Dewislen
English
Cysylltwch

NAWR AR AGOR – Gwaith Comisiwn i Awduron, Rownd 2

Cyhoeddwyd Llu 4 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
NAWR AR AGOR – Gwaith Comisiwn i Awduron, Rownd 2
Gyda chyfyngiadau’r Coronafeirws yn parhau, mae swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru ar gau am y tro, a rhan helaeth o’n gweithgaredd wedi ei ohirio. Serch hynny, mae ein hymrwymiad i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru mor gadarn ag erioed.

Ar 1 Ebrill 2020 fe gyhoeddom rownd gomisiynu lle gwahoddwyd awduron llawrydd i anfon mynegiant o ddiddordeb i ddyfeisio a chreu cynnwys a phrosiectau digidol gwreiddiol i gynulleidfaoedd. Rydym yn falch o gyhoeddi ail rownd gomisiynu mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Prif ffocws yr ail rownd gomisiynu yw iechyd a llesiant; serch hynny, mae prosiectau a chynnwys digidol eraill gydag elfen gyfranogi gref hefyd yn gymwys.

 

Beth sydd ar gael?

Mae 10 comisiwn gwerth £500 ar gael.

Gall awduron wneud cais am un comisiwn yn unig. Gellir gwneud cais fel unigolyn, mewn parau, neu fel grŵp.

Dyddiad Cau i Fynegi Diddordeb:
12.00pm (hanner dydd) ar ddydd Llun 18 Mai 2020

Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yn nhermau ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau, ac yn arbennig felly i’r rheini sy’n dibynnu ar incwm llawrydd. Pwrpas yr alwad agored hon yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynir yn ceisio mynd i’r afael â heriau llesiant trwy ddefnyddio llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol; ac yn diddanu, ysbrydoli ac addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.

 

Meini Prawf

Mae unrhyw awduron llawrydd sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, ag eithrio’r canlynol:

  • Y rheiny sydd wedi derbyn ffi gan Llenyddiaeth Cymru yn y ddeufis diwethaf.
  • Y rheiny sy’n derbyn unrhyw nawdd neu ffi reolaidd gan Llenyddiaeth Cymru.

Bydd y panel dethol yn ystyried nifer o agweddau yn ystod y broses o wneud penderfyniad, gan gynnwys blaenoriaethu’r rheiny sy’n uniaethu gydag o leiaf un o’r Nodweddion y Cleientiaid a Dargedir (unigolion o gefndiroedd incwm isel; unigolion o gefndiroedd BAME; unigolion ag anabledd neu salwch (meddyliol a chorfforol)); buddsoddi mewn potensial yn hytrach na phrofiad; a chydbwysedd ieithyddol a daearyddol.

Mae modd darllen Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru yma. Rydym yn argymell i chi ei ddarllen cyn cyflwyno eich cais.

 

Sut i wneud cais

Islwythwch y ddogfen isod am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, ac am gyfarwyddiadau llawn am sut i wneud cais.

 

Ar Gyfer Awduron

Dogfennau - Gwaith Comisiwn i Awduron

Galwad Agored - Gwaith Comisiwn i Awduron 4.5.2020
Iaith: WelshMaint: 1338KB
Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 60KB