Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn penodi Natalie Jerome fel Dirprwy Gadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli

Cyhoeddwyd Gwe 30 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn penodi Natalie Jerome fel Dirprwy Gadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai Natalie Jerome, yr Asiant Llenyddol a’r Cyhoeddwr arobryn o Gasnewydd, yw Dirprwy Gadeirydd newydd Bwrdd Rheoli’r sefydliad.

Yn ystod cyfarfod Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru ar ddydd Mawrth 20 Gorffennaf 2021, fe etholwyd Natalie Jerome i wasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru. Daw’r newyddion hwn yn dilyn penodiad diweddar Dr Cathryn Charnell-White fel Cadeirydd yn ôl ym mis Mai. Mae Natalie yn olynnu Elizabeth George fel Dirprwy Gadeirydd, a fu’n cyfrannu’n werthfawr ar ddatblygu gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru yn ystod ei thymor ar y Bwrdd Rheoli.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Ry’n ni’n hynod falch o benodiad ein Dirprwy Gadeirydd newydd. Yn ystod ei rôl fel Cyfarwyddwr, mae Natalie wedi helpu arwain ar ein gwaith strategol a chreadigo, gan gynnwys cyfrannu tuag at siapoein rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw. Edrychwn ymlaen at gyfnod cyffrous o ddatblygu a chyflawni ein cynllun strategol newydd gyda Natalie a Cathryn, ynghyd â gweddill Bwrdd Rheoli a staff Llenyddiaeth Cymru, dros y misoedd nesaf.”

Mae Natalie Jerome wedi gweithio fel Cyhoeddwr a Golygydd i rai o gyhoeddwyr amlycaf y DU gan gynnwys Penguin Random House, Pan Macmillan, Bonnier Books a HarperCollins, lle bu’n gomisiynydd am ddeng mlynedd cyn symud i weithio fel asiant llenyddol i Aevitas Creative Management, un o’r prif asiantaethau llenyddol annibynnol. Cafodd Natalie ei chynnwys yng nghylchgrawn The Bookseller’s Industry top 100 ble’i disgrifiwyd fel ‘dewin cyhoeddi brand’ ar ôl caffael a chyhoeddi llyfrau sydd wedi gwerthu dros 6 miliwn o gopïau a chynhyrchu dros £30m o refeniw yn ystod ei gyrfa. Mae Natalie yn arbenigwr mewn llenyddiaeth ffeithiol gyda ffocws penodol ar adloniant a ffordd o fyw.

Fel un o’r ychydig gyhoeddwyr du yn y Deyrnas Gyfunol, mae Natalie wedi gweithio i wella amrywiaeth yn y diwydiant cyhoeddi. Mae hi’n un o sefydlwyr, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Creative Access, cynllun mentora a hyfforddiant i raddedigion o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sy’n chwilio am brofiad gwaith â thâl ar draws y diwydiannau creadigol a’r cyfryngau. Yn ystod ei 12 mis cyntaf fel asiant, cyrhaeddodd restr fer Asiant Llenyddol y Flwyddyn 2021 gan y British Book Awards, ac yn 2016 canmolwyd ei gwaith gyda’r National Business yn y Community Race Equality Awards.

Llun gan Kamila Jarczak

Meddai Natalie Jerome: “Rydw i’n hynod falch o gael bod yn Ddirprwy Gadeirydd ar Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru, ac i gael cyfle i adeiladu ar waith gwych fy rhagflaenydd, Elizabeth George. Ymunais â’r bwrdd ychydig llai na dwy flynedd yn ôl, a byth ers hynny rwyf wedi derbyn croeso a chefnogaeth gan bob un yn y sefydliad, ac wedi fy syfrdanu gan gwmpas ac ehangder y gwaith parhaus yma i hyrwyddo ysgrifennu, llyfrau a llythrennedd yng Nghymru. Yn fy rôl newydd, fy nod yw bod o gymorth i barhau â’r gwaith hwn a chreu llwybr ar gyfer y dyfodol: un sy’n llwyfannu’r talent sydd gennym yma, sy’n gynhwysol ac yn gynrychioliadol o bawb a’r profiadau byw cyfoethog rydyn ni i gyd yn eu cynnig. Efallai mai fi yw’r asiant llenyddol cyntaf yng Nghymru, ond rwy’n gobeithio nad fi fydd yr olaf! Dyma ddechrau pennod ffres a bywiog yn niwylliant llenyddol Cymru.”

 

Meddai Cathryn Charnell-White: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael gweithio’n agosach gyda Natalie yn ei rôl fel Dirprwy Gadeirydd. Mae ei chyfraniad i lwyddiant amryw o’n prosiectau diweddar yn golygu bod gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni gyda phrosiectau a fydd yn tyfu allan o’n strategaeth newydd.” 

Daw penodiadau Cathryn a Natalie fel Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd wrth i’r sefydliad nodi 10 mlynedd fel y cwmni cenedlaethol dros ddatblygiad llenyddiaeth yng Nghymru. Mae Bwrdd Rheoli’r sefydliad yn cynnwys 12 o Gyfarwyddwyr, ac yn cynrychioli amrywiaeth o unigolion proffesiynol a chreadigol sydd yn cynnig sgiliau a gwybodaeth hanfodol er mwyn llywio  gweithgaredd a strategaeth.

Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru, ewch i: https://www.llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni/bwrdd-rheoli/