Dewislen
English
Cysylltwch

Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024 – Cyhoeddi Cyflwynydd

Cyhoeddwyd Gwe 7 Meh 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024 – Cyhoeddi Cyflwynydd
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai Tudur Owen fydd yn cyflwyno seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024.

Ar ôl taro’ch pleidlais yn yr etholiad, ymunwch â ni i ddathlu a gwobrwyo awduron gorau Cymru mewn seremoni odidog yn Galeri Caernarfon. Ar nos Iau 4 Gorffennaf, y comedïwr, darlledwr ac awdur Tudur Owen fydd yn arwain wrth i ni glywed pwy sydd wedi dod i’r brig  mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg, prif enillwyr, ac enillwyr gwobr Barn y Bobl a People’s Choice.

Cyhoeddwyd rhestr fer eleni mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru Wales ar ddydd Sul 12 Mai, porwch drwy’r holl deitlau yma.

Er fo’r broses beirniadu wedi dirwyn i ben, mae dal cyfle i chi bleidleisio am eich hoff lyfr ymhlith y rhestr fer yng ngwobrau Barn y Bobl, ewch draw at Golwg360 a Nation.cymru cyn 14 Mehefin i daro eich pleidlais.

Bachwch docyn i’r seremoni o wefan Galeri, ac ymunwch â ni am dderbyniad o 6.00 pm,  wedi’i noddi gan Penderyn, Cwrw Llŷn a Brecon Carreg. Mi fydd y seremoni yn dechrau am 7.00 pm ac yn para tan tua 8.30 pm, gan adael digonedd o amser i barhau â’r dathlu ar ôl y seremoni a dychwelyd adref neu ymuno â pharti yn lleol i wylio canlyniadau’r etholiad.

Bydd criw siop lyfrau Palas Print yn gwerthu holl llyfrau’r rhestr fer Gymraeg a Saesneg yn y Galeri ar noson y seremoni. Efallai cewch gyfle i holi’r awduron am eu llofnod hefyd.

Cadwch lygad ar dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i fod gyda’r cyntaf i glywed unrhyw newyddion am wobr Llyfr y Flwyddyn.

Diolch i’n holl noddwyr yn cynnwys Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd am noddi’r brif wobr Saesneg. Noddir y Categorïau plant yn y ddwy iaith gan Bute Energy. Ceir rhagor o wybodaeth am ein holl bartneriaid a noddwyr yma: Partneriaid a Noddwyr 2024

Llyfr y Flwyddyn