Dewislen
English
Cysylltwch

10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2025

Cyhoeddwyd Iau 18 Rhag 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2025
Llun: Mefus Photography
Mae hi wedi bod yn flwyddyn llawn dop o ddatblygu, annog a dathlu awduron Cymru. Rydym wrth ein boddau o gael camu i 2026 gyda chynlluniau newydd a chyfleoedd amhrisiadwy i’n hawduron, felly parhewch i darllen i gael blas ar hyn a fu ac a fydd!

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025

Ar noson braf fis Gorffennaf, cawsom ddathlu rhai o weithiau llenyddol gorau’r flwyddyn wrth inni ddatgelu enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025. Braf oedd cael cyd-ddathlu gyda’r awduron a’u teuluoedd, eu gweisg a’u darllenwyr.

Cyhoeddwyd mai Camu gan Iola Ynyr yw Llyfr y Flwyddyn 2025, a cipiodd Carys Davies y Brif Wobr yn y Saesneg gyda’i nofel, Clear. Noddwyd y Prif Wobrau gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, ac Ysgol y Gymraeg, ac rydym yn ddiolchgar iddynt ac i’n nifer o noddwyr eraill a ddarparodd nawdd categori a seremonïau. Mae eu haelioni yn gwneud y Gwobrau blynyddol hyn yn bosibl.

Gallwch ddarganfod mwy am holl enillwyr y noson ar ein gwefan, mwynhau galeri o luniau, ac os nad ydych wedi gwneud eisoes, ewch ati i ddarllen eu gwaith dros yr ŵyl!

 

Cyhoeddi Beirdd Plant 2025-2027

Ym mis Medi fe ddaeth y newyddion cyffrous gennym mai Siôn Tomos Owen fydd Bardd Plant Cymru 2025-2027, a Nicola Davies fydd yn ymgymryd a rôl Children’s Laureate Wales.

Mae’r ddau bellach wedi dechrau ar daith o feithrin creadigrwydd, ailgynnau angerdd at ddarllen, a grymuso plant i ysgogi newid. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld be ddaw yn 2026!

I ddod i adnabod ein Bardd Plant Cymru newydd yn well, dyma ni’n holi cyfres o gwestiynau cyflym iddo. Beth yw ei hoff air? Oes ganddo dalent cudd? Ac ai bara neu popadoms yw’r ffefryn? Cliciwch y ddolen hon i ddarganfod a dod i adnabod Siôn.

 

Prosiect Bardd EWRO 2025

Roedd hi’n haf llawn cyffro wrth i dîm pêl-droed Cymru deithio i’r Swistir i chwarae yn nhwrnament EURO Menywod UEFA am y tro cyntaf erioed!

Mewn cyd-weithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, comisiynwyd y bardd a pherfformiwr, Sarah McCreadie, i glodfori a dogfennu ymdrechion Cymru.

Cafodd Sarah ei herio i ysgrifennu 15 o gerddi yn ystod y twrnament – o gyhoeddi’r garfan ar gopa’r Wyddfa, hyd at ein chwiban olaf.

Cyfieithwyd nifer o’r cerddi i’r Gymraeg gan Marged Tudur, a gallwch wylio’r holl gerddi fideos ar ein sianel Youtube drwy glicio ar Restr Chwarae Ewros 2025.

 

Preswylfeydd Rhyngwladol

Pleser oedd croesawu 14 awdur Ewropeaidd i Dŷ Newydd am bythefnos ym mis Ebrill ar gyfer preswylfa arbennig.

Trefnwyd rhaglen o sgyrsiau, teithiau a gweithdai ar gyfer y garfan i ysgogi cydweithio, rhannu ymarfer da, a phrosiectau newydd dros Ewrop. Cewch ddarllen rhagor am yr awduron ar wefan Llenyddiaeth Cymru, ynghyd â phartneriaid, noddwyr a chefnogwyr preswylfa LLIF.

Roedd hi’n fraint gennym hefyd, ynghyd â’n partneriaid, British Council Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, i groesawu’r bardd a’r cyfieithydd llenyddol Wcreineg Tania Rodionova i’n cartref yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod yr hydref.

Roedd hwn yn gyfle euraidd i gyfnewid diwylliannau a syniadau creadigol, a meithrin perthynas agosach rhwng llenyddiaethau a phobl Cymru a Wcráin. Darllenwch am brofiadau Tania yn ystod ei phythefnos yng Nghymru.

 

Pencerdd – cynllun i gyw-gynganeddwyr

Rydym wedi cael blwyddyn arbennig o gydweithio â 5 disgybl newydd ar raglen Pencerdd, a’u cyfnod o ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr yn dirwyn i ben. Nod y cynllun yw rhoi hwb i feirdd newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. Mae Pencerdd yn cael ei gynnig gyda chefnogaeth Cymdeithas Barddas.

Dewch i ‘nabod y criw eleni.

Ydi’r rhaglen hon at eich dant chi? Newyddion da, mae Pencerdd yn dychwelyd am drydedd blwyddyn!
21 Ionawr 2026 yw’r dyddiad cau. Ymgeisiwch nawr!

 

Ein Cynnig i Blant a Phobl Ifanc

Ym mis Mai fe aeth pum awdur ar daith o amgylch Cymru i ymweld â mil o blant i rannu hud geiriau fel rhan o brosiect Ffrindiau Bardd Plant Cymru.

Ynghyd â Nia Morais, y Bardd Plant Cymru ar y pryd, ymwelodd Ffrindiau Bardd Plant Cymru, sef Mari LovgreenGwennan EvansNatalie JonesSioned Erin Hughes a Rebecca Wilson â 36 ysgol mewn deg sir yng Nghymru i gynnal gweithdai hwyliog yn chwarae â geiriau, gan hybu sgiliau llythrennedd y plant drwy greadigrwydd.

Dros y flwyddyn rydym wedi bod yn cynnal Sgwadiau ‘Sgwennu lleol ar gyfer pobl ifanc – Sgwad ‘Sgwennu Conwy dan arweiniad Rebecca Roberts, a Sgwad ‘Sgwennu Maesteg gyda Leigh Manley. Roedd hi’n hyfryd medru cynnal penwythnos arbennig gyda chriwiau Cymraeg a Saesneg Conwy dros y Pasg – cliciwch yma i gael cipolwg ar benwythnos creadigol dros ben!

Yn dilyn poblogrwydd y Sgwadiau lleol hyn, pleser yw gallu dweud ein bod ni wrthi yn sefydlu Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol! Mae ein galwad agored bellach wedi cau, a maes o law byddwn yn cyhoeddi enwau’r bobl ifanc 16-18 oed sydd wedi sicrhau lle ar raglen 2026-2027.

 

Gwaith yn y Gymuned

Roedd hi’n flwyddyn wych i’n prosiectau llenyddol yn y gymuned, gyda grwpiau ysgrifennu yn ffynnu ym Methesda ac yn Nhŷ Ddewi.

Bu dathliad arbennig ym Methesda fis Mai i gydnabod gwaith grŵp ysgrifennu creadigol Diosg a throsglwyddo ei ofal i’r gymuned yn Nyffryn Ogwen. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddadorchuddio comisiwn celf newydd gan Catrin Williams a ysbrydolwyd gan y grŵp a’u gwaith.

Yr awdur a’r bardd, Casia Wiliam, sefydlodd y grŵp ysgrifennu creadigol ym Methesda fel rhan o’n cynllun Llên mewn Lle, prosiect mewn partneriaeth â WWF Cymru, sy’n cefnogi awduron a hwyluswyr i weithio yn eu hardal leol, gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol fel man cychwyn i archwilio’r byd naturiol.

Cafodd Prosiect Llên mewn Lle Tyddewi ei arwain gan yr hwylusydd ysgrifennu creadigol Kerry Steed a’i gyflwyno mewn partneriaeth ag EcoDewi, Cwmni Buddiant Cymunedol wedi’i leoli yn Nhyddewi sy’n gweithio i wella bioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol ar draws y penrhyn.

Arweiniodd Kerry ystod eang o weithgareddau gweithdy ysbrydoledig, a daeth ag amrywiaeth o artistiaid, ecolegwyr ac arbenigwyr eraill ynghyd i weithio ar draws y gymuned, gan gynnwys: Duke Al Durham, Nicola Davies, Jon Hudson, Lou Luddington a Susan Richardson. Cynhaliwyd gweithdai yn yr ysgol leol, yng ngardd gymunedol EcoDewi a dôl Maes Glas Fryn, ar lwybr yr arfordir ger Tyddewi, ac mewn gofod gweithdy yng nghanol y ddinas.

 

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Bydd 2026 yn flwyddyn gyffrous i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wrth i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei wneud ar adeiladau ein pencadlys. Mae’r gwaith hwn yn bosib yn dilyn derbyn grant cyfalaf o £159,610 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Darllen rhagor.

Roeddem hefyd yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen llawn dop o gyrsiau creadigol ar gyfer flwyddyn nesaf. O ffuglen werin i gynganeddu, o sgwennu i bobl ifanc i gwrs ar Ynys Enlli – mae rhywbeth at ddant pawb! Porrwch trwy’r rhaglen ac archebwch le neu rhowch gwrs yn anrheg y Nadolig hwn.

Dyma ambell gwrs sydd ar y gweill:
Y Busnes o Ysgrifennu: Creu sylfeini cryf i gefnogi eich gyrfa fel awdur
Tiwtor: Clare Mackintosh
Dyddiad: Dydd Llun 16 Mawrth – Dydd Gwener 20 Mawrth 2026

Ysgrifennu Creadigol i Siaradwyr Newydd
Tiwtoriaid: Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn
Dyddiad: Nos Wener 20 Mawrth – Dydd Sul 22 Mawrth 2026

Cwrs Cynganeddu
Tiwtoriaid: Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones
Dyddiad: Dydd Llun 30 Mawrth – Dydd Gwener 3 Ebrill 2026

Fel rhan o ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod Tŷ Newydd mor hygyrch â phosibl, cynigir ysgoloriaeth ariannol ar gyfer pob cwrs yn 2026. Mae’r broses ymgeisio’n syml ac ar agor i’r rheiny na allant fforddio ffi llawn y cwrs. Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

I ddarganfod mwy am y ffyrdd amrywiol rydym yn cefnogi ac yn datblygu awduron, ewch draw i adran bwrpasol ein gwefan, Beth all Llenyddiaeth Cymru ei wneud i mi?

 

Ein Beirdd Cenedlaethol

Yn ystod y flwyddyn mae ein beirdd cenedlaethol, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales wedi bod wrthi’n llunio cerddi a rhedeg prosiectau lu. Mae’r beirdd wedi canolbwyntio ar amrywiol themâu – o’r dwys i’r digrif.

Yn ogystal ag ymddangos mewn digwyddiadau ac erthyglau newyddion di-ri, mae ein Bardd Cenedlaethol, Hanan Issa wedi llunio nifer o gerddi comisiwn eleni, er enghraifft i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer coedlan goffa Covid newydd yn Erddig a cherdd ‘Cartrefi sy’n Nofio’ sy’n ymateb i effaith llifogydd dinistriol ym Mhontypridd wedi stormydd Dennis a Bert.

Bu hefyd yn cydweithio gyda beirdd rhyngwladol ac o Gymru yn dysgu am y gynghanedd fel rhan o brosiect Cerdd Tafod Arall. Yn dilyn fflachwers ar y gynghanedd dan arweiniad Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, cyfansoddodd y beirdd ddarn a ysbrydolwyd gan yr hyn y gwnaethant ei ddysgu am y grefft arbennig hon.

Mae Hanan hefyd wedi bod yn cynllunio prosiect pwysig yn edrych ar iechyd merched yng Nghymru a fydd yn cael ei arwain ganddi hi a Gwyneth Lewis. Datgelir rhagor o wybodaeth am brosiect Menywod Cronig yng ngwanwyn 2026.

Cyn daeth eu cyfnod fel beirdd plant i ben yr haf hwn, cafodd Alex Wharton a Nia Morais fisoedd llawn cyffro yn ysbrydoli plant Cymru!

Yn ogystal â chynnal gweithdai amrywiol mewn ysgolion ac mewn gwyliau cenedlaethol, fe wnaeth Nia olygu cyfrol o gerddi gan fenywod Cymru ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’ (Barddas).

Roedd Alex hefyd yn brysur! Ym mis Mai rhoddodd ei ‘sgidiau cerdded am ei draed ar gyfer taith ‘Shorelines and Shipwrecks. O Foelfre i Gaergybi, fe gerddodd dros 40 milltir mewn 6 diwrnod, gan ymweld â 6 ysgol gynradd a llyfrgell ar Ynys Môn. Bu hefyd yn ran o brosiect arbennig iawn mewn cydweithrediad ag Uned Teulu Carchar EF Parc, lle bu’n ysbrydoli, herio a grymuso 16 o dadau trwy gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol deinamig.

 

Cyrsiau a Rhaglenni Datblygu

Ochr yn ochr â’n rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol blynyddol yn Nhŷ Newydd, sydd yn agored i unrhyw un eu mynychu, rydym yn cynnal cyfres o gyrsiau sydd wedi eu creu gyda’r nod o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sîn lenyddol yng Nghymru. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae proses gystadleuol i’w mynychu.

Yn y gwanwyn roedd hi’n fraint croesawu beirdd ac artistiaid perfformiadol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru ar gyfer cwrs preswyl Speak Back. DychweloddAilddyfeisio’r Prif Gymeriad,ein cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer pobl Fyddar a/neu anabl, ein rhaglen ar gyfer hwyluswyr llenyddol, Sgwennu’n Well, ac hefyd ein rhaglen datblygu blaenllaw, Cynrychioli Cymru. Fe wnaethom hefyd gynnal cwrs preswyl rhad ac am ddim  i awduron o’r enw Ysgrifennu Ffuglen, a chyhoeddi cyfres o webinarau er mwyn ysbrydoli ac addysgu awduron Cymru. Porwch drwy ein digwyddiadau arlein ar gyfer 2026.

Roedd hi’n wych gallu cydweithio gyda Gŵyl y Gelli eto eleni ar gyfer rhaglen Awduron wrth eu Gwaith a oedd yn cynnig wythnos llawn o gyfleoedd ar gyfer awduron yn ystod yr ŵyl. Hyfryd hefyd oedd cefnogi galwad agored Llyfrau Lliwgar a chroesawu criw o awduron LHDTC+ yng Nghymru am benwythnos creadigol.

***

Bydd ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Thŷ Newydd ar gau o ddydd Gwener 19 Rhagfyr 2025 i ddydd Llun 5 Ionawr 2026. Gobeithiwn y cewch amser hyfryd dros yr wŷl, a dymunwn Flwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch!