Dewislen
English
Cysylltwch

Stori i Bawb: Creu Straeon Amrywiol i Blant a Phobl Ifanc

Cyhoeddwyd Llu 13 Rhag 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Stori i Bawb: Creu Straeon Amrywiol i Blant a Phobl Ifanc

Cwrs Creu Straeon Amrywiol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Cwrs ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau gan awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am le ar gwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dan arweiniad yr awdur a’r hwylusydd celfyddydol Elgan Rhys a llu o awduron gwadd gan gynnwys cyd-awduron Y Pump, Ciaran Fitzgerald, Nia Morais, Megan Hunter, bydd y cwrs yn cynnig wythnos fer o weithdai, sgyrsiau a thrafodaethau i ddatblygu eich crefft ysgrifennu creadigol i blant hŷn 8-12 oed a phobl ifanc 12+ oed. Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron newydd sbon, ag awduron â pheth profiad eisoes. Bydd 12 lle ar gael.

Dyddiadau Pwysig:

Dyddiadau’r cwrs yw dydd Llun 25 Ebrill – dydd Gwener 29 Ebrill 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am le ar y cwrs yw 5.00 pm, dydd Gwener 11 Chwefror 2022.

Llun o'r hwylusydd, Elgan RhysMae Elgan Rhys yn awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol sy’n dod o Bwllheli ac yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Elgan yw Rheolwr a Golygydd Creadigol cyfres Y Pump (Y Lolfa, 2021) ac awdur Tim (gyda Tomos Jones), nofel gyntaf y gyfres. Mae ei waith ar gyfer y theatr yn cynnwys Llyfr Glas Nebo (cyfarwyddwr, 2020), Woof (awdur, 2019), Chwarae (awdur a pherfformiwr, 2019-20) a Mags (awdur, 2018-9), ac mae wedi bod yn artist cyswllt gyda’r Frân Wen a Theatr Iolo. Mae hefyd yn un o Fodelau Rôl Stonewall Cymru, ac mae’n gweithio ar brosiectau newydd ar gyfer theatr, ffilm a theledu ar hyn o bryd.

Beth yw bwriad y cwrs?

Mae llyfrau yn llesol, yn enwedig i blant a phobl ifanc wrth iddynt geisio deall a dysgu am y byd o’u cwmpas. Yn ôl adroddiad diweddar gan y National Literacy Trust, nododd 3 o bob 5 plentyn fod darllen yn gwneud iddynt deimlo yn hapusach, gyda hanner y plant yn nodi fod darllen yn eu galluogi i freuddwydio am y dyfodol. Ond beth all ddigwydd os nad yw plentyn yn adnabod eu hunain a’u teuluoedd yn y llyfrau sydd ar gael?

Bydd y cwrs hwn yn gam ymarferol er mwyn sicrhau fod llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yn berthnasol i pob plentyn yng Nghymru. Drwy gynnig hyfforddiant i awduron â phrofiadau byw perthnasol, y gobaith yw cyhoeddi mwy o lyfrau fydd yn cynnwys straeon ysbrydoledig am gymeriadau o amryw o gefndiroedd ethnig, cymeriadau sydd yn byw ag anableddau, a phortreadau o deuluoedd sydd yn cynnwys aelodau LHDTC+. Bydd llyfrau amrywiol hefyd yn sicrhau fod plant Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno i’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau a chefndiroedd teuluoedd sydd yn bodoli, gan anelu i greu cenedlaethau mwy caredig ac eangfrydig i’r dyfodol.

Nid oes angen profiad blaenorol o ysgrifennu cyn ymgeisio am le ar y cwrs hwn, na Chymraeg perffaith! – dim ond yr awydd i greu straeon ardderchog a’r potensial i greu gwaith o safon fydd yn cyfareddu plant a phobl ifanc.

 

Sut ydw i’n gwneud cais?

I ymgeisio, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod, a llenwi ein Ffurflen Gais fer.

 

Adnoddau

Cwestiynau Cyffredin (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 59KB
Cwestiynau Cyffredin (Print Bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 26KB
Cwestiynau Cyffredin (Dogfen PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 137KB