Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020: Gwobr Driphlyg i Ifan Morgan Jones

Cyhoeddwyd Sad 1 Awst 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020: Gwobr Driphlyg i Ifan Morgan Jones

Heddiw fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r awdur, darlithydd a newyddiadurwr, Ifan Morgan Jones, yw enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 gyda’i nofel, Babel (Y Lolfa).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw. Cyflwynwyd y darllediad arbennig gan Nia Roberts am 12.30 pm dydd Sadwrn 1 Awst 2020, yng nghwmni cynrychiolwyr o’r panel beirniadu, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

Fe gyhoeddwyd fod nofel Ifan Morgan Jones wedi dod i’r brig yn y categori ffuglen ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf, cyn mynd ymlaen i gipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2020. Ar yr un rhaglen, cyhoeddwyd mai Babel oedd hefyd yn cipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni; gan olygu fod Ifan yn ennill y driphlyg.

Mae Ifan yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Bydd hefyd yn derbyn darlun arbennig gan Lily May Rogers, myfyriwr Darlunio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl eleni.

Mae Babel, sef trydedd nofel Ifan Morgan Jones i oedolion, yn adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos. Dyma’r nofel yn y genre agerstalwm (steampunk) cyntaf erioed yn y Gymraeg.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Daw o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul. Ef yw golygydd y gwasanaeth newyddion ar-lein, Nation.Cymru. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008. Darllenwch ragor yma.

Meddai’r cyflwynydd Nia Roberts: “Dwi wedi gwirioneddol fwynhau bod yn rhan o gyhoeddi enillwyr y categorïau a Phrif Enillydd y gystadleuaeth eleni. Nid seremoni fel hon oeddem ni wedi’i disgwyl, yn wir roedd pawb yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Aberystwyth ar ôl llwyddiant y llynedd. Ond o orfod addasu a newid y drefn, ‘da ni wedi cael cyfle i roi sylw haeddiannol i’r pedair cyfrol ardderchog sydd wedi cyrraedd y brig. Mae yna newydd-deb a ffresni i’w deimlo eleni am sawl rheswm. Categori newydd ar gyfer Llyfrau Plant a Phobol ifanc, a nofel ffantasi yn mynd â hi (Yr Horwth gan Elidir Jones). Naws ifanc cerddi’r bardd sensitif Caryl Bryn – dwi wrth fy modd efo’i chyfrol Hwn ydy’r llais, tybad? – a’r nofel agerstalwm gyntaf yn y Gymraeg yn cael coron driphlyg o wobrau. Llongyfarchiadau mawr i Ifan Morgan Jones ac yn wir i awduron pob cyfrol ar y rhestrau byrion.”

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Siôn Tomos Owen: “Braf yw nodi ein bod ni fel beirniaid wedi’n plesio’n fawr gyda phob un o’r cyfrolau ar y rhestr fer eleni. Mae yma ymgeiswyr cryf, sy’n cynnig gwledd i bob darllenydd trwy’i gweithiau amrywiol. Nid hawdd oedd dewis un o blith y pedwar enillydd categori, ond roedd y panel yn gytûn fod Babel, nofel agerstalwm Ifan Morgan Jones – sy’n trafod Cymru gyfoes, hanes ein gwleidyddiaeth a chyflwr ein moesau cymdeithasol trwy ddrych y cyfryngau cenedlaethol – yn llawn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyn eleni. Llongyfarchiadau i bob un o’r pedwar enillwyd a’u cyhoeddwyr.”

 

Enillwyr y Categorïau

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dros y tridiau diwethaf mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi deuddeg enillydd a dosbarthu cyfanswm o £14,000 i’r awduron llwyddiannus, a hynny mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Caryl Bryn gyda’i chyfrol gyntaf Hwn ydy’r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp). Mae’n gasgliad sydd yn chwilio’n barhaus – yn swigod y noson gynt ac yn lludw’r bore wedyn; trwy ffenestri Bangor Uchaf, ar blatfformau trên yn Lerpwl ac ar draethau Gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol sydd yn ymdrin â galar, serch ac ieuenctid, ac yn ddarnau o lenyddiaeth fydd yn gwneud i ninnau holi, ‘tybad?’

Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol yw Alan Llwyd gyda’i gyfrol Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas). Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn. Trafodir ei fagwraeth a’i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno.

Y llyfr a ddaeth i’r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc yw Chwedlau’r Copa Coch: Yr Horwth (Atebol Cyf) gan Elidir Jones. Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur – lle mae bwystfil yn bygwth y wlad, a’r unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl.

Mae’r categori Plant a Phobl Ifanc yn ychwanegiad newydd i’r Wobr ar gyfer 2020, er mwyn annog ac ysbrydoli cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol, codi proffil awduron talentog Cymru, a sefydlu’n glir bod llenyddiaeth i blant llawn werth a’r hyn a fwriadir ar gyfer oedolion.

 

Enillwyr y Wobr Saesneg

Prif enillydd y Wobr Saesneg eleni, ynghyd â Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies yw Niall Griffiths gyda’i nofel Broken Ghost (Jonathan Cape). Dyma nofel sy’n rhoi llais i’r rheiny sydd ar gyrion cymdeithas; y rhai a gaiff eu hanghofio. Yma, caiff cymuned Gymreig ei dynnu at ei gilydd a’i chwalu gan ddarlun rhyfedd yn y mynyddoedd. Mae gan y trigolion eu cythreuliau’n barod, ond mae pob cymeriad yn profi ac yn ymateb i’r ysbryd rhyfedd yma mewn ffordd wahanol, ac i rai, bydd yn newid popeth.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth Saesneg yw Zoë Skoulding gyda’i chyfrol Footnotes to Water (Seren), sy’n olrhain sawl taith ar hyd tirweddau amrywiol, gan archwilio sut y caiff llefydd eu heffeithio gan iaith, a sut y mae iaith yn effeithio arnynt. Enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg yw On the Red Hill, Mike Parker (William Heinemann). Dyma stori Rhiw Goch a’i drigolion, ond hefyd stori cymuned wledig arbennig, a’r modd y gellid creu teulu yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Y nofel The Girl Who Speaks Bear (Usborne) gan Sophie Anderson ddaeth i’r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc. Mae’n dilyn Yanka, merch a ddarganfuwyd mewn ogof arth pan yn faban, ac sydd wedi pendroni pwy yn union yw hi ac o le mae’n dod byth ers hynny.

Enillydd Gwobr People’s Choice Wales Arts Review yw The Girl Who Speaks Bear gan Sophie Anderson. Bydd Sophie yn derbyn print arbennig, wedi ei fframio, o Furlun Tŵr Dŵr Caerdydd gan yr artist Pete Fowler.

Yn beirniadu’r llyfrau Saesneg y flwyddyn hon y mae’r awdur a’r darlunydd Ken Wilson-Max; yr awdur, athrawes a chyfieithydd Sampurna Chattarji; a’r Ysgolhaig Fulbright, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd Gŵyl y Gelli Tiffany Murray.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. Rydym yn falch iawn i ddathlu llwyddiannau llenyddol ein hawduron hynod dalentog, ac mae’r Wobr hon yn fodd o wneud hyn yn  flynyddol. Mae’r pedwar enillydd eleni yn adlewyrchu blwyddyn lwyddianus arall o gyhoeddi yng Nghymru, a braf yw gweld gwasg newydd ymhlith y rhestr. Os nad ydych chi wedi darllen y gweithiau arbennig hyn, mynwch gopi trwy’ch siop lyfrau lleol. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr!”

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn

Wales Book of the Year