Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd

Cyhoeddwyd Gwe 26 Chw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd i arwain y sefydliad i’w ail ddegawd, gan fynd ati i siapio dyfodol y sefydliad ar adeg o gynnwrf a newid parhaus yn fyd-eang.

Bydd ein Cadeirydd presennol, yr academydd a’r bardd Kate North, yn camu i lawr ym mis Mai 2021 ar ôl gwasanaethu am y cyfnod penodedig a nodir yn Erthyglau Cymdeithasu Llenyddiaeth Cymru.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am eiriolwyr cryf sy’n rhannu gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad ac fydd yn gweithio gyda’u cyd-Gyfarwyddwyr a’r staff i sicrhau safonau uchel o lywodraethiant, tryloywder a hygyrchedd.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o ystod o gefndiroedd a phrofiadau o fewn y sector llenyddol a thu hwnt. Yr hyn sy’n bwysig i ni fydd eich ymrwymiad a’ch angerdd dros ein gwerthoedd a’n cenhadaeth o rymuso, gwella a chyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Mae nifer o’n prif raglenni a gweithgareddau yn ceisio mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ac anghydraddoldeb o fewn y sector. Ein nod yw maethu diwylliant llenyddol cenedlaethol sydd yn cynrychioli Cymru gyfan. Rydym hefyd yn gweithio tuag at sicrhau fod ein strwythurau mewnol yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol.

Bydd ein Blaenoriaethau Tactegol yn flaenllaw yn ein gwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn hynny o beth rydyn ni’n awyddus iawn i annog ceisiadau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth, a gan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Rydym yn gweithredu diwylliant gwrth-hiliaeth ac yn datblygu ein polisiau Diogelu a pholisiau Adnoddau Dynol i gynnwys prosesau arfer da wrth weithio gyda’r rheiny sydd wedi dioddef trawma gwahaniaethu, ac yn gweithio tuag at fynd i’r afael â chynil-ymosodiad yn y gweithle. Rydyn ni’n ymroddedig i fodloni gofynion mynediad – rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.

 

Cwestiynau am y rôl?

Er mai swydd sy’n cael ei chyflawni’n wirfoddol yw hon, mae Llenyddiaeth Cymru yn credu na ddylai cyfyngiadau ariannol atal pobl rhag dod yn Gyfarwyddwyr.

Os ydych yn ansicr a fyddech yn gallu ymrwymo’r amser sydd ei angen i weithredu fel Cyfarwyddwr am resymau ariannol, cysylltwch â ni i drafod unrhyw bryderon sydd gennych.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech gael sgwrs gychwynnol, cysylltwch â ni drwy post@llenyddiaethcymru.org

 

Dyddiadau allweddol:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Ebrill 2021, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal ar 19 a 20 Ebrill. Bydd y Cadeirydd newydd yn cychwyn ar eu gwaith ym mis Mai 2021.

Gellir gwneud ceisiadau ar ffurf ysgrifenedig neu fideo – mae’r manylion llawn ar sut i wneud cais yn y pecyn recriwtio, isod.

Cyfleoedd

Pecyn Recriwtio

Pecyn Recriwtio (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 6193KB
Atodiad (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 113KB
Pecyn Recriwtio - Testun Plaen (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 62KB