Dewislen
English
Cysylltwch

Llyfr y Flwyddyn 2023 – Agor i geisiadau

Cyhoeddwyd Maw 11 Hyd 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llyfr y Flwyddyn 2023 – Agor i geisiadau
Llyfr y Flwyddyn 2023 – Agor i geisiadau 
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno bellach wedi pasio. (5 Rhagfyr 2022)

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd. 

Caiff y Rhestr Fer, a fydd yn cynnwys tri llyfr ym mhob categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, ei chyhoeddi yn y gwanwyn, gydag enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2023. 

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobr 2023. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i adolygu’r Meini Prawf Cymhwysedd isod a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2022.  

Er mwyn lleihau effaith amgylcheddol y wobr, bydd Llenyddiaeth Cymru yn gofyn i gyhoeddwyr am un copi caled yn y lle cyntaf ynghyd â chopïau PDF neu eLyfr o bob cyfrol a gyflwynir eleni. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am hyd at 4 copi called ychwanegol o’r llyfr i gynorthwyo’r broses feirniadu neu i farchnata’r wobr. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn y Pecyn Ymgeisio, gan gynnwys disgrifiadau categori, cymhwyster awdur a thelerau ac amodau – darllenwch yn ofalus cyn cyflwyno llyfr i gael ei ystyried. Os ydych yn ansicr a yw llyfr yn gymwys ai peidio, cysylltwch â thîm y gwobrau ar Llyf-wboty@llenyddiaethcymru.org  

Mae Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.  

Prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 oedd Ffion Dafis gyda Mori (Y Lolfa) yn yr iaith Gymraeg. Y prif enillydd Saesneg oedd Nadifa Mohamed gyda’i nofel The Fortune Men (Viking, Penguin Random House). 

Cewch ragor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.
 

Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â chyflwyno cyfrolau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 ar dudalen gwefan Llyfr y Flwyddyn, lle gellir is-lwytho dogfen sy’n cynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais. 

Llyfr y Flwyddyn