Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw

Cyhoeddwyd Maw 27 Ebr 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw

Rydym yn hynod falch o lansio ein rhaglen datblygu proffesiynol gyntaf erioed i awduron o liw.

Mae rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw yn gam pwysig yn ein taith i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Ein nod yw creu diwylliant sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru, a sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled ein gwlad a thu hwnt am eu crefft.

Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau strategol o bwys i ni fel a amlygir yn ein Cynllun Strategol 2019-2022, ac mae lansiad y rhaglen hon yn cryfhau ein hymrwymiad i gyflwyno newid gwirioneddol o fewn y sector. Mae’r rhaglen yn elfen allweddol o’n Colofn Gweithgaredd Datblygu Awduron, ac yn datblygu ar lwyddiant cynlluniau eraill megis: Ysgoloriaethau i Awduron; Cynllun Mentora; y cynllun nawdd Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli; a Gwobr Rising Stars Cymru.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Bydd y rhaglen bwysig hon yn bwrw goleuni ar leisiau eithriadol, amrywiol sy’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth gyfoes Cymru, ac mae potensial gan bob un o’r awduron hyn i weddnewid ein diwylliant llenyddol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Rhaglen 12 mis yw hon, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhoi cyfleoedd datblygu i 12 awdur o liw sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi’r criw i ddatblygu eu gwaith drwy gynnig gwobr ariannol hyd at £2,450 i bob awdur llwyddiannus a thrwy hwyluso sgyrsiau, gweithdai a sesiynau mentora. Elfen allweddol o’r rhaglen fydd gwneud yr agweddau galwedigaethol o ysgrifennu creadigol, yn ogystal â’r broses gyhoeddi, yn fwy hygyrch. I’r perwyl hwn, byddwn yn darparu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ar ffurf cyfleoedd i rwydweithio a mynychu gwyliau a digwyddiadau llenyddol, ynghyd â gweithdai datblygu crefft, a dosbarthiadau meistr yng ngofal awduron a thiwtoriaid profiadol.

Meddai Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Os ydyn ni o ddifri dros weld Cymru decach a mwy cyfartal yna mae’n rhaid i ni wneud mwy na thalu gwrogaeth ar lafar yn unig er mwyn gwella amrywiaeth diwylliannol. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n agor cyfleoedd sy’n rhoi gofod i ddatblygu talent ac mae rhaglenni fel y rhaglen hon yn rhoi llwyfan i awduron sy’n cael eu tangynrychioli i allu mynegi a datblygu eu creadigrwydd ac i gyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith a fydd yn cyffroi, yn herio ac yn diddanu cynulleidfaoedd.”

I roi’r rhaglen ar waith, byddwn yn cydweithio â sefydliadau ac unigolion o’r sector gelfyddydau a llenyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Complete Works, Lucent Dreaming, y Ledbury Critics Programme, Hanes Du Cymru, Poetry Wales, S4C, Race Council Cymru, Lumin Press a Speaking Volumes. Bydd rhagor o bartneriaid yn cael eu cyhoeddi a’u cynnwys wrth i’r rhaglen ddatblygu drwy gydol y flwyddyn.

 

Grŵp Awduron 2021/22

A hwythau rhwng 21 a 61 oed, mae’r grŵp o awduron yn pontio cenedlaethau, ac oll ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Maent yn arbenigo mewn amrywiaeth o genres a ffurfiau creadigol, o berfformiadau barddonol, i nofelau ffuglen wyddonol, i ddeunydd ffeithiol greadigol, mae’r grŵp yn cynnwys cyfoeth o brofiadau, dylanwadau, ac arddulliau. Bydd yr awduron yn defnyddio’r flwyddyn i geisio cyflawni tair uchelgais sy’n unigryw iddyn nhw. Mae rhai yn gobeithio cwblhau a chyhoeddi gweithiau sydd ar y gweill, mae rhai yn dymuno gwella’u dealltwriaeth o’r diwydiannau llenyddol a chyhoeddi, tra bo eraill yn gobeithio y bydd y rhaglen yn magu eu hyder er mwyn iddyn nhw allu gweld eu hunain fel awduron proffesiynol.

 

Meddai Sandeep Parmar, Cadeirydd y Panel Asesu ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl:

“Mae’r rhaglen hon yn gynllun angenrheidiol i agor ein llenyddiaeth genedlaethol i leisiau newydd, a’r rheiny’n lleisiau newydd hanfodol. Fel panelwyr, cawsom ein gwefreiddio gan weledigaeth yr awduron hyn – gan y modd maen nhw’n dangos posibilrwydd canon arall, llawnach inni. Mae eu llwyddiant yn profi bod gan Gymru awduron o liw hynod o dalentog, sy’n mwy na haeddu derbyn cymorth ac, yn wir, yn haeddu cael eu dathlu. Mae cymhlethdodau eu gwaith, a’r ffordd maen nhw’n ymdrin â iaith, diwylliant, tirwedd, treftadaeth a holl amrywiaeth Cymru yn gwbl ysbrydoledig.”

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen, a bywgraffiad yr holl awduron, ar gael ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.