Dewislen
English
Cysylltwch
Yn 2016, daeth Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru ynghyd i nodi 100 mlynedd ers genedigaeth Roald Dahl.

Fe gynhaliwyd llu o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau dros Gymru gyfan yn ystod 2016 i ddathlu 100 mlynedd ers genedigaeth un o hoff storïwyr y byd yng Nghaerdydd. Roedd dathliadau Roald Dahl 100 yn rhan o Flwyddyn Antur Llywodraeth Cymru ac fe’u cefnogwyd gan Ystâd Lenyddol Roald Dahl.

Roedd yn hollbwysig i holl drefnwyr y canmlwyddiant fod Roald Dahl 100 Cymru yn ddathliad dwyieithog a fyddai’n cyrraedd pob cwr o’r wlad. Er mwyn sicrhau y byddai hynny’n digwydd, lansiodd Llenyddiaeth Cymru Dyfeisio Digwyddiad, gyda nawdd gan Llywodraeth Cymru. Roedd y cynllun nawdd ac allestyn newydd hwn yn cynnig cymorth ariannol i drefnwyr i ddathlu Roald Dahl 100 yng Nghymru. Yn ogystal cyflwynodd Llenyddiaeth Cymru a’n partneriaid raglen allestyn oedd yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, gan sicrhau bod pobl o bob oedran a chefndir yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y dathliadau.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Trwy gydol y flwyddyn, mae Dyfeisio Digwyddiad wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 30,000 o bobl o bob cwr o Gymru, a llawer iawn mwy yn anuniongyrchol. Hoffwn dalu teyrnged i ddyfeisgarwch pur trefnwyr digwyddiadau, llyfrgellwyr, athrawon, awduron ac artistiaid – pob un ohonynt wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau mai hwn oedd un o’r canmlwyddiannau mwyaf dychmygus erioed. Cafwyd dathliad cwbl Gymreig, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib oni bai am gefnogaeth ein partneriaid a’n noddwyr oedd oll yn rhannu’r un weledigaeth â ni o ddod â Dahl yn ôl i Gymru.”

Cymerodd rai o brif sefydliadau celfyddydol Cymru ran yn y dathliadau, a derbyniodd nifer ohonynt nawdd trwy Dyfeisio Digwyddiad i gefnogi eu gweithgareddau. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys: Quentin Blake: Inside Stories yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Gŵyl y Gelli; Roald Dahl ar Ffilm gan Ganolfan Ffilm Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Gŵyl Lenyddiaeth Plant Caerdydd; Antur ar Bob Tudalen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru; Cynhadledd Canmlwyddiant Roald Dahl Prifysgol Caerdydd; Gŵyl Ryngwladol Abertawe; Cynhadledd Fantastic Mr Fiction Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Eisteddfod yr Urdd; Velvet Coalmine yn y Coed Duon; Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru; a GŵylGrai – gŵyl gelfyddydau ieuenctid genedlaethol newydd, i enwi dim ond rhai.

Trefnwyd gweithgareddau o bob math a ysbrydolwyd gan Roald Dahl i deuluoedd gan Gyngor Sir Ddinbych; Cyngor Gwynedd a Siop Lyfrau Palas Print, Caernarfon; Oriel Davies, y Drenewydd; Datblygu Celfyddydau Caerffili; a Techniquest ym Mae Caerdydd. Yn ogystal, trefnodd Cymdeithas Llandaf ddadorchuddiad pedwar o blaciau ar adeiladau yn Llandaf sydd â chysylltiad hanesyddol â Roald Dahl.

Roald Dahl’s City of the Unexpected, a gynhyrchwyd gan Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales, oedd y digwyddiad celfyddydol mwyaf a welodd Cymru erioed. Heidiodd miloedd o bobl i Gaerdydd ar 17 a 18 Medi 2016 i weld eirinen 7-metr yn glanio, yn ddirybudd, yng nghanol y ddinas; cadno drygionus yn cael ei erlid gan ffermwyr yn osgoi eu picffyrch gyda parkour a champau rhyfeddol, a dianc trwy raff-gerdded uwchben y tyrfaoedd; a mwynhau picnic pyjamas ym Mharc Bute. Llwyddodd Roald Dahl’s City of the Unexpected i roi Caerdydd ar y map, ac roedd yn brofiad bydd y ddinas gyfan yn ei gofio am genhedlaeth.

Comisiynwyd llyfryn dathliadol arbennig yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn arbennig hon gan Llenyddiaeth Cymru a gellir ei ddarllen arlein yma.

– Nawr does dim amheuaeth ble dechreuodd stori Roald Dahl –

Felly, o Fôn i Fynwy, o Gaernarfon i Gaerffili, o Ddinbych i Ddoc Penfro, bu’r dathliad hwn yn un i Gymru gyfan. Cafodd Roald Dahl ei ail-gyflwyno i bobl o bob oedran mewn ffordd oedd yn eu galluogi i ymgysylltu â’i waith gan ddefnyddio eu creadigrwydd a’u dychymyg eu hunain.

Mae darllen yn un o’r pethau mwyaf hudolus y gallwch ei wneud – o’r eiliad yr agorwch lyfr cewch eich cludo i fyd newydd llawn antur a dychymyg. Mae Roald Dahl yn perthyn i bob un ohonom – ac yn 2016, ym mhob cwr o Gymru, fe’i welwyd ym mhob man.

Am ragor o wybodaeth am ddathliadau Roald Dahl 100 Cymru, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

Am ragor o wybodaeth am Roald Dahl a gwaith Ystâd Lenyddol Roald Dahl, ewch i: www.roalddahl.com

Nôl i Archif Prosiectau