Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2022
Dros 50 o awduron o Gymru a thu hwnt yn dod i rannu cyfrinachau eu crefftau creadigol yng nghanolfan ysgrifennu genedlaethol Llenyddiaeth Cymru.
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi ail-agor drysau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2022, a hynny gyda rhaglen lawn o gyrsiau ysgrifennu creadigol.
Mae dros 50 o awduron o Gymru a thu hwnt yn cynnig eu harbenigedd i’r rhaglen eleni, gan gynnwys enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019, Rhiannon Ifans, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018, Manon Steffan Ros, ac enillydd Categori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, Mike Parker.
Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn parhau i lynu at ganllawiau swyddogol ac yn rhoi mesurau ar waith er mwyn diogelu ein hawduron rhag risgiau COVID-19, gan gynnwys rhannu canllawiau a gofynion clir i westeion cyn eu hymweliad, gweithredu cyfundrefnau glanhau ac awyru newydd yn ogystal â chynnig polisi canslo hyblyg er mwyn rhoi peth tawelwch meddwl i gwsmeriaid.
Yn gymysgedd o gyrsiau undydd a rhai preswyl, bwriad y cyrsiau ysgrifennu creadigol yw datblygu sgiliau awduron newydd yn ogystal â rhoi cyfle i lenorion mwy profiadol wthio eu crefft i’r cam nesaf. Bydd cyrsiau yn canolbwyntio ar finiogi eich ffuglen, creu deunydd darllen difyr yn seiliedig ar ddigwyddiadau ffeithiol, barddoniaeth o bob math, creu llyfrau llun a stori, chwedleua a mwy. Bydd y cyrsiau yn cynnig sawl trywydd i awduron, ac ymysg rhai o brif themâu’r cyrsiau y mae taclo’r argyfwng hinsawdd drwy lenyddiaeth, ffeministiaeth a chydraddoldeb, ysgrifennu i iachau, ac ysbrydoliaeth byd natur.
Bydd Cwrs Cynganeddu i Ferched yn gyfle perffaith i fentro i fyd y gerdd dafod dan ofal dwy feistres y grefft, Mererid Hopwood a Karen Owen; a bydd cwrs penwythnos ar sut i fynd ati i ysgrifennu nofel dan ofal yr awduron poblogaidd Llwyd Owen a Manon Steffan Ros. Bydd cyfle hefyd i ymgolli mewn creu cyfrolau gair-a-llun i blant yng nghwmni’r cwpl creadigol, Huw a Luned Aaron. Bydd ein cwrs poblogaidd, ysgrifennu creadigol i ddysgwyr hefyd yn dychwelyd ar benwythnos Shwmae Sumae gyda’r tiwtoriaid Bethan Gwanas a Siôn Tomos Owen.
Mae llu o gyrsiau undydd ar droed i danio’r awen ac i gynnig blas ar sawl crefft lenyddol, yn cynnwys creu cerddi cyfarch, archwilio’r ysgrif, a rhoi tro ar y stori fer. Manteisio ar brydferthwch milltir sgwâr Tŷ Newydd fydd Siân Melangell Dafydd yn ystod ei chwrs undydd yn y gwanwyn, gan ein tywys ni am dro i grwydro’r tir ac edrych am fwyd dan ein traed yn y caeau a’r llwyni i ni eu bwyta ar ôl dychwelyd i’r ganolfan. Bydd Angharad Wynne a Mike Parker hefyd yn mynd â ni ar daith ar eu cwrs preswyl wrth grwydro ac ysgrifennu am Gymru – ein chwedlau, llenyddiaeth a’n lle yn y byd. Cyfle arall i ymestyn y corff heb deithio ymhell fydd encil Yoga a Barddoniaeth dan arweiniad proffesiynol Laura Karadog a Mona Arshi.
Yn ogystal â chyrsiau wedi eu tiwtora, bydd encilion tymhorol yn y rhaglen i roi’r amser a’r tawelwch i awduron newydd gychwyn ar ddarn o waith yn eu hamser eu hunain, gan fwynhau cael eu prydau bwyd oll wedi eu darparu iddynt gan ein cogydd preswyl profiadol. Bydd ymwelwyr gwadd o’r diwydiant cyhoeddi yn ymweld ar ambell encil, i roi cyngor i’r rheiny sy’n barod i gymryd cam tuag at gyhoeddi eu gwaith.
Os mai gwyliau ysgrifennu sy’n cynnig noddfa dawel rhag bywyd bob dydd sydd at eich dant eleni, gallwch archebu lle ym Mwthyn Encil Awduron Nant, sef gofod bach clyd ar y safle sydd wedi ei ail-ddylunio’n arbennig i ddarparu gofod heddychlon i awduron ganolbwyntio ar eu gwaith.
Ymysg yr enwau sy’n ymddangos yn y rhaglen Saesneg y mae Patience Agbabi, Carol Ann Duffy, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, yr awdur trosedd poblogaidd Clare Mackintosh, a llu o enwau profiadol eraill i’w canlyn.
Mae’r cyrsiau oll i’w gweld ar wefan www.tynewydd.cymru, yn cynnwys wyth cwrs blasu digidol. Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd neu am unrhyw un o’n cyrsiau neu encilion, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org