Dewislen
English
Cysylltwch

Dyfarnu £16,000 i bedwar prosiect newydd fydd yn cyfuno llên a natur er budd llesiant

Cyhoeddwyd Gwe 13 Mai 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dyfarnu £16,000 i bedwar prosiect newydd fydd yn cyfuno llên a natur er budd llesiant
Rydym yn falch o gyhoeddi’r pedwar prosiect newydd a gomisiynwyd yn dilyn galwad agored am geisiadau sy’n archwilio effaith natur a’r amgylchedd ar lesiant drwy ysgrifennu creadigol.

Ym mis Mawrth 2022, gwahoddodd Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, ddatganiadau o ddiddordeb gan awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a chyflwyno prosiect ysgrifennu creadigol a oedd yn archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant, a’r amgylchedd naturiol. Dyma’r bedwaredd flynedd i Llenyddiaeth Cymru gynnig nawdd fel rhan o’i raglen Gwaith Comisiwn i Awduron.

Rydym ni’n credu’n gryf fod gan lenyddiaeth y grym i wella a thrawsnewid bywydau. Gwyddom hefyd fod treulio amser ym myd natur yn dda i’n lles meddyliol a gall ymgolli ein hunain yn yr awyr agored ac ysgrifennu am ei ryfeddodau ein helpu ni’n emosiynol hefyd. Wrth i’n pryderon am yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig dyfu, mae llawer ohonom wedi bod yn mwynhau ein hamgylchedd naturiol yn fwy nag erioed o’r blaen. Bydd y prosiectau a gomisiynir yn cyfuno pwerau llenyddiaeth a natur i hybu llesiant.

Rhoddwyd pedwar dyfarniad o £4000 yr un i alluogi pedwar pâr o awduron a hwyluswyr i ddatblygu eu prosiectau. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn darparu cynlluniau creadigol newydd ac arloesol sy’n archwilio gweithgaredd llenyddol mewn natur ac yn y gymuned leol i gefnogi iechyd a llesiant meddyliol. Y nod yw y bydd modd dadansoddi effaith y cynlluniau hyn, er mwyn i eraill eu hefelychu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

 

Y prosiectau sydd wedi eu comisiynu yw:

  • Grym Geiriau/Write Back dan arweiniad Bethany Handley a Megan Hunter sy’n cynnig encil deuddydd, tair-ieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) yn Nhŷ Newydd, lle bydd pobl ifanc Anabl/Byddar/sy’n dioddef o salwch cronig yn dod ynghyd i archwilio eu profiadau a’u perthnasau gyda natur
  • Writing Tree dan arweiniad Gwyn Ruddell Lewis a Sarah Douglass a fydd yn gweithio gyda phartneriaid mamau newydd i wella eu llesiant a datblygu cyswllt gwell gyda natur. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau ymdrochi yn y goedwig a gweithdai sygrifennu creadigol myfyriol.
  • The Long View dan arweiniad Taylor Edmonds a Nasia Sawar sy’n gwahodd menywod o liw i ymweld â lleoliadau llawn natur yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, a chynnig gweithdai ysgrifennu creadigol ac adrodd stori er mwyn plannu ymdeimlad o berthyn, a’r grym i fynnu eu lle yn yr amgylchedd.
  • Our Hidden Garden dan arweiniad Natasha Borton ac Anastacia Ackers sy’n cyflawni cyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol a pherfformio barddoniaeth sy’n pontio cenhedloedd yn seiliedig ar amrywiaeth gofodau gwyrddion Wrecsam.

Gallwch ddarllen rhagor am y prosiectau a gomisiynwyd yma: Gwaith Comisiwn i Awduron #4

Llenyddiaeth Cymru