Dewislen
English
Cysylltwch

Llên yn y Gymuned

Mae gwaith Llenyddiaeth Cymru mewn cymunedau’n amhrisiadwy, a dylanwad y gwahanol weithdai a gweithgareddau yn bellgyrhaeddol. Llwydda Llenyddiaeth Cymru i gyrraedd cynulleidfa hollol newydd, gan ddenu pobol i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Maent yn hybu hunangynaladwyedd cymunedol, gan gynnig cymorth a chefnogaeth i unigolion a grwpiau. Yn ogystal a hyn, mae Llenyddiaeth Cymru’n trefnu a chefnogi digwyddiadau sy’n apelio at bob haen o gymdeithas. 

– Manon Steffan Ros

Trwy’r gweithgareddau canlynol, rydym yn ymdrechu i wella cyfleoedd i unigolion a chymunedau ledled Cymru ddod i gyswllt â llenyddiaeth.

Rydym yn cydweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau partner, Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol, gwasanaethau cymorth, awduron ac artistiaid i greu rhaglenni sydd wedi eu teilwra’n arbennig i adnabod anghenion ardaloedd penodol ac ymateb iddynt.