Dewislen
English
Cysylltwch

Llyfr y Flwyddyn 2022 – Agor i geisiadau

Cyhoeddwyd Llu 8 Tach 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llyfr y Flwyddyn 2022 – Agor i geisiadau

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 13 Rhagfyr 2021* 

* Os ydych yn cyflwyno llyfr sy’n cael ei gyhoeddi yn ystod Rhagfyr 2021 ac yn methu cyflwyno copïau o’r llyfr erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â ni i drafod cyn 13 Rhagfyr, os gwelwch yn dda. 

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Caiff y Rhestr Fer, a fydd yn cynnwys tri llyfr ym mhob categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, ei chyhoeddi yn y gwanwyn, gydag enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2022.

Mae Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Prif enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 oedd Megan Angharad Hunter gyda tu ôl i’r awyr (Y Lolfa) a Catrin Kean gyda’i nofel Salt (Gwasg Gomer).

Cewch ragor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.

Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol ynglŷn a chyflwyno cyfrolau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, gan gynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais ar gael yma.

Llyfr y Flwyddyn