Dewislen
English

Cwestiynau Cyffredin

I gael gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag awduron, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod.

*Ymwadiad :Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol y mae eu dolenni ar y wefan hon.

Asiantau

A oes angen asiant arnaf?

Os ydych yn chwilio am gyhoeddwr yng Nghymru, mae awduron fel arfer yn mynd at gyhoeddwyr yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy asiant. Os ydych yn ystyried cyhoeddi yn y DU, ond y tu allan i Gymru, mae’n debygol y bydd angen asiant arnoch. Mae asiantau fel arfer yn ymgymryd â ffuglen neu lenyddiaeth ffeithiol greadigol, yn hytrach na barddoniaeth, straeon byrion a nofelau byrion, ond ceir eithriadau bob amser. Os ydych yn cyhoeddi eich gwaith mewn cylchgronau, ar-lein neu’n lleol, mae’n debygol na fydd angen asiant arnoch.

A oes unrhyw asiantau yng Nghymru?

Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw asiantau llenyddol yng Nghymru yn yr ystyr confensiynol. Mae awduron fel arfer yn mynd at gyhoeddwyr yn uniongyrchol yng Nghymru. Efallai y bydd asiantau y tu allan i Gymru yn ystyried gosod gwaith gyda chyhoeddwr o Gymru os yw’n ymddangos yn briodol.

Beth mae asiantau yn ei wneud?

Mae Asiantau Llenyddol yn rheoli’r busnes cyhoeddi ar ran awdur, gan weithredu fel cyswllt rhwng yr awdur a’r cyhoeddwr. Maent yn ceisio gosod llyfr gyda’r cyhoeddwr gorau am y cynnig gorau, ac yn gofalu am yr agweddau masnachol a chyfreithiol ar ran yr awdur. Gall asiantau hefyd gynghori ar bu’n a ellir marchnata eich gwaith a dylent gynrychioli eich buddiannau chi.

Pa ffi y mae asiantau yn ei chodi?

Mae cyfraddau a chynigion yn amrywio. Efallai na fydd ffi gychwynnol am ddarllen eich gwaith, ond bydd asiant yn disgwyl comisiwn os byddant yn gosod eich gwaith gyda chyhoeddwr yn llwyddiannus.

Sut y gallaf ddod o hyd i asiant?

Ymchwiliwch yn ofalus. Gwnewch yn siŵr fod yr asiant yn delio â’r math o waith rydych yn ei ysgrifennu, pa mor llwyddiannus ydyw, faint o waith y mae am ei weld er mwyn ystyried gweithredu, a faint o waith y bydd angen i chi ei gwblhau cyn ei gyflwyno.

Mae rhestr gynhwysfawr o asiantau’r DU yn The Writers’ and Artists’ Yearbook (Bloomsbury), a gaiff ei gyhoeddi bob blwyddyn. Ewch i wefan Writers and Artists.

I gael gwybodaeth fanwl, gweler Canllaw y Society of Authors ar Asiantau Awduron.

Gallwch hefyd gysylltu â Chymdeithas yr Asiantau Awduron (AAA), cymdeithas fasnach yn cynnwys y rhan fwyaf o asiantau awduron yn y DU.

A oes angen mwy nag un asiant arnaf?

Mae’n well gweithio gydag un asiant ar y tro – efallai na fydd asiant yn hapus ei fod ond yn gweithio gyda chi ar gyfer ychydig o’ch gwaith, oni bai bod y gwaith arall rydych yn ei wneud mewn genre hollol wahanol ac nad yw’r asiant cyntaf yn delio ag ef. Bydd angen i chi ddarllen eich contract yn ofalus.

A yw asiantau yn rheoli'r holl waith marchnata?

Mae hynny’n dibynnu ar beth rydych yn cytuno arno. Gall cyhoeddwr drefnu rhywfaint o farchnata. Gallwch chi fod yn gyfrifol am farchnata arall, e.e. drwy gyfryngau cymdeithasol a chymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol.

A all Llenyddiaeth Cymru fod yn asiant i mi?

Na. Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru ac ni all gweithredu fel asiant ar gyfer awduron unigol.

Cyhoeddwyr yng Nghymru

Rwyf wedi ysgrifennu fy llyfr cyntaf. Sut y gallaf ei gyhoeddi?

I gael gwybodaeth am gyhoeddi yng Nghymru, ewch i wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein.

Os ydych ar ddechrau eich gyrfa lenyddol, fe’ch cynghorir i gyfeirio at The Writers’ and Artists’ Yearbook (Bloomsbury). Mae’r cyhoeddiad blynyddol hwn yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o asiantau a chyhoeddwyr y DU, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am sut i anfon eich gwaith at gyhoeddwr.

Ewch i wefan Writers & Artists i gael cyngor manwl.

Sut y gallaf ddod o hyd i gyhoeddwr yng Nghymru?

Mae gwefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein wrthi’n cael ei datblygu gan Gyngor Llyfrau Cymru fel ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y diwydiant llyfrau.

Mae gwefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein yn cynnwys cronfa ddata o’r prif gyhoeddwyr yng Nghymru, a’u manylion cyswllt.

A allwch roi manylion cyswllt cyhoeddwyr yng Nghymru i mi?

Mae manylion cyswllt y prif gyhoeddwyr yng Nghymru wedi’u rhestru ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein, a gaiff ei gweinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

I gael manylion cyhoeddwyr yn y DU, darllenwch y Writers’ and Artists’ Yearbook (Bloomsbury), a gaiff ei gyhoeddi bob blwyddyn.

Sut y dylwn fynd at gyhoeddwr?

Yn gyntaf, edrychwch ar wefan y cyhoeddwr am unrhyw ganllawiau cyflwyno. Gall y rhain fod yn eithaf penodol. Cofiwch fod cyhoeddwyr yn derbyn llawer o lawysgrifau i’w darllen, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch cyflwyniad yn berthnasol ac yn gryno. Cofiwch gadarnhau p’un a oes angen cyflwyno gwaith ar-lein neu ar ffurf copi caled.

Bydd angen y canlynol arnoch o leiaf:

  • llythyr esboniadol sy’n rhoi crynodeb o’ch gwaith a phwy yw’r gynulleidfa darged; pam mai’r cyhoeddwr hwnnw fyddai orau (e.e. mae wedi cyhoeddi gwaith neu awduron neu genres tebyg – rhowch enghreifftiau) a chofiwch gynnwys eich manylion cyswllt
  • sampl o’r gwaith, fel y nodir yng ngofynion cyflwyno’r cyhoeddwr e.e.
    rhyddiaith hirach (efallai y bydd uchafswm geiriau neu gyfrif penodau yn berthnasol – mae pennod yn ddigon ar gyfer nofel)
  • NEU ryddiaith fyrrach – bydd ychydig o straeon byrion yn ddigon
  • NEU ddetholiad o gerddi

NEU grynodeb llawn o waith nad yw’n ffuglen nad yw wedi’i gwblhau eto.I gael gwybodaeth am sut i gyflwyno eich llawysgrif, gweler y daflen wybodaeth Anfon eich Gwaith at Gyhoeddwyr, sydd ar gael yn adran adnoddau ein gwefan.

Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi aros wythnosau os nad misoedd am ymateb. Peidiwch ag anfon y gwaith at fwy nag un cyhoeddwr ar y tro.

Contractau

A oes gan Llenyddiaeth Cymru unrhyw wybodaeth neu gyngor ar gontractau awduron neu gontractau cyhoeddi?

I gael gwybodaeth fanwl am gontractau cyhoeddi, ewch i’r gwefannau canlynol:

Nawdd

Pa fath o gyllid sydd ar gael i awduron?

Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cymorth i awduron newydd a sefydledig drwy ei gynllun Ysgoloriaethau i Awduron. Dyfernir ysgoloriaethau am ragoriaeth lenyddol mewn cynllun cystadleuol, a chânt eu rhoi i awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: ffuglen (nofelau a straeon byr), nofelau graffeg, barddoniaeth, llenyddiaeth ffeithiol greadigol (gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, bywgraffiad, hunangofiant), llenyddiaeth i blant a ffuglen i oedolion ifanc.

Mae dyddiad cau blynyddol ar gyfer ceisiadau. Am ragor o fanylion, cliciwch yma.

A oes unrhyw grantiau cyhoeddi ar gael?

Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol na grantiau cyhoeddi i gyhoeddwyr yng Nghymru. Caiff grantiau cyhoeddi eu gweinyddu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Ni all unigolion wneud cais i Gyngor Llyfrau Cymru am gymorth i ariannu llyfrau, p’un a ydynt yn weithiau creadigol hunan-gyhoeddedig neu’n deitlau arbenigol a ariennir yn rhannol gan yr awdur. Dim ond cyhoeddwyr sy’n cael gwneud cais am grantiau cyhoeddi i Gyngor Llyfrau Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau cyhoeddi yng Nghymru, ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru.

Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw grantiau sydd ar gael i helpu’r awduron hynny sydd am hunan-gyhoeddi, nac awduron y mae’n ofynnol iddynt gyfrannu at gostau cyhoeddi.

Hawlfraint

Beth am hawlfraint? Ai fi sy'n berchen ar fy ngwaith fy hun?

Hawlfraint yw’r hawl i gopïo. Mae cyfraith hawlfraint yn gymwys yn awtomatig cyn gynted ag y byddwch yn ysgrifennu eich gwaith ac yn ei gofnodi mewn cyfrwng priodol. Mae’n cynnwys gwaith nad yw wedi’i orffen, nodiadau, brasluniau ac ati. Nid oes angen i chi ei hawlio. Mae’n diogelu’r ysgrifennu, ond nid y syniadau, delweddau na’r synnwyr sydd wedi’i gynnwys ynddo; h.y. mae’n diogelu ffurf ddiriaethol y geiriau yn hytrach na’r hyn y maent yn eu dweud neu’n eu golygu. Mae’n para tra byddwch byw yn ogystal â 70 mlynedd wedi hynny pan fydd yr hawl yn berchen i’ch ystad. Wedi hynny, bydd eich gwaith ar gael i’r cyhoedd.

Mae hawlfraint yn creu hawliau moesol hefyd; os byddwch yn arddel hawlfraint drwy wneud datganiad priodol bod gennych hawl i gael eich adnabod fel awdur y gwaith, yna ni all y gwaith ymddangos unrhyw le arall mewn print heb fod y geiriau wedi’u priodoli i chi. Gall y datganiad fod mor syml â “Mae hawl foesol yr awdur wedi ei harddel.”

Mae hawlfraint yn eiddo i’r awdur a gellir gwerthu, rhentu neu roi hawliau o’r fath. Fel arfer, dylech gadw hawlfraint barddoniaeth neu straeon mewn antholegau p’un a gawsoch eich talu am eich gwaith neu beidio. Mae’n rhaid i chi lofnodi dogfen i ymwadu eich hawlfraint, felly darllenwch y contractau’n ofalus a cheisiwch gyngor cyfreithiol os bydd unrhyw amheuaeth.

Mae canllawiau defnyddiol ar ystadau a chaniatadau ar y wefan The Society of Authors.

I gael rhagor o wybodaeth fanwl, gweler y ffynonellau canlynol:

Yswiriant

A oes wir angen yswiriant arnaf fel awdur?

Efallai y bydd angen Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus arnoch os ydych yn gweithio’n rheolaidd mewn digwyddiadau cyhoeddus, ysgolion neu sefydliadau eraill. Mae wedi’i ddylunio i’ch diogelu rhag honiadau o niwed damweiniol corfforol i drydydd partïon neu ddifrod i eiddo y gellir hawlio iawndal amdano. Bydd gan nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus PPI ar waith eisoes – dylech wneud yn siŵr ymlaen llaw eich bod wedi’ch diogelu’n awtomatig os ydych yn cyfrannu at y digwyddiad mewn rhyw ffordd.

Rwyf am weithio gyda phlant. A oes unrhyw faterion cyfreithiol y dylem eu hystyried?

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed sy’n mynychu neu’n cymryd rhan yn ei ddigwyddiadau.

Darperir canllawiau clir i bobl sy’n cynnal ei ddigwyddiadau a’i weithgareddau. Mae Polisi Amddiffyn Plant ac Oedolion sy’n Agored i Niwed Llenyddiaeth Cymru ar gael ar gais ac fe’i darperir i gyfranogwyr newydd mewn gweithgareddau. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am ddigwyddiadau a ariennir gan grantiau neu Ysgoloriaethau neu gymorth arall.

Gofynnir am gliriad DBS. Beth yw hwn?

Mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofyniad cyfreithiol i bob unigolyn sydd â chyswllt ‘rheolaidd neu barhaus’ â phant neu oedolion sy’n agored i niwed. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau ei fod wedi’i wirio os yw’n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd.

Dim ond cyflogwyr a chyrff trwyddedu sy’n cael cynnal y gwiriadau a rhaid iddynt gadw unrhyw wybodaeth a ddatgelir ar adroddiad o’r fath yn gyfrinachol, ac mae’n ofynnol iddynt sicrhau na chaiff unrhyw un sydd â chofnod troseddol ei drin yn annheg. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Asesu Teipysgrif

A oes gwybodaeth am wasanaethau asesu / beirniadu teipysgrifau?

Am wybodaeth ynglŷn â beirniadu teipysgrif, prawfddarllen a golygu copi, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at yr adnoddau isod:
Am restr o wasanaethau beirniadol yn Saesneg yn y DU, edrychwch ar:
The Writers’ & Artists’ Yearbook, blwyddlyfr a gyhoeddir gan Bloomsbury.
Gwefan Writers & Artists
Gwefan Writers Services
Ceir rhestr o olygyddion llawrydd yng Nghymru ar wefan Y Fasnach Lyfrau yng Nghymru, a weinyddir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nodir manylion ynglyn ag arbenigedd y golygyddion, pa iaith/ieithoedd a gynigir, a manylion cyswllt ar proffil unigol y golygyddion. Byddai angen i chi gysylltu â golygydd yn uniongyrchol er mwyn ymholi ynglyn â ffioedd ac argaeledd.

 

Cyrsiau Ysgrifennu Creadigol

Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth am gyrsiau Ysgrifennu Creadigol preswyl?

Tŷ Newydd yw canolfan ysgrifennu creadigol Llenyddiaeth Cymru sy’n arbenigo mewn cyrsiau preswyl a chyrsiau dydd mewn amrywiaeth o genres. Ein nod yw darparu cyrsiau fforddiadwy o ansawdd uchel er mwyn datblygu awduron o bob oedran, cefndir a gallu. Rydym yn cynnig cyrsiau, yn Gymraeg a Saesneg, er mwyn cefnogi unigolion ar bob cam o’u taith ysgrifennu.

Mae’r rhaglen yn Nhŷ Newydd yn galluogi awduron i ddatblygu drwy gynnig anogaeth i ddechreuwyr; amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer awduron lefel ganolradd; a dosbarthiadau meistr ar gyfer awduron profiadol. Rydym hefyd yn cynnal Encilion heb diwtoriaid, lle y gall awduron dreulio amser ar eu gwaith sy’n mynd rhagddo mewn amgylchedd cyfeillgar a chreadigol.

I weld ein rhaglen cyrsiau, Cwestiynau Cyffredin ac i drefnu lle, ewch i wefan Tŷ Newydd.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd:

Llyfrgell Gladstone – llyfrgell breswyl a man cyfarfod sy’n ymrwymedig i ddeialog, dadl a dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau sydd â meddwl agored sydd am archwilio cwestiynau o bwys a mynd ar drywydd astudio ac ymchwil mewn byd llawn ymyrraeth ac atebion hawdd.

Mae’r llyfrgell yn deyrnged i William Gladstone. Dyma lyfrgell breswyl mwyaf crand Prydain, a’r unig lyfrgell Prif Weinidogol. Fe’i sefydlwyd gan y gwleidydd Fictorianaidd ei hun ac, ar ôl iddo farw yn 1898, daeth yn gofeb genedlaethol i’w fywyd a’i waith yn ogystal ag un o’r ychydig o adeiladau rhestredig Gradd I yng Ngogledd Cymru. Mae Llyfrgell Gladstone wedi’i lleoli ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Arvon yn cynnal rhaglen flynyddol o encilion a chyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ar gyfer ysgolion, grwpiau ac unigolion. Cynhelir y cyrsiau pum diwrnod o hyd, dan arweiniad awduron blaenllaw, mewn tri o dai awduron gwledig prydferth yn Lloegr, ac maent yn cynnwys cymysgedd o weithdai a thiwtorialau unigol, gydag amser a gofod i ysgrifennu, heb unrhyw ymyrraeth gan fywyd bob dydd. Mae’r cyrsiau ar gael mewn amrywiaeth eang o genres. Ewch i wefan Arvon.

Moniack Mhor yw Canolfan Ysgrifennu Creadigol yr Alban, ac mae wedi’i lleoli yn Ucheldiroedd prydferth yr Alban, sydd ond 14 milltir o ddinas Inverness. Ers ei chwrs cyntaf yn 1993, mae Monaick Mhor wedi bod yn cynnal cyrsiau ysgrifennu creadigol dan arweiniad rhai o awduron gorau’r DU a thu hwnt. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Nôl i Gwybodaeth a Chyngor