf o farddoniaeth."

Cau
Natasha Gauthier

Mae Natasha Gauthier yn fardd, newyddiadurwr a beirniad cerddoriaeth glasurol o Montreal, Canada. Mae hi o dras gymysg Ffrengig Canadaidd a Goan ac mae'n rhugl mewn Saesneg a Ffrangeg. Symudodd i Gymru yn 2022 ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd ei MA mewn Cyfathrebu Gwleidyddol yn ddiweddar. Mae gan Natasha ddiddordeb mewn pynciau hanesyddol a'r edafedd sy'n eu rhwymo i'n bywydau modern. Mae ei barddoniaeth yn aml yn dychmygu bywydau mewnol cerddorion clasurol ac artistiaid o gefndiroedd ymylol. Mae Natasha yn rhedeg cyfres Tiger Bay Poetry ym Mae Caerdydd, lle mae'n byw.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Deuthum i farddoniaeth yn gymharol ddiweddar ac yng nghyd-destun symud o Ganada i Gymru. Bydd y rhaglen hon yn amhrisiadwy nid yn unig oherwydd bydd yn fy helpu i hogi fy ymarfer ysgrifennu a llais barddonol ond am y cyfleoedd rhwydweithio y mae'n ei ddarparu. Bydd dysgu am y sector cyhoeddi yng Nghymru a'r DU gan arbenigwyr yn helpu i egluro sector sy'n gallu ymddangos yn anhryloyw ac yn fygythiol i rywun o'r tu allan. Bydd yn rhoi gwybodaeth a hyder i mi gynyddu fy uchelgeisiau ysgrifennu ar amserlen dynn a phendant."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio un-ar-un gyda mentor a fydd yn fy herio a'm meithrin. Gwn hefyd y bydd fy nghyd-gyfranogwyr a minnau'n adeiladu ein cymuned fach ein hunain, un y byddwn yn gallu troi ato am gefnogaeth ac anogaeth am gweddill ein gyrfaoedd."

Cau
Rudy Harries

Mae Rudy Harries yn awdur a anwyd ac a fagwyd yn y Cymoedd. Caiff ei waith ei lywio gan ei brofiadau o fod yn anabl, awtistig, cwîar, traws a dosbarth gweithiol. Pan oedd yn blentyn, breuddwydiodd am ddianc o Gymru a'r cyfyngiadau yr oedd yn credu iddi ei rhoi ar ei ddyfodol, ac am gyfnod setlodd yng Nghaerfaddon ar gyfer ei astudiaethau israddedig. Fodd bynnag, erbyn iddo fod yn 24 oed roedd wedi dychwelyd adref i Bontypridd, lle mae bellach yn byw gyda'i bartner a'i gath, ar ôl sylweddoli bod ei galon yn perthyn i Gymru. Ers symud yn ôl, mae Rudy wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan arbenigo mewn dosbarthiadau cymdeithasol, tlodi a themâu cwîar o'r 19eg ganrif. Yn 2020, cyd-sefydlodd Trans Aid Cymru ochr yn ochr ag unigolion traws eraill o’r adain chwith, gan weithio i adeiladu rhwydweithiau cymorth ar gyfer pobl draws, rhyngrywiol ac anneuaidd mewn tlodi. Fe gamodd yn ôl ar ddiwedd 2022 i wella ar ôl gor-flino a chanolbwyntio ar ysgrifennu, ac mae erthyglau wedi eu cyhoeddi gan Voice Wales, Shado Magazine, The Welsh Agenda a Traws Actual. Weithiau mae Rudy yn cynnal digwyddiadau, o ddigwyddiad Shon Faye yn Nghaerdydd fel rhan o’i thaith llyfr ar gyfer The Transgender Issue i Polyamorous Speed Dating yn Arcades Caerdydd. Yn ei amser hamdden, mae Rudy yn hoffi darllen, mynd i'r sinema, a chadw dyddiadur. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei nofel gyntaf sy'n canolbwyntio ar gymuned drawsryweddol gynyddol sy'n creu gofod i'w hunain yn y Cymoedd.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy'n gobeithio ail-gydio yn hud ysgrifennu eto trwy fod o gwmpas yr awduron a'r mentoriaid anhygoel. Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar olygu a strwythuro yn enwedig, gan fod y rheini'n bethau y mae llai o adnoddau ar gael ar eu cyfer. Dwi'n meddwl y bydd y rhaglen hefyd yn fy helpu i gael blas ar y tirlun llenyddol yng Nghymru - ges i fy hyfforddi fel awdur yn ardal Caerfaddon/Bryste lle mae pethau'n wahanol iawn! Rwy'n edrych ymlaen i ddyfnhau fy ngwerthfawrogiad o'r diwylliant sydd gan Gymru i'w gynnig."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n credu mai'r uchafbwynt i mi fydd yr encilion penwythnos gydag awduron eraill. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw i eistedd o gwmpas bwrdd gyda phobl greadigol eraill a chymryd rhan mewn gweithdai - rwy'n cael cymaint allan o siarad ag awduron eraill. Rwy'n gobeithio y gallaf fynychu digwyddiadau eraill yn ogystal ag ymuno yn niwylliant llenyddol Cymru! Rwy'n gobeithio, erbyn diwedd y rhaglen, y bydd gen i ddrafft cyntaf fy nofel, a rhai syniadau at bwy y dylwn i ei hanfon!"

Cau
Si Griffiths

Mae Si Griffiths yn fardd, llenor a threfnydd cymunedol sy'n byw ym Machynlleth. Wedi ei fagu yn Walsall, ac o gefndir dosbarth gweithiol, mae ei gerddi, traethodau a straeon byrion wedi ymddangos yn Spelt, Lumpen, Sarai Reader, Unthology, Permaculture Magazine, Flesh: Bodies and Technology, Clean Slate and Sparks. Daeth ei gerdd 'Sycamore Lungs' yn drydydd yng nghystadleuaeth Wildfire Words, 2022 Every Breath, a fernir gan Ben Ray. Mae ei bamffled, Debone and Fold, sydd ar y gweill gyda Broken Spine Press, yn deillio o’r blynyddoedd treuliodd yn gweithio fel cogydd yn canolbwyntio ar y diwydiant arlwyo ac archwilio ein perthynas gymhleth â’r hyn rydym yn ei fwyta a’r rhai sy’n ei gynhyrchu a’i wasanaethu. Gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Bath Spa, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o gydweithfeydd golygyddol a phrosiectau cyhoeddi. Yn ddiweddar, mae wedi dechrau perfformio fel Storïwr ac Addysgwr, gan gyflwyno ystod o weithdai sy’n cyfuno adrodd straeon, cysylltiad â natur ac ysgrifennu creadigol. Mae'n gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Eginiad Cymru, sefydliad cymunedol yn Nyffryn Dyfi, sy'n anelu at sicrhau bod cymorth iechyd a lles yn hygyrch i bawb. Mae'n helpu i drefnu a chyflwyno nifer o'u prosiectau a'u digwyddiadau. Mae hefyd yn diwtor Qigong ac mae ganddo brofiad o hwyluso a chynnal gofod sanctaidd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lyfr creadigol/ffeithiol-ffuglen/barddoniaeth, The Deeper World Our Hearts Know to be True, sy'n defnyddio mytholeg Cymru i archwilio gwaddol gwladychiaeth a diwydiannu mewn perthynas â choetiroedd brodorol a hunaniaeth gyfoes Gymreig.

Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy'n gobeithio bydd y rhaglen hon yn fy helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau o weithio gyda'r pynciau rwy'n fwyaf angerddol amdanynt a'u plethu gyda'i gilydd, mewn arddull sy'n gyfareddol, yn gyffrous ac yn ysbrydoledig i'r darllenydd. Rwyf am ddatblygu llais unigryw sy'n defnyddio ac yn archwilio fy mhrofiadau o iachau yn dilyn trawma personol a rhyng-genhedlaethol, ac wrth wneud hynny, galluogi fy hun ac eraill i greu cysylltiadau agosach atoch a dyfnach â ni ein hunain a'r Ddaear. Hoffwn hefyd ddatblygu gweithdai amrywiol a chynhwysol yn y gymuned, gan ddefnyddio barddoniaeth i archwilio lles, iachâd a'r cysegredig."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr ysgogiad y mae'r rhaglen hon yn ei roi i'm hysgrifennu. O ran yr amser i ganolbwyntio ar ysgrifennu, ac o ran y rhwydweithiau a'r cysylltiadau y mae'n ei wneud yn bosibl. Alla i ddim aros i weithio gyda chyngor a phrofiad dwys fy mentor a'r garfan ac elwa ohono. Bydd derbyn y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth hon gan Llenyddiaeth Cymru yn cael effaith enfawr ar fy ngwaith a'm gyrfa, y math a fyddai fel arall yn amhosibl ei gyfateb. Fy ngweledigaeth yw bod yn fardd ac awdur sydd wedi'i wreiddio ynng ngwirioneddfy hun, gwehyddu hyn gyda fy nghrefft, a chael y pŵer i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol. Yn y pen draw, rwyf am helpu i ddod ag ymdeimlad o'r cysegredig yn ôl i farddoniaeth ac ysgrifennu, yn enwedig mewn perthynas â thraddodiadau barddol Cymreig. Wrth wneud hynny, rwy'n bwriadu i hyn fod yn gyfraniad i ddiwylliant llenyddol Cymru a gwaith pwysig, arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Er fy mod yn cydnabod bod hyn yn llawer i'w gyflawni mewn blwyddyn, rwy'n sicr y bydd cefnogaeth Cynrychioli Cymru yn elfen hollbwysig a bythgofiadwy yn y daith hon."

Cau
Tia-zakura Camilleri

Mae Tia-zakura Camilleri, artist creadigol rhyngddisgyblaethol o Gaerdydd, wedi gadael marc annileadwy ar y tirlun artistig gyda'i ffocws nodedig ar farddoniaeth a theatr. O ysgrifennu geiriau gyda'i thad pan oedd ond yn 8 mlwydd oed i serennu mewn nosweithiau barddoniaeth ar draws y DU, mae Tia o'r farn bod rhythm ysgrifennu yr un mor bwysig â'r geiriau. Gyda ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol, nod Tia yw uno barddoniaeth, rap ac academia i adrodd straeon o'r diaspora Du. Yn fwy diweddar yn y llyfr 'Cymru & I' mewn partneriaeth â Inclusive Journalism Wales, mae Tia yn llywio tirweddau cymhleth hunaniaeth, gan rannu ei safbwyntiau unigryw ar faterion cymdeithasol yng Nghymru a'r byd trwy gyfuno cofiant ag odl. Y tu hwnt i farddoniaeth, mae gan Tia ddiddordebau penodol mewn hiliaeth wyddonol a seicoleg ac, yn ei holl waith, mae'n ceisio diddanu ac addysgu.

Sut ydych chi'n rhagweld bydd y rhaglen hon yn eich helpu o ran eich datblygiad fel awdur?

"Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu rhywfaint o'r ochr theori i fod yn awdur; popeth o'r broses o greu stori i wella fy ngwybodaeth ym myd cyhoeddi a'r paratoi i drawsnewid fy hobi yn yrfa broffesiynol. Rwyf am archwilio mathau newydd o ysgrifennu y tu hwnt i farddoniaeth a theatr, ac rwy'n gobeithio darganfod a chwrdd ag awduron o'r un anian y gallaf uniaethu â nhw."

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy amdanaf fy hun fel awdur. Rwy'n siŵr y bydd y prosiect hwn yn fy amlygu i, a'm gwthio i arbrofi â gwahanol arddulliau ysgrifennu y gallaf ddysgu ohonynt. Rwy'n edrych ymlaen at allu ffurfio hunaniaeth fel awdur o'r diwedd a sefydlu pwy rwyf am fod yn y llenyddiaeth rwy’n ei greu. Yn yr un modd, mae'r cyfle i ddysgu gan Llenyddiaeth Cymru yn mynd i fod yn hynod werthfawr. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau o fewn y rhaglen hon. Mae'n werth nodi hefyd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd ag awduron amrywiol eraill o Gymru sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Hanfod fy holl waith yw adrodd straeon o'r diaspora Du felly rwy'n edrych ymlaen at fod mewn ystafell gyda phobl o wahanol gefndiroedd sydd â phrofiadau bywyd gwahanol i helpu i ddatblygu ein gilydd."

Cau