Dewislen
English
Cysylltwch

Tri o artistiaid yn cael eu cefnogi fel rhan o Lwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru – partneriaeth rhwng ArtWorks Cymru a Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Maw 17 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Tri o artistiaid yn cael eu cefnogi fel rhan o Lwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru – partneriaeth rhwng ArtWorks Cymru a Llenyddiaeth Cymru
Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn raglen beilot sydd yn cael ei ddatblygu er mwyn cefnogi artistiaid cyfranogi llawrydd yng Nghymru. Bydd y llwybr yn datblygu eu hymarfer, gan ganolbwyntio ar y deialog rhwng yr artist-hyfforddwr sydd yn arwain a’r egin-ymarferwyr dan hyfforddiant a fydd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar eu harfer, eu dyhead, eu anghenion a’u potensial.

Mae’r rhaglen hon yn cefnogi pob un o dair Colofn Gweithgaredd Llenyddiaeth Cymru – Cyfranogi, Datblygu Awduron a Diwylliant Llenyddol Cymru a bydd yn cyfrannu at ddatblygiad ein cynnig ar gyfer artistiaid sydd yn gweithio yn y maes cyfranogi celfyddydol yn benodol.

Rydym yn hynod falch o gefnogi clare e. Potter fel un o garfan o chwe artist-hyfforddwr a fynychodd encil hyfforddiant yng nghanolbarth Cymru, ble ddatblygodd y rhaglen hyfforddi Cymreig mewn cydweithrediad â Courtney Boddie o’r New Victory Theatre yn Efrog Newydd. Mae’r garfan beilot yn cynnwys Bethan Page sydd yn cael ei chefnogi gan Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth; Jon Dafydd-Kid drwy gefnogaeth y Riverfront, Casnewydd; Martin Davies drwy gefnogaeth Cerddoriaeth Gymunedol Cymru; Pauline Down drwy gefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Rebab Ghazoul sydd wedi ei gefnogi gan Gentle Radical.

Bydd bob artist yn defnyddio’r rhaglen er mwyn hyfforddi tri o artistiaid eraill mewn cyd-destunau amrywiol ar draws Cymru. Cafodd y tri artist fydd yn cael eu cefnogi gan clare eu dewis drwy alwadau agored diweddar Llenyddiaeth Cymru ar gyfer dau brosiect; Geiriau ar Gynfas (mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru) a Darn wrth Ddarn (mewn partneriaeth â Newport Mind). Y tri artist sydd wedi eu dewis yw Alia-Lauren Clain, Rhiannon Oliver a Barbara Stensland.

Yn ôl clare e Potter: “Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r rhaglen Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru gyda fy nghyd-ymarferwyr a’r ymarferwr celfyddydol dan hyfforddiant a fydd gobeithio’n dod yn fentoriaid eu hunain. Newidiodd sesiwn hyfforddi Academi fy mywyd wrth fy roi cyfle i mi sylweddoli beth yr hoffwn ei wneud a sut i’w gyflawni, a diolch i’r sesiwn fe ddes i’n awdur llawrydd ac yn ymarferydd celfyddydol. Mae rhwydweithiau cefnogol yn amhrisiadwy; rwyf wrth fy modd fod Llenyddiaeth Cymru ac Artworks Cymru yn darparu’r gofod er mwyn i’r rhwydwaith hwn ddatblygu.”

Bywgraffiadau Artistiaid

Mae clare e.potter yn awdur-berfformiwr a astudiodd MA mewn Llenyddiaeth Affricanaidd-Caribïaidd yn Mississippi ac mae wedi dysgu yn New Orleans. Fel ymarferwr celfyddydol mae’n hwyluso prosiectau creadigol â grwpiau cymunedol ac yn cael ei chymell gan y gred y gall barddoniaeth fod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol. Cyfarwyddodd ddogfen BBC am ei barbwr lleol a arweiniodd at sefydlu grŵp i achub Sefydliad Glowyr y pentref. Mae wedi derbyn dau ysgoloriaeth awdur Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â chyllid y Cyngor Celfyddydau ar gyfer cydweithrediad jazz/barddoniaeth oedd yn ymateb i drawma Corwynt Katrina. Mae Clare wedi ysgrifennu ar gyfer prosiectau canu cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru, wedi cyflwyno araith TEDx ac wedi derbyn gwaith comisiwn i greu gosodiadau barddoniaeth cyhoeddus. Mae wedi bod yn awdur preswyl yn Morovian Academy, Pennsylvenia, The Landmark Trust a’r Wales Arts Review. Mae wedi cyfieithu ar gyfer Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi ymddangos ar radio a theledu Cymraeg a Saesneg, ac wedi bod yn rhan o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.

Mae Alia-Lauren Clain yn fyfyriwr mewn cyfarwyddo a fydd yn astudio cwrs MA Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd. Mae hi’n hynod gyffrous i fod yng Nghymru ac yn ddiolchgar am y cyfle i gyfuno’r wlad a’i dirwedd artistig. Yn flaenorol, roedd yn astudio BA Cynhyrchu Ffilmiau yn Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol Yr Alban yn Glasgow. Cafodd ei chyflwyno i amrywiaeth eang o gymunedau o artistiaid yno, ac o ganlyniad mae hi’n deall pwysigrwydd straeon cynhwysol, ac arferion ffilmio cynhwysol. Yn ddiweddar derbyniodd gyllid gan Gronfa Make It Happen Lockdown Fund yr Ysgol Gerddoriaeth, a bydd yn ei defnyddio i ddod a sgript Nostalgia gan J.E.Clarke yn fyw. Mae ei ffilmiau yn cyfleu’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddi-rym, a’r gwerth sy’n cael ei roi i rym. Mae’r ffilm fer hwn yn bendodol am y cyfyngiadau ar ein rheolaeth dros gariad, a bywyd.

“Mae’r pandemig eleni wedi cryfhau fy marn fod gen i ran bwysig i’w chwarae fel artist, wrth gynnig straeon a all gysuro pobl neu ennyn newid. Credaf fod Clare, fy mentor, yn rhannu’r un gred ac rwy’n edrych mlaen at ddatblygu i’r cyfeiriad yma gyda hi yn ystod y rhaglen.”

Mae Rhiannon Oliver wedi gweithio yn y sector greadigol ers graddio o RADA yn 2004. Mae wedi gweithio fel actores theatr, ar y teledu ac ar y radio (gan gynnwys 6 tymor yn y Shakespeare’s Globe, National Theatre, Young Vic, Manchester Royal Exchange, National Theatre Wales, BBC1 ac ar Sky). Yn 2004 fe gyd-sefydlodd Woman@RADA, menter sydd yn archwilio’r ffyrdd o hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ar y llwyfan a’r sgrîn, ac mae hi’n parhau i gyd-redeg y cydweithrediad.  Mae Rhiannon yn Athrawes Actio profiadol, sy’n canolbwyntio ar Shakespeare. Mae ei uchafbwyntiau dysgu yn cynnwys gweithdai i Sefydliad Ysgol Coram Shakespeare a helpu i lansio Gwobrau Shakespeare RADA yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae hi’n darllen i gleifion strôc yn Ysbyty Llandochau ar gyfer Interact Stroke Support ac yn cydlynu tîm Caerdydd. Ar y funud mae Rhiannon yn canolbwyntio ar ysgrifennu: mae hi’n datblygu stori mewn penillion ar gyfer plant ifanc, a nofel ar gyfer plant 8-12 oed.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i fod yn cymryd rhan yn y Llwybr Hyfforddi Artistiaid. Rwyf ar drobwynt yn fy ngyrfa: ni allai’r cyfle i adlewyrchu, holi, gwneud cynlluniau a chael fy arwain gan fentor fel clare e.potter fod wedi dod ar amser gwell. Rwy’n gobeithio archwilio’r posibiliadau wrth ddefnyddio fy mhrofiadau fel Actor ac Athro Actio i ddatblygu gweithdai barddoniaeth sydd yn ddeinamig yn gorfforol.”

Mae Barbara Stensland yn awdur arobryn, yn ymgyrchydd Hawliau Anabledd, yn Fyfyriwr ymchwil Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol ac yn siaradwr cyhoeddus rhyngwladol sydd yn rhannu’r sialensau a’r buddugoliaethau sydd ymhlwm â byw gyda Sglerosis Ymledol.  Ers 2012 mae hi wedi blogio ar www.stumblinginflats.com, a thrwy hwn cafodd ei llyfr Stumbling In Flats ei guradu, ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Llyfrau Rhyngwladol Rubery yn 2015. Cafodd nofela traethawd hir ei Gradd Meistr ei roi ar restr fer yr Exeter Story Prize yn 2017, ac fe enillodd yr MA Humanities Award am Ragoriaeth Academaidd. Bydd ei Doethuriaeth yn archwilio etifeddiaeth  parhaol hysteria mewn niwroleg cyfoes. Ochr yn ochr â chymryd rhan mewn ymchwil academaidd fel claf cynrychioliadol ac aelod o grŵp llywio, hi yw Llysgennad dros Addysg Anabledd Cymru, rôl sydd yn canolbwyntio ar annog merched anabl a byddar i ymgymryd â addysg bellach. Mae hi’n newyddiadurwr cytundebol ar gyfer dau gwmni ac mae wedi ymddangos mewn papurau newydd a chylchgronau niferus, yn ogystal â rhaglenni newyddion radio a theledu.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ymarferydd profiadol, at werthuso pa mor bell rwyf wedi dod ac at archwilio’r camau nesaf yn fy natblygiad fel artist.”

Mae ArtWorks Cymru yn raglen bartneriaeth sydd wedi ei leoli yng Nghymru i ddatblygu arfer mewn gosodiadau cyfranogol, cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid ar wahanol gamau eu gyrfa o weithio mewn gosodiadau cyfranogol, ac eirioli dros werth y celfyddydau cyfranogol. Am fwy o wybodaeth, ewch i: