Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a COVID-19 – Diweddariad 14.5.2020

Cyhoeddwyd Iau 14 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru a COVID-19 – Diweddariad 14.5.2020
Mae sawl wythnos wedi pasio ers i Llenyddiaeth Cymru gau drysau ei swyddfeydd dros dro o ganlyniad i haint COVID-19, felly roeddem yn awyddus i ddiweddaru ein cynulleidfaoedd a’n rhanddeiliaid ar ambell ddatblygiad i’n gweithgaredd a rhai materion sefydliadol.
Sut yr ydym yn addasu ein gweithgaredd:

Cenhadaeth Llenyddiaeth Cymru, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, yw ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Er i ni orfod gohirio llawer o’n gweithgaredd, mae ein hymrwymiad i’r genhadaeth hon yn parhau’n gadarn yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ymgynghori â’n partneriaid, noddwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn deall effaith hirdymor a pharhaol y pandemig hwn ar y sector. Rydym yn sefydliad hyblyg, ac mae’r sgyrsiau a’r cyfraniadau hyn wedi’n helpu i addasu ein rhaglen weithgaredd er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd a dyfeisgar i wireddu ein cenhadaeth.

 

Holiadur i awduron – Sut allwn ni helpu?

Rydym yn archwilio sut y gallwn barhau i sicrhau bod awduron, darllenwyr ac artistiaid yn cael eu cefnogi yn ystod yr amser ansicr hwn. Trwy roi gwybod i ni sut y gallwn helpu, byddwch yn cyfrannu tuag at lunio ein rhaglen weithgareddau i weddu anghenion awduron a darllenwyr Cymru.

Cwblhewch ein harolwg byr yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/llchelp

 

Gwaith Comisiwn i Awduron

Ar 1 Ebrill 2020 fe gyhoeddom rownd gomisiynu lle gwahoddwyd awduron llawrydd i anfon mynegiant o ddiddordeb i ddyfeisio a chreu cynnwys a phrosiectau digidol gwreiddiol i gynulleidfaoedd. Mae ein hail alwad agored ar agor ar hyn o bryd (dyddiad cau dydd Llun 18 Mai), ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Prif ffocws yr ail rownd gomisiynu yw iechyd a llesiant; serch hynny, mae prosiectau a chynnwys digidol eraill gydag elfen gyfranogi gref hefyd yn gymwys.

Pwrpas y cyfleoedd hyn yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynir yn ceisio mynd i’r afael â heriau llesiant trwy ddefnyddio llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol; ac yn diddanu, ysbrydoli ac addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.

Gallwch ddarganfod rhagor am y cynnwys a’r prosiectau a gomisiynwyd dan nawdd y rownd gyntaf yma; a chanfod rhagor am y cyfle cyfredol yma.

 

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Mae’r Ganolfan a’i bwthyn encil pwrpasol ar gau i’r cyhoedd gyda diogelwch parhaol a gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y safle. Mae’r holl gyrsiau oedd ar y gweill hyd at canol Gorffennaf wedi eu gohirio, ac rydym yn cadw llygad craff ar y sefyllfa ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth ynglŷn â phryd y gellid ail-agor yn ddiogel. Gobeithiwn ail-drefnu’r holl gyrsiau a ganslwyd pan mae’n saff gwneud hynny, ond yn y cyfamser, mae datblygiadau cyffrous ar y gweill, gan gynnwys dosbarth meistr barddoniaeth arlein, gwersi cynghanedd ar ffurf fideos cwta, a chwrs ysgrifennu creadigol wythnos o hyd arlein.

Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am raglen arfaethedig y Ganolfan ar wefannau Llenyddiaeth Cymru a Thŷ Newydd ac ar ein rhwydweithiau cymdeithasol (gweler y dolenni tua diwedd y dudalen hon).

 

Ein Beirdd ac Awduron Cenedlaethol

Mae’r Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales ill dau yn rolau llysgenhadol sy’n cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl, ac yn hyrwyddo hawl plant i leisio’u barn ac adrodd eu hanesion. Gan amlaf, byddai’r awduron yn treulio llawer o’u hamser yn cynnal gweithdai mewn ysgolion neu ddigwyddiadau mewn gwyliau ledled y wlad. Tra nad yw hynny’n bosib, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gysylltu ag ac ysbrydoli plant Cymru, mae Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru ac Eloise Williams, Children’s Laureate Wales wedi bod yn gosod sialensiau wythnosol sy’n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar y cyfrifon Twitter canlynol @barddplant @Laureate_Wales.

Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i rôl lysgenhadol yntau o hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol trwy gymryd rhan mewn dwy ŵyl arlein. Gallwch wylio ei gyfraniadau isod:

‘Mothertongues’ yng Ngŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol Cúirt

‘Gobaith – Hope’ yn Festival of Hope, Versopolis

 

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn achlysur pwysig yng nghalendr llenyddol Cymru, ac yn dilyn ymgynghori â nifer o gynrychiolwyr o’r sector, gan gynnwys gweisg a llyfrwerthwyr, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd y gwobrau mawreddog yma’n cael eu cynnal ar ffurf ddigidol newydd yn ystod yr haf. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr fer ar 1 Gorffennaf ac yn gwobrwyo’r enillwyr yn ystod Awst 2020. Ynghyd a’n partneriaid, byddwn yn gweithio i ddatblygu cynnwys difyr i lwyfannu a dathlu’r gymdeithas lenyddol fywiog sydd yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau panel, darlleniadau a gweithgareddau rhyngweithiol i gyd-fynd â’r cyhoeddiadau.

Gallwch ddarllen rhagor am Wobr Llyfr y Flwyddyn yma: https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/llyfr-y-flwyddyn/

 

I sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys cyfleoedd i awduron, cadwch lygad ar adran Newyddion ein gwefan yn ogystal â’n cyfrifon ar y rhwydweithiau cymdeithasol (ceir dolenni i’r rhain tua diwedd y dudalen hon).

 

Diweddariadau sefydliadol eraill:

Cronfa ymateb brys i unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru

Roeddem yn falch iawn o fod wedi cyfrannu 50% o’n cyllid loteri ar gyfer 2020-2021 i Gronfa Gwytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru mewn ymateb i COVID-19. Roedd Llenyddiaeth Cymru yn un o nifer o sefydliadau a gyfrannodd tuag at y pecyn o gefnogaeth ehangach hwn, sy’n cynnwys eu Cronfa ymateb brys i unigolion ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd sy’n cael anawsterau ariannol oherwydd y Coronafeirws. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://arts.wales/cy/cronfa-ymateb-brys-i-unigolion

 

Staff a chyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru

Mae staff Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio o adref, ac rydym yn defnyddio meddalwedd a dulliau amrywiol sy’n sicrhau fod ein cyfathrebu mewnol yn effeithlon, a bod modd addasu gweithgaredd yn chwim a synhwyrol. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cwrdd ddwywaith yr wythnos, ac fe gynhelir cyfarfod staff llawn bob yn ail wythnos. Mae llesiant ein staff yn flaenoriaeth i’r sefydliad, felly yn ogystal â sgyrsiau dyddiol gyda rheolwyr llinell, rydym yn cadw pawb mewn cyswllt â’i gilydd gyda boreau coffi ac ambell gwis, ymarferion ‘mindfulness’, a thrwy rannu argymhellion o lyfrau, teledu a ffilm, ryseitiau, a digwyddiadau celfyddydol amrywiol.

Rydym wedi cynnal dau Gyfarfod Bwrdd Eithriadol i drafod materion llywodraethu hanfodol sydd wedi codi o ganlyniad i haint COVID-19, ac mae’r Cyfarwyddwyr a’r tîm Gweithredol yn dilyn cyngor a chyfarwyddiadau’r Llywodraeth a’n noddwyr yn agos a chyson wrth iddynt ein llywio drwy’r cyfnod hwn o ansicrwydd.

 

Cefnogaeth i awduron:

Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yn nhermau ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau. Rydym yn gobeithio’n arw fod awduron sydd yn wynebu colli incwm wedi derbyn cadarnhad eu bod am dderbyn cefnogaeth, boed hynny trwy Gynllun Cefnogi Incwm y Llywodraeth neu trwy Gronfa ymateb brys i unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu bryderon penodol am sut y gall yr wythnosau a’r misoedd nesaf eich heffeithio chi a’ch cymuned lenyddol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.

Yn y cyfamser, i’r rheiny sydd angen cefnogaeth ar fyrder, gall y sefydliadau isod fod o ddefnydd:

 

The Society of Authors

Mae nifer o sefydliadau wedi cyfrannu adnoddau ariannol i’r Gronfa Argyfwng Awduron er mwyn cefnogi awduron sydd wedi eu heffeithio’n ariannol gan yr argyfwng Coronafeirws. https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds

Royal Literary Fund

Mae’r Royal Literary Fund yn elusen sydd wedi cefnogi awduron ers 1790. Mae’n darparu grantiau a phensiynau i awduron mewn anawsterau ariannol: https://www.rlf.org.uk/

 

Cysylltwch â ni:

Gallwch gysylltu â ni trwy ein ebost arferol: post@llenyddiaethcymru.org. Os hoffech chi gysylltu â ni am weithgaredd penodol, gallwch ddefnyddio’r cyfeiriadau isod gan gopïo  post@llenyddiaethcymru.org i’r neges:

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Awduron ar Daith: awduronardaith@llenyddiaethcymru.org
Ysgoloriaethau a Mentora: cais@llenyddiaethcymru.org 
Bardd Plant Cymru barddplant@llenyddiaethcymru.org
Children’s Laureate Wales childrenslaureate@literaturewales.org
Llyfr y Flwyddyn: LLYF-WBOTY@llenyddiaethcymru.org
Ymholiadau’r Wasg a’r Cyfryngau: gwasg@llenyddiaethcymru.org

Twitter:   https://twitter.com/LlenCymru | https://twitter.com/LitWales
Facebook:  https://www.facebook.com/LlenCymruLitWales/
Instagram:  https://www.instagram.com/llencymru_litwales/