Dewislen
English
Cysylltwch
Rydym yn lwcus iawn yma yng Nghymru fod amrywiaeth o sefydliadau, elusennau, grwpiau a busnesau yn ffurfio sector lenyddol weithgar a bywiog. Er hynny, mae’r amrywiaeth yma’n gallu achosi dryswch ymysg cynulleidfaoedd, a gall fod yn anodd gwybod at bwy i droi.

Ydych chi’n chwilio am asiant llenyddol? Gobeithio gwneud incwm ychwanegol trwy redeg gweithgaredd greadigol? Eisiau cyhoeddi cyfrol, neu fireinio’ch sgiliau mewn ffurf lenyddol newydd?

Rydym yma i helpu awduron i wneud synnwyr o’r sector a gwneud cyswllt â’r bobl gywir, beth bynnag eu gobeithion a’u hamcanion.

Isod, fe welwch drosolwg o sut y mae sefydliadau llenyddol yng Nghymru yn cefnogi’r sector. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o bell ffordd, felly anogwn chi i bori gwefannau’r sefydliadau yn uniongyrchol i ddarganfod beth maent yn ei gynnig. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol megis cylch gwaith, manylion cyswllt a dolenni i wefannau’r holl sefydliadau yma: Sefydliadau o Ddiddordeb.

Os oes gyda chi gwestiwn penodol, mae ein tudalen Cwestiynau Cyffredin yn lle da iawn i ddechrau. Ac os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch chi, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni – rydym bob amser yn hapus i helpu dros y ffôn neu dros ebost.

 

Awduron

 

Cyhoeddi a’r Fasnach Lyfrau

  • Grantiau a chomisiynu: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig grantiau i gyhoeddwyr i gefnogi cynhyrchu llyfrau a chylchgronau, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cyllid hefyd ar gael i gyhoeddwyr gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata, ac ar gyfer rhai cynlluniau marchnata llyfrau. Nid ydynt yn darparu grantiau yn uniongyrchol i awduron.
  • Cymorth dosbarthu a manwerthu: Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn cefnogi’r fasnach lyfrau. Maent yn dosbarthu llyfrau ledled Cymru ac mae ganddynt dîm gwerthu pwrpasol sy’n ymweld â siopau llyfrau ac yn hwyluso archebion. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau golygu, dylunio a marchnata arbenigol.

 

Hyrwyddo a Gwobrau

 

Plant a phobl ifanc

 

Gweithio gyda chymunedau

  • Cyllid ar gyfer Digwyddiadau: Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid o hyd at 75% o ffi awdur drwy Gronfa Ysbrydoli Cymunedau. Gall gwyliau mwy wneud cais i Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.
  • Llyfrgelloedd: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn partneru â llyfrgelloedd i ehangu mynediad, gan gynnal ymweliadau awduron, Her Ddarllen yr Haf, cyfres Darllen yn Well, a darparu deunyddiau hyrwyddo. Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn darparu asedau hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau ac ymgyrchoedd arbennig.
  • Prosiectau Arbennig: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal prosiectau arbennig gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru, er enghraifft gweithgareddau Llên mewn Lle a ‘Sgwennu’n Well.

 

Nôl i Amdanom ni