Dewislen
English
Cysylltwch

Children’s Laureate Wales: Wythnos Iechyd Meddwl Plant

Cyhoeddwyd Mer 5 Ebr 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Children’s Laureate Wales: Wythnos Iechyd Meddwl Plant
Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant, 2023, cyd-weithiodd y Children’s Laureate Wales, Connor Allen gyda’r bardd a’r perfformiwr geiriau llafar, Duke al Durham i arwain cyfres o weithdai barddoniaeth yn archwilio’r themâu cymuned, cysylltiad a hunaniaeth.   

“Profiad ysbrydoledig, goleuedig a gafaelgar.” 

-Athrawes Ysgol Gynradd Kitchener 

Cynhaliwyd y pedwar diwrnod o weithdai yn Ysgol Uwchradd Fitzalan gyda disgybl Bl. 6 o ysgolion cynradd cyfagos. Trefnwyd y gweithdai mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Thîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd. 

Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys Ysgol Gynradd St Paul’s C. W., Ysgol Gynradd Kitchener, Ysgol Gynradd Ninian Park, Ysgol Gynradd Lansdowne, Ysgol Gynradd Maesyfed, Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd y Santes Fair, Ysgol Gynradd Mount Stuart, Ysgol Gynradd Hafren ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. Cymerodd dros 60 o blant ran a mynychodd pob plentyn dau ddiwrnod llawn o weithdai lle roedden nhw’n archwilio a thrafod amrywiaeth o themâu a chreu oriel o’u darnau creadigol eu hunain. 

 

“Roedd yna awyrgylch gynhwysol, hwyliog a diddorol iawn… bydd y plant yn trysori’r atgofion wnaethon nhw yn y gweithdy am flynyddoedd i ddod.” 

– Aelod Staff yr Eglwys y Santes Fair yng Nghymru

 


Mae iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn thema allweddol yn ystod cyfnod Connor Allen fel Children’s Laureate Wales. Mae prosiectau blaenorol yn cynnwys gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfres o weithdai barddoniaeth am effeithiau technoleg ar iechyd meddwl pobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yn y stori newyddion yma.  

 

“Fe wnaeth y gweithdai ymbweru’r plant i feddwl am eu hiechyd meddwl mewn awyrgylch gefnogol a chreadigol.” 

– Athrawes Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Parc Ninian 

 

 

 

Bydd y cerddi a grëwyd yn ystod y gweithdai yn cael eu defnyddio i greu murlun yn adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan mewn pryd ar gyfer yr agoriad ym mis Medi 2023. Bydd y murlun yn cael ei greu gan y gymuned artist, Unify a oedd hefyd yn bresennol yn y gweithdai barddoniaeth er mwyn sicrhau y byddai lleisiau’r plant yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol yn y gwaith celf. 

Mae Iechyd a Llesiant yw un o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru. Ein cenhadaeth yw Cefnogi llesiant unigolion a chymunedau, gan ddefnyddio llenyddiaeth fel grym iachao. Mae mwy o wybodaeth am waith Iechyd a Llesiant Llenyddiaeth Cymru ar gael yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2025. 

Ceir rhagor o wybodaeth am brosiect Children’s Laureate Wales ar ein tudalen prosiect.  

Plant a Phobl Ifanc