Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn dathlu Dydd Miwsig Cymru eleni, aeth y Bardd Plant ati i gyfansoddi cân wedi ei ysbrydoli gan weithdai arbennig gyda phlant yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ac Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmllynfell yn Sir Castell Nedd a Phort Talbot. Roedd y gân a’r gweithdai yn canolbwyntio ar Chwedl Cuhlwch ac Olwen, a’r afon Twrch, sydd yn ymddangos yn y chwedl. Dyma un o weithgareddau Siarter Iaith prosiect Bardd Plant Cymru, sydd wedi eu clustnodi i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.

Mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru, aeth Casi ati i recordio’r gân, ac fe gafodd ei chwarae ar raglen Shân Cothi ar y 4 Chwefror i nodi Dydd Miwsig Cymru. 

BarddPlantCymru · Dilyn Y Dyfroedd

 

Dros y Mynydd Du,

heibio afon Llynfell

cyn cyrraedd afon Twrch,

ymddangosa’r peth rhyfedda’

yno’n gorffwys a hamddena,

creadur hardd a hudol

ydyw hwn.

 

Dilyn y dyfroedd

tua’r cwm,

lle bydd ein hafonnydd yn cwrdd,

chwedl ddoe

sy’n dal i siapio’r tir,

yn adlewyrchiad mân y dŵr

a deimli dithau’r gwir?

 

Carlamu wna’r marchogion,

yn y niwl

cuddia ddirgelion,

olion camau cyfrwys

y twrch trwyth,

crib o liwiau’r heulwen

sy’n sgleinio drwy’r ffurfafen,

dyma’r unig allwedd

os am ennill cariad Olwen.

 

Dilyn y dyfroedd

tua’r cwm,

lle bydd ein hafonnydd yn cwrdd,

chwedl ddoe

sy’n dal i siapio’r tir,

yn adlewyrchiad mân y dŵr

a deimli dithau’r gwir?

 

Casi Wyn,
Bardd Plant Cymru 2021-2023
Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru