Ydych chi’n chwilio am asiant llenyddol? Gobeithio gwneud incwm ychwanegol trwy redeg gweithgaredd greadigol? Eisiau cyhoeddi cyfrol, neu fireinio’ch sgiliau mewn ffurf lenyddol newydd?
Rydym yma i helpu awduron i wneud synnwyr o’r sector a gwneud cyswllt â’r bobl gywir, beth bynnag eu gobeithion a’u hamcanion.
Isod, fe welwch drosolwg o sut y mae sefydliadau llenyddol yng Nghymru yn cefnogi’r sector. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o bell ffordd, felly anogwn chi i bori gwefannau’r sefydliadau yn uniongyrchol i ddarganfod beth maent yn ei gynnig. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol megis cylch gwaith, manylion cyswllt a dolenni i wefannau’r holl sefydliadau yma: Sefydliadau o Ddiddordeb.
Os oes gyda chi gwestiwn penodol, mae ein tudalen Cwestiynau Cyffredin yn lle da iawn i ddechrau. Ac os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch chi, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni – rydym bob amser yn hapus i helpu dros y ffôn neu dros ebost.
Awduron
- Datblygiad a hyfforddiant: Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhedeg cyrsiau ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, yn cynnig adnoddau arlein, rhaglen rhad ac am ddim o webinarau, a rhaglenni datblygu blwyddyn o hyd (gan gynnwys Cynrychioli Cymru, ‘Sgwennu’n Well, Pencerdd). Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd mewn partneriaeth ag eraill (gan gynnwys Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, Cwrs Olwen).
- Nawdd: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig nawdd i unigolion drwy Camau Creadigol a Creu; mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru) yn darparu nawdd i artistiaid i ddatblygu gwaith yn rhyngwladol.
- Cyfleoedd: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi rhestr arlein o gyfleoedd – rhai untro a rhai rheolaidd a chyson – ac yn cynnal rhestrau o grwpiau a sefydliadau.
- Cyngor: Mae sefydliadau llên yn falch iawn o gynghori awduron dros y ffôn neu dros ebost. Arbenigedd Llenyddiaeth Cymru yw cynghori awduron ar y cyfleoedd a’r gwasanaethau allai eu helpu i gyflawni eu hamcanion, tra bo Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu rhoi cyngor diduedd i awduron sydd eisiau cysylltu gyda chyhoeddwr.
Cyhoeddi a’r Fasnach Lyfrau
- Grantiau a chomisiynu: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig grantiau i gyhoeddwyr i gefnogi cynhyrchu llyfrau a chylchgronau, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cyllid hefyd ar gael i gyhoeddwyr gomisiynu awduron, cyflogi golygyddion creadigol a swyddogion marchnata, ac ar gyfer rhai cynlluniau marchnata llyfrau. Nid ydynt yn darparu grantiau yn uniongyrchol i awduron.
- Cymorth dosbarthu a manwerthu: Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn cefnogi’r fasnach lyfrau. Maent yn dosbarthu llyfrau ledled Cymru ac mae ganddynt dîm gwerthu pwrpasol sy’n ymweld â siopau llyfrau ac yn hwyluso archebion. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau golygu, dylunio a marchnata arbenigol.
Hyrwyddo a Gwobrau
- Rolau llysgenhadol: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal ac yn rhedeg cynlluniau Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales. Mae’r awduron hyn yn eirioli dros lenyddiaeth Gymraeg, yn ysgrifennu cerddi comisiwn, yn perfformio mewn digwyddiadau, yn rhedeg prosiectau cymunedol a mwy
- Gwobrau: Ar gyfer ysgrifennu o Gymru ac am Gymru, mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal Gwobr Llyfr y Flwyddyn, tra bod Cyngor Llyfrau Cymru yn rhedeg Gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Mary Vaughan Jones.
- Hyrwyddo llên yn rhyngwladol: Mae Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau yn cefnogi cyfieithiadau a phartneriaethau rhyngwladol, ac yn cynnig llwyfannau i awduron a chyfieithwyr.
- Cyfeirlyfrau: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cyfeirlyfr o awduron ar gyfer trefnwyr digwyddiadau, ysgolion a llyfrgelloedd.
Plant a phobl ifanc
- Rolau Llysgenhadol: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal ac yn rhedeg cynlluniau Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales.
- Rhaglenni Ysgrifennu: Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhedeg y Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol ar gyfer awduron ifanc 16-18 oed. Mae hefyd yn cefnogi ac yn cynghori sefydliadau i sefydlu a chynnal eu Sgwadiau ‘Sgwennu eu hunain. Mae Gŵyl y Gelli yn rhedeg Sgriblwyr Cymraeg, a Phrifysgol Abertawe yn rhedeg DylanED.
- Mentrau darllen: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnal Her Ddarllen yr Haf, BookSlam, cynllun llyfrau Cymraeg Diwrnod y Llyfr a gweithdai athrawon; mae BookTrust Cymru yn cynnal Bookstart, Pori Drwy Stori, Clwb Blwch Llythyrau ac Amser Rhigwm Mawr Cymru.
- Digwyddiadau a Chyllid: Mae yna lawer o ddigwyddiadau a gwyliau i Blant a Phobl Ifanc, gyda llawer wedi’u rhestru ar dudalen Digwyddiadau Llenyddiaeth Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig nawdd a chefnogaeth i ysgolion, llyfrgelloedd ac eraill i drefnu gweithgareddau llenyddol i blant a phobl ifanc trwy ei Gronfa Ysbrydoli Cymunedau.
- Ysgolion: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gydag athrawon ac ymarferwyr dysgu i’w cefnogi i ymgorffori darllen er pleser yn y dosbarth. Mae Llenyddiaeth Cymru yn datblygu adnoddau i athrawon i gefnogi gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac yn cynnig rhaglenni achlysurol a chyngor drwy’r flwyddyn ar wahodd awduron i’r ystafell ddosbarth i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol. Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn darparu nawdd ar gyfer gweithdai drwy ei Gronfa Ysbrydoli Cymunedau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig adnodd Dysgu Creadigol Cymru sy’n cynorthwyo athrawon yn y nod o osod y celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.
Gweithio gyda chymunedau
- Cyllid ar gyfer Digwyddiadau: Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid o hyd at 75% o ffi awdur drwy Gronfa Ysbrydoli Cymunedau. Gall gwyliau mwy wneud cais i Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.
- Llyfrgelloedd: Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn partneru â llyfrgelloedd i ehangu mynediad, gan gynnal ymweliadau awduron, Her Ddarllen yr Haf, cyfres Darllen yn Well, a darparu deunyddiau hyrwyddo. Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn darparu asedau hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau ac ymgyrchoedd arbennig.
- Prosiectau Arbennig: Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal prosiectau arbennig gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru, er enghraifft gweithgareddau Llên mewn Lle a ‘Sgwennu’n Well.