Uchafbwyntiau Barddonol Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
#Diwrnod Barddoniaeth Hapus!
Fel y Cwmni Cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, mae ein gwaith o ddydd-i-ddydd wedi ei drochi mewn barddoniaeth – ei holl ffurfiau a’i amrywiadau. Trwy ein holl weithgareddau, o’r cyfranogi, i’r datblygu i’r dathlu, caiff barddoniaeth ei hyrwyddo a’i amlygu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi mwynhau sawl uchafbwynt barddonol. Dyma rai ohonynt:
- Ailbhe Darcy yn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn Saesneg gyda’i chyfrol, Insistence. Cyhoeddodd o’r llwyfan ei bod yn rhoddi ei gwobr ariannol i Extinction Rebellion.
- Gwelwyd cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, mewn sawl iaith yn y subway ym Mrwsel.
- Cymru ar Ben y Byd – Rhyddhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Llenyddiaeth Cymru gerdd fideo a ysgrifennwyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, Casnewydd, i gefnogi ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA Cymru.
- Poetry and picnic in the park – dathlu ail ben-blwydd Where I’m Coming From mewn heulwen braf yng Ngerddi Grange, Caerdydd.
- Croesawu nifer fawr iawn o feirdd i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, yn diwtoriaid, yn ddarllenwyr gwâdd neu’n fynychwyr cyrsiau. Roedd yn braf gweld llwyddiant y Cwrs Cynganeddu’n parhau gyda 12 egin gynganeddwr yn mynychu’r cwrs diwethaf.
- Be Brave #Changeit – ysgrifennodd bobl ifanc o Gasnewydd bamffled o gerddi yn archwilio ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ymysg yr ifanc.
- Cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru yn nodi 20 mlynedd ers datganoli yng Nghymru
- Cardiau post gyda cherddi yn Gymraeg ochr yn ochr â’r Scots, Gwyddeleg, Manaweg, Cernyweg a Saesneg wedi eu cynhyrchu a’u dosbarthu i ysgolion a llyfrgelloedd dros y DU
- “Barddoniaeth yw darganfod goleuni yn y tywyllwch”– geiriau gan gyfranogwr Preswyliad Awduron Ifanc yn Nhŷ a Chastell Dinefwr
- Cerddi comisiwn gwych Gillian Clarke, Alan Llwyd, Eric Ngalle Charles, Nerys Williams a Chywion Cranogwen fel rhan o ddiwrnod Estyn yn Ddistaw yn y Senedd fis Chwefror. Caiff yr holl gerddi eu cyhoeddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru cyn hir.
- Cyhoeddi mai Gruffudd Owen yw’r Bardd Plant Cymru newydd o lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd 2019. Dyma ei gerdd gyntaf yn y rôl.
- Mae cerddi a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr ein prosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol wedi cael eu harddangos mewn safleoedd Cadw amrywiol dros yr haf a’r hydref. Bydd y darnau yn dychwelyd i’r lleoliadau lle deilliodd y gwaith a’u harddangos yno’n barhaol tua diwedd yr hydref.
- Mae cerddi a ysgrifennwyd gan bobl ifanc o Gaernarfon wedi eu harddangos o amgylch yr Ofal, cartref Clwb Pêl-droed Caernarfon
- “The day left me so energised that I started a YouTube channel dedicated to promoting poetry as soon as I got back”. Dyma eiriau cyfranogwr a gefnogwyd gan Llenyddiaeth Cymru a’r Gelli i fynychu digwyddiadau yn yr ŵyl lenyddol yn 2019
- Cymru yn y Byd – Cerdd gan Rufus Mufasa, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ymddangos yn adroddiad blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
- Darlledu cerdd ddirdynnol gan Casia Wiliam sy’n darlunio profiadau ceiswyr lloches sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ar S4C o lwyfan Y Babell Lên yn Eisteddfod Llanrwst
- Martha Puw, mynychwr Sgwad Sgwennu Gwynedd, yn ennill tlws Pat Neill am farddoniaeth ysgol gynradd yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Criw Her100Cerdd yn llwyddo i gyfansoddi 100 o gerddi mewn 24 awr!