Dewislen
English
Cysylltwch

Cipolwg Creadigol: Hammad Rind yn trafod ysgrifennu, cymunedau creadigol, a’i daith tuag at gyhoeddi ei waith

Cyhoeddwyd Mer 13 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cipolwg Creadigol: Hammad Rind yn trafod ysgrifennu, cymunedau creadigol, a’i daith tuag at gyhoeddi ei waith

Mae Hammad Rind newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf, Four Dervishes (Seren Books), nofel sydd wedi ysgogi’r geiriau isod gan yr awdur Jon Gower:

“Heb os, un o’r nofelau fwyaf nodedig i ddod o Gymru ers sawl troad lleuad.”

Serch hynny, saith mlynedd yn ôl roedd Hammad yn dal yn estron i fyd ysgrifennu creadigol.

Mae’n nodi mai symud i Gaerdydd oedd yr ysgogiad roedd ei angen er mwyn cychwyn arni, ac ers hynny mae o wedi datblygu llais creadigol arbennig a rhyfeddol, ac wedi llwyddo i blethu sawl iaith a genre yn ei waith, tra’n dod ag anghyfiawnderau cymdeithasol i’r amlwg yn ogystal.

 

Hammad Rind: Awdur, Ieithydd, Sylwebydd Cymdeithasol

Ganed Hammad Rind ym Mhwnjab, Pacistan, ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau niferus gan gynnwys The Madras Courier, James Joyce Broadsheet, Y Stamp a Porridge Magazine. Mae’n arwain nifer o weithdai ysgrifennu a chymunedol, gan ganolbwyntio yn bennaf ar y grefft o adrodd straeon a llenyddiaeth Ddwyreiniol.

Mae ei nofel gyntaf, Four Dervishes, yn nofel ddychan cymdeithasol wedi’i seilio ar dastan gan y bardd Persiaidd, Amir Khosrow, ac yn cynnwys elfennau o realaeth hud. Nid yw’n un i osgoi materion dadleuol, ac mae’r nofel yn herio rhagfarn crefyddol, gwadiad hawliau merched, a rhaniad dosbarthiadau cymdeithasol.

Mae’n gallu siarad naw iaith, gan gynnwys Wrdw, Pwnjabeg, Hindi, Perseg, Twrceg, Eidaleg a Ffrangeg, ac mae’n ychwanegu dilysrwydd ac unigolrwydd i’w waith drwy  ymgorffori elfennau o’r ieithoedd a diwylliannau gwahanol hyn yn ei nofel a’i straeon byrion.

 

Llenyddiaeth Cymru: Tanio Dychymyg a rhoi Hwb i Hyder Awduron

Dros y blynyddoedd, mae Hammad wedi cymryd rhan mewn nifer o’n rhaglenni datblygu awduron, ac rydym yn hynod o falch o fod wedi cefnogi awdur mor dalentog wrth iddo fireinio ei lais creadigol.

Dywed Hammad:

“Mae Llenyddiaeth Cymru yn sefydliad cefnogol sydd wedi mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig wrth rannu cyfleoedd ac adnoddau ac wrth fy annog ar fy nhaith.”

Yn ôl yn 2019, mynychodd Hammad daith i Ŵyl y Gelli a drefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r ŵyl ar gyfer aelodau o’r grŵp meic agored Where I’m Coming From. Roedd y daith yn gyfle euraidd i gwrdd ag awduron eraill o Gymru ac fe lwyddodd roi hwb i hyder Hammad a chynyddu ei fuddsoddiad yn ei waith.

 

Daw Creadigrwydd law yn llaw â Chymuned

Dechreuodd Hammad ysgrifennu Four Dervishes mewn modd ynysig, ond ni gymerodd hir iddo sylweddoli fod cyswllt gydag awduron a darllenwyr eraill yn hanfodol bwysig i’w broses greadigol. Yn dilyn ei brofiad yng Ngŵyl y Gelli, roedd ganddo ddigon o hyder i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol. Ers hynny, mae wedi mwynhau rhedeg gweithdai fel rhan o brosiectau Llenyddiaeth Cymru megis ein rhaglen, Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli ac ein Gwaith Comisiwn i Awduron.  Roedd y profiadau hyn yn werthfawr nid yn unig i’r cyfranogwyr ond hefyd i’w ddatblygiad creadigol personol.

Yn awyddus i fynd i’r afael â materion cymdeithasol yn y byd go iawn yn ogystal ag ar y dudalen, mae ei weithdai ysgrifennu creadigol yn canolbwyntio ar gymunedau sydd, yn draddodiadol, wedi eu heithrio a’u gadael ar ôl, ac mae’n fwriad ganddo i  rymuso’r cyfranogwyr trwy ddefnyddio llenyddiaeth.

Gellir ddarllen rhagor am y prosiectau gwych arweiniodd Hammad ar gyfer Llenyddiaeth Cymru yma ac yma.

Rydym wastad yn awyddus i ddarganfod a datblygu awduron ac hwyluso prosiectau sydd ag effaith gymunedol gref. Yn ystod yr hydref, bydd Llenyddiaeth Cymru yn lansio rhaglen newydd Cynrychioli Cymru ymysg prosiectau cyffrous eraill. Os oes gennych gwestiwn am y cyfleoedd hyn, neu am sut i gymryd rhan yng ngweithgareddau Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org.

 

Y daith tuag at gyhoeddi ei waith

Dywed Hammad ar ei brofiad gyda Seren Books:

“Maent wedi gwneud yr holl broses yn un hawdd a llawn mwynhad.”

Roedd wrth ei fodd pan gafodd ei nofel ei gomisiynu gan Seren Books ar ôl iddo redeg gweithdy ar farddoniaeth Ddwyreiniol ar gyfer gŵyl Barddoniaeth Seren. Yn anffodus, mae Hammad yn cofio cyn y profiad hwn bod y daith tuag at gyhoeddi ei waith fel awdur sy’n cael ei dangynrychioli yn un llawn rhwystrau.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod o ymwybodol bod y diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru ac o fewn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn un homogenaidd ac anghyraeddadwy i sawl grŵp a chymuned. Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau strategol yn ein sefydliad, ac rydym yn benderfynol o greu diwylliant llenyddol Cymreig cyfoethog, amrywiol a chynrychioladol drwy fynd i’r afael â rhwystrau hanesyddol a strwythurol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar gynrychiolaeth a chydraddoldeb o fewn diwylliant llenyddol Cymru yma.  

 

Ar y gweill

Mae Hammad yn brysur yn ysgrifennu ei ail nofel ac mae ganddo sawl stori fer ar waith. Yn ogystal â hyn, mae’n gweithio ar ddau brosiect cymunedol, a bydd yn rhedeg cwrs newydd ar lenyddiaeth Ddwyreiniol yn y flwyddyn newydd.

Gallwch ddarllen rhagor am ei nofel Four Dervishes ac archebu copi yma.  

Uncategorized @cy