Dathlu Diwrnod Barddoniaeth â Beirdd Plant Cymru
Ym mis Medi 2022 maent wedi gweithio â 12 o ysgolion ar draws Cymru yn barod ar brosiect ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae ganddynt weithgaredd lu ar y gweill rhwng nawr ac Awst 2023. Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. Gyda blwyddyn arall o brosiectau, gwyliau a gweithdai o’u blaenau, mae’r beirdd yn edrych ymlaen i barhau â’r gwaith o ysbrydoli a thanio dychymyg plant trwy farddoniaeth.
Mae Diwrnod Barddoniaeth yn ddathliad blynyddol o farddoniaeth sydd yn ein hannog i ddod at ein gilydd i ddefnyddio’n geiriau, straeon, a’n lleisiau i bontio’n cymunedau. A hithau hefyd yn Wythnos Llyfrgelloedd, braf oedd cyd-weithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu’r diwrnod eleni ar 6 Hydref, a nodi dechrau eu hail flwyddyn fel ein beirdd plant.
Cynhaliodd y beirdd ddiwrnod o weithdai yn Y Drwm yn y llyfrgell ar gyfer dros 155 o ddisgyblion ysgolion Ceredigion. Yn y bore cafwyd gweithdy drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Casi yng nghwmni Ysgol y Dderi, Ysgol Talybont ac Ysgol Aberaeron. Yn y prynhawn, Connor oedd yn arwain gweithdy Saesneg ar gyfer disgyblion Ysgol Padarn Sant ac Ysgol Henry Richard. Cafwyd cyfle i drafod a dysgu beth yw barddoniaeth, i glywed y beirdd yn darllen eu gwaith, i ysgrifennu cerddi yn unigol ac fel grŵp, ac i holi’r beirdd yn dwll!
Bardd Plant Cymru
Drwy weithdai a gweithgareddau amrywiol, mae’r Bardd Plant yn defnyddio llenyddiaeth er mwyn annog creadigrwydd a meithrin hunanhyder a sgiliau cyfathrebu ymysg plant Cymru Sefydlwyd y prosiect yn y flwyddyn 2000, ac yn y 22 mlynedd a ganlyn mae Cymru wedi cael 16 o Feirdd Plant, pob un ohonynt wedi dod â rhywbeth unigryw i’r rôl. Rheolir y prosiect gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r prosiect eleni yn cynnwys agoriad swyddogol Pabell Lên y Steddfod Genedlaethol â chriw o ferched Ceredigion, cyhoeddi cerdd gomisiwn i nodi gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithiol, a dathlu Dydd Miwsig Cymru â disgyblion ardal Castell Nedd a Phort Talbot. Mae Casi wedi bod yn gweithio â plant a phobl ifanc Cymru i ar gyfansoddi alawon yn ogystal â geiriau, gan roi cyfle iddynt glywed ei geiriau ar ein cyfryngau cenedlaethol ac mewn digwyddiadau.
Children’s Laureate Wales
Ers ei sefydlu yn 2019, caiff rôl Children’s Laureate Wales ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth. Mae Connor yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r prosiect eleni’n cynnwys ysgrifennu cerdd gomisiwn i ddathlu ymgyrch #GwleddyGwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cynnal gweithdai barddoniaeth ar draws llyfrgelloedd Ceredigion, ac arwain gweithdai ar effeithiau technoleg ar iechyd meddwl pobl ifanc ar y cyd â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.Ewch draw i adran prosiectau Llenyddiaeth Cymru i ddysgu mwy am y prosiectau, a dilyn y beirdd ar @barddplant a @laureatewales ar Twitter.
Os am holi mwy am y prosiect, neu am gyfleoedd i gyd-weithio, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar barddplant@llenyddiaethcymru.org neu laureatewales@llenyddiaethcymru.org.