Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfle gyda thâl: Gwaith Comisiwn Iechyd a Llesiant

Cyhoeddwyd Llu 4 Ion 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfle gyda thâl: Gwaith Comisiwn Iechyd a Llesiant

Gwaith Comisiwn Iechyd a Llesiant Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion

 

Rydym yn ymwybodol iawn o effaith COVID-19 ar ein llesiant ac ar ein hiechyd meddwl, a sut fod y cyfnod hwn wedi cynyddu unigrwydd ac unigedd i lawer. Gall llenyddiaeth, yn ei holl ffurfiau amrywiol, fod o gymorth i ddod a phobl ynghyd ac i roi llais i’r rheiny sydd heb lais yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, yn gwahodd ceisiadau gan awduron ac artistiaid llawrydd ar gyfer un o bedwar comisiwn gwerth £2,000 yr un:

  • I greu a chyflawni prosiectau ysgrifennu creadigol ar gyfer pobl o gefndiroedd incwm isel gan ganolbwyntio ar lesiant meddyliol
  • I bartneru gyda sefydliad lleol (sefydliad gwirfoddol neu drydydd sector) sydd â phrofiad o gefnogi pobl o gefndiroedd incwm isel
  • I greu prosiectau peilot sy’n gallu cael eu defnyddio fel ymarfer da ar gyfer prosiectau yn y dyfodol mewn mannau eraill o Gymru
  • I ddefnyddio llwyfannau digidol, a gweithgaredd sydd ag ymbellhau cymdeithasol ble bo’n briodol, er mwyn dod â chynulleidfaoedd creadigol a chymunedau at ei gilydd yn ystod cyfyngiadau cymdeithasol, a hynny trwy ddefnyddio llenyddiaeth

 

Dyddiad cau: 5.00 pm, dydd Mawrth 26 Ionawr 2021

 

Cefndir

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, a hynny am yr ail waith, er mwyn gwahodd ceisiadau gan awduron ac artistiaid i greu a chyflawni prosiect ysgrifennu creadigol gyda phwyslais ar iechyd a llesiant, yn benodol ar gyfer unigolion a/neu grwpiau o gefndiroedd incwm isel.

Mae cyfranogi, a chymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yn benodol, yn un o dri phrif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw cynyddu mynediad at ac effaith ysgrifennu creadigol ar gyfranogwyr yng Nghymru er mwyn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Rydym ni’n gwybod fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau.

Gall cyfranogi mewn prosiectau ysgrifennu creadigol uwchsgilio cyfranogwyr, ac arwain at fwy o hyder, hunanwerth a gwell hunanfynegiant. Trwy ganolbwyntio’r alwad hon allan ar waith gyda’r rheiny o gefndiroedd incwm isel, rydym yn gobeithio gweld canlyniadau cadarnhaol diriaethol i’r sawl sydd yn cymryd rhan. Mae pobl o gefndiroedd incwm isel, ynghyd ag unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig a’r rheiny sy’n byw gydag anableddau neu salwch hirdymor (corfforol neu feddyliol) yn cael eu blaenoriaethu gan Llenyddiaeth Cymru wrth gynllunio a chyflawni prosiectau, oherwydd bod eu nodweddion yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd o fewn diwylliant llenyddol Cymru.

 

COVID-19

Rydym yn ymwbybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yn nhermau ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigoliona chymunedau, ac yn arbennig felly I’r rheiny sy’n dibynnu ar incwm llawrydd. Pwrpas yr alwad agored hon yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gimisiynir yn ceisio mynd I’r afael â heriau llesiant trwy ddefnyddio llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol; ac yn diddanu, ysbrydoli ac addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.

Rhaid i bob prosiect gael eu cyflawni yn cydymffurfio i’r rheolau a chanllawiau COVID-19 sydd yn weithredol ar y pryd. Mae tlodi digidol yn her i’w ystyried wrth gynllunio a chyflawni’r prosiectau hyn ar gyfer grwpiau o gefndiroedd incwm isel. Gall Llenyddiaeth Cymru gynghori yn ystod y broses gynllunio, ond da fyddai ystyried opsiynau wyneb yn wyneb ac opsiynau digidol ar gyfer cyflawni’r gwaith.

 

Beth sydd ar gael?

Mae pedwar comisiwn gwerth £2,000 ar gael. Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei ddyfarnu i brosiect Cymraeg ei iaith.

Gall awduron wneud cais am un comisiwn yn unig; fodd bynnag, gellir gwneud cais fel unigolyn, mewn parau neu fel grŵp.

Rydym yn argymell fod awduron yn ymgeisio mewn partneriaeth â, neu gyda chefnogaeth, elusen neu sefydliad sydd yn cefnogi unigolion neu gymunedau o gefndiroedd incwm isel. Bydd angen cynnwys llythyr o gefnogaeth gan y sefydliad i gefnogi hyn.

Cofiwch ystyried eich ffi eich hun fel hwylusydd wrth baratoi cyllideb ddrafft ar gyfer y prosiect.

 

Meini prawf cymhwysedd

Mae unrhyw awduron neu artistiaid sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn. Caiff blaenoriaeth ei roi i’r canlynol:

  • Y rheiny sydd yn uniaethu gydag o leiaf un o’n Tair Nodwedd Benodol (unigolion o gefndiroedd incwm isel, unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol))
  • Y rheiny sydd heb dderbyn unrhyw nawdd neu ffi reolaidd gan Llenyddiaeth Cymru
  • Awduron llawrydd sydd wedi colli gwaith oherwydd pandemig COVID-19
Sut i wneud cais

Cyn i chi gychwyn ar eich cais, rydym yn argymell eich bod yn darllen y ddogfen Cyngor a Chwestiynau Cyffredin, sydd ar gael i’w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

I ymgeisio am y cyfle hwn, cwblhewch y ffurflen gais hon. Bydd y ffurflen gais hefyd yn gofyn i chi uwchlwytho:

  • Cyllideb ddrafft syml ar gyfer y prosiect
  • Llythyr o gefnogaeth gan sefydliad sy’n bartner ar y prosiect, os yn berthnasol

Am ragor o wybodaeth neu gefnogaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

 

Dyddiad cau: 5.00 pm, dydd Mawrth 26 Ionawr 2021

 

Beth sy’n digwydd nesaf?
  • Caiff yr holl geisiadau eu hasesu gan banel o staff Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion
  • Bydd yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad byr ynglyn â’u prosiect ar ddydd Llun 8 neu dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
  • Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu erbyn 11 Chwefror 2021, a bydd Llenyddiaeth Cymru yn cadarnhau’r cyllid sy’n cael ei gynnig a dyddiad cwblhau gyda phob awdur
  • Caiff awduron eu talu ymlaen llaw yn dilyn derbyn cytundeb wedi ei arwyddo

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i gynghori ac i gefnogi yn ystod cyfnod cynllunio a chyflawni’r prosiect.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Gweler www.llenyddiaethcymru.org am ragor o wybodaeth.

Dogfennau

Canllawiau pellach a Chwestiynau Cyffredin (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 112KB
Canllawiau pellach a Chwestiynau Cyffredin (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 55KB
Ffurflen Gais (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 149KB
Ffurflen Gais (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 199KB
Canllawiau a thempled cyllideb (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 108KB
Canllawiau a thempled cyllideb (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 58KB