Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Rhagfyr 2020 a Ionawr 2021

Cyhoeddwyd Maw 1 Rhag 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Rhagfyr 2020 a Ionawr 2021

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Covid-19, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cronfa Argyfwng i Awduron – Parhaus

Mae modd i bob awdur proffesiynol sydd yn byw yn y DU neu sydd yn Ddinesydd Prydeinig ymgeisio – gan gynnwys bob math o awdur, ddarlunydd, gyfieithydd llenyddol, sgriptiwr, beirdd, newyddiadurwyr ac eraill – os yw’r weithgaredd hon yn gyfrifol am ganran helaeth o’u hincwm blynyddol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds#:~:text=The%20Authors’%20Emergency%20Fund,-Emergency%20funding%20for&text=Many%20writers%2C%20illustrators%2C%20journalists%2C,talks%2C%20performances%20and%20school%20visits.

 

Grant White Pube i Awduron – Misol

Rhoddir y Grant White Pube o £500 yn fisol i awdur dosbarth gweithiol yn y DU. Sefydlwyd y grant hwn er mwyn cefnogi awduron o bob oed yn gynnar y neu gyrfa a hoffai fanteisio ar gymorth ariannol heb gytundeb I’w cynorthwyo ym mha bynnag ffordd yr hoffent – gall fod i ryddhau amser I ysgrifennu, I brynnu llyfrau, printio, tanysgrifiadau, ymchwil, datblygu, teithio, neu i dalu costau cyffredinol byw neu rent.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.thewhitepube.co.uk/writersgrant#:~:text=This%20grant%20has%20been%20set,development%2C%20travel%2C%20or%20even%20just

Diwylliant Mewn Cwarantîn y BBC – Ffrwd Gomisiynu Newydd I gefnogi Artistiaid Anabl – 12 Ionawr
I nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae BBC Arts, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland wedi lansio rownd gomisiynu Diwylliant mewn Cwarantîn newydd i ddathlu gwaith pobl anabl, B/byddar, ac artistiaid niwro-amrywiol.Bydd deg artist anabl sefydledig yn cael eu comisiynu o bob rhan o Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i greu gweithiau fideo neu sain newydd i’w cyhoeddi ar lwyfannau’r BBC yn 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.thespace.org/commissioning
Ymarferydd Creadigol: Ysgrifennydd Sgriptiau – 13 Ionawr
Mae Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd yn chwilio am ymarferydd creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg gyda phrofiad mewn ysgrifennu sgriptiau a chwarae rôl, i gydweithio hefo plant blynyddoedd 4 a 5 a’u hathrawon. Mae’r dosbarth eisioes wedi dewis ‘Y Gofod’ fel thema a hoffent gydweithio hefo ymarferydd sy’n uchelgeisiol, yn fentrus a brwdfrydig i’w ddatblygu.
Bydd y prosiect yn cymryd lle rhwng canol Chwefror a ddiwedd Ebrill 2021.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch hefo: bethan.page@gmail.com
Discoveries gyda Curtis Brown & Curtis Brown Creative – 17 Ionawr
Mae Discoveries yn gwahodd menywod o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, o bob oed a chefndir, i gyflwyno eu gweithiau ffuglen, gyda’r posibilrwydd o ennill gwobr ariannol o £5,000 a chynnig o gynrychiolaeth gan Asiantaeth Lenyddol Curtis Brown. Does dim rhaid i awduron fod wedi gorffen nofel – dim ond y 10,000 gair cyntaf a chrynodeb – ac mae’n rhad ac am ddim.
Artist Preswyl Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy – 21 Ionawr
Mae Ein Tirlun Darluniadwy yn Gynllun Partneriaeth Tirlun 5 Mlynedd gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Bydd preswyliadau’n digwydd yn ystod blwyddyn 3 o’n Prosiect Tirlun Darluniadwy, o Chwefror i Hydref 2021. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymarferwyr amrywiaeth o ddisgyblaethau llenyddol neu’r gair llafar; gallai hyn gynnwys unrhyw beth o farddoniaeth i ryddiaith, ysgrifau teithio neu ddyddlyfr, recordiadau sain y gair llafar, cân, fideo neu’r cyfryngau digidol/podlediadau. Y gyllideb ar gyfer pob preswyliad yw £3,000.
Anfonwch eich cynigion at ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk erbyn y dyddiad cau, dydd Mercher 20 Ionawr 2021 am 12 hanner dydd.

 

Myfyrio ar Brosiect Adrodd Straeon y Cyfnod Clo – 31 Ionawr

Yn ystod cyfnod clo cychwynnol Covid 19, gwnaeth Age Cymru dros 20,000 o alwadau gofal i bobl hŷn a chlywed ystod o straeon bywyd anhygoel. Credant ei bod yn allweddol bwysig dal a dathlu profiadau pobl hŷn, sydd wedi cael eu heffeithio’n anghymesur gan y pandemig; sut mae eu bywydau wedi eu siapio, a sut maent wedi dod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag ynysiad y cyfnod clo.

Rydym yn deall manteision cymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, a tra bod mynediad at nifer o glybiau celfyddydol a chymdeithasol yn parhau i fod yn gyfyngedig, roeddem yn awyddus i glywed eich straeon.

Mae’r holl fanylion yma: https://www.gwanwyn.org.uk/reflection-on-lockdown-storytelling-project-myfyrio-ar-brosiect-adrodd-straeon-y-cyfnod-clo/

Gwobr Ysgrifennu am Fywyd Spread the Word 2021 – 1 Chwefror
Wedi’i lansio yn 2016 ar y cyd â Goldsmiths Writers’ Center, sefydlwyd Gwobr Ysgrifennu am Fywyd Spread the Word i ddathlu a datblygu Ysgrifennu am Fywyd yn y DU. Nid oes ffi cystadlu, ac mae’r Wobr yn agored i awduron sydd wedi’u lleoli yn y DU sydd eto i gyhoeddi eu gwaith.
Gwobr Rheidol New Welsh Writing Awards 2021 – 16 Mawrth
Eleni, mae’r wobr yn gwahodd gweithiau rhwng 5,000 a 30,000 o eiriau mewn un categori, sef Gwobr Rheidol am Ryddiaith sydd â thema neu leoliad Cymreig, gan awduron o’r DU ac Iwerddon yn ogystal â’r rhai sydd wedi’u haddysgu yng Nghymru am dros chwe mis. Am y tro cyntaf eleni bydd Gwen Davies, y beirniad, hefyd yn ystyried un cofnod gan awdur 18 – 25 oed i’w gyhoeddi gan New Welsh Review mewn print neu ar-lein.
Y wobr gyntaf yw £1,000 fel blaenswm yn erbyn cytundeb e-gyhoeddi ynghyd â beirniadaeth gadarnhaol gan Cathryn Summerhayes, asiant llenyddol yn Curtis Brown. Yr ail wobr yw arhosiad pedair noson ym mwthyn encil awduron Nant Llenyddiaeth Cymru ar dir Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd. Y drydedd wobr yw encil ysgrifennu deuddydd yn Llyfrgell Gladstone yn Sir y Fflint.
Cystadlaethau Straeon i Blant Namibia-Cymru – 30 Ebrill
Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn gofyn i awduron newydd yn ogystal ag awduron profiadol gyflwyno straeon byrion, wedi’u hysgrifennu yn Saesneg, sy’n addas ar gyfer plant rhwng 7 a 15 oed.
Cyfleoedd