Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Dathlu llwyddiannau carfan 2021-2022 a blwyddyn gyntaf y rhaglen

Cyhoeddwyd Maw 12 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Dathlu llwyddiannau carfan 2021-2022 a blwyddyn gyntaf y rhaglen
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o rannu fideo yn dathlu carfan gyntaf Cynrychioli Cymru a llwyddiant blwyddyn gyntaf y rhaglen.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis i ddatblygu awduron, a gynlluniwyd i wella cynrychiolaeth o fewn y sector a sefydlu llif o ddoniau Cymreig amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, buom yn gweithio’n galed gyda 12 awdur o liw trwy gynnig cymorth ariannol, mentora pwrpasol, gweithdai misol yn canolbwyntio ar y diwydiant, cyfleoedd rhwydweithio, a dosbarthiadau meistr ysgrifennu creadigol gydag awduron a chomisiynwyr sefydledig. 

Yn ystod y flwyddyn, roedd y tiwtoriaid yn cynnwys Anita Sethi, Raymond Antrobus a Jacob Ross a chlywodd y garfan hefyd gan awduron megis Roger Robinson, Catherine Johnson ac Patience Agbabi. Cyfarfu’r awduron hefyd â’r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus, Riot Communications, cyhoeddwyr o Gymru, asiantau llenyddol, golygydd comisiynu o Harper Collins a chynrychiolwyr o Theatr y Sherman, S4C a Creative Access. 

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys Mentoriaid adnabyddus fel Michael Rosen, Mona Eltahawy, Abi Morgan, Inua Ellams, a Manon Steffan Ros. Gwyliwch y fideo isod er mwyn dysgu am brofiadau’r awduron o fod ar y rhaglen. 

Mae ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i’r awduron hyn yn parhau wrth i ni barhau i weithio’n agos gyda nhw drwy gynnig mentora ôl-ofal, eu gwahodd i ddigwyddiadau cyfredol Cynrychioli Cymru a chanfod cyfleoedd proffesiynol a chreadigol mewnol ac allanol. Darllenwch fwy am flwyddyn beilot y rhaglen yma. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y flodeugerdd a ysgrifennwyd gan y garfan ac a gyhoeddwyd gan Lucent Dreaming yma. 

Caidd Cynrychioli Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru a’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. 

 

Cynrychioli Cymru