Dewislen
English
Cysylltwch
Yasmin Begum

Awdur, ymgyrchydd ac artist queer o gefndir Cymreig a Phacistanaidd yw Yasmin Begum. Mae hi’n 26 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.

 

Enw’r Prosiect: Dadgoloneiddo’r Archif

Lleoliad y Prosiect: Caerdydd, Aberystwyth

 

Cefndir y Prosiect:

Gan ddefnyddio cyllid Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli, bydd prosiect Yasmin Begum yn canolbwyntio ar gof diwylliannol, gwladychu, a hunaniaeth Gymreig. Ei nod fydd meithrin gwell dealltwriaeth ac edrych ar waddol y Cymry a Chymry croenliw drwy gydol hanes, a hynny gan ddefnyddio theorïau dad-drefedigaethol.  Bydd y prosiect yn arwain at greu pamffled dwyieithog o’r enw Dadgoloneiddo’r Archif | Decolonising the Archive’. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno fel ymateb creadigol i’r ‘Sgyrsiau (Ôl)-Drefedigaethol: India a Chymru’n Cwrdd’ ym Mhrifysgol Abertawe.

Bwriad Yasmin yw treulio cyfnod yn ymchwilio er mwyn creu’r pamffled hwn. Mae’n bwriadu ymweld â’r ‘Casgliad Ethnig’ yn Aberystwyth, a Chanolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown yng Nghyfnewidfa Tiger Bay, er mwyn darllen yr archifau. Bydd ei phrosiect yn edrych ar groestoriad o themâu, gan gynnwys hil, dosbarth, rhyw a rhywedd, er mwyn gwyntyllu rhai o’r materion mwyaf sy’n wynebu ein cyfnod ni, yng Nghymru a’r tu hwnt.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

“Rwy’n gobeithio gallu meithrin gwell dealltwriaeth o waddol y Cymry a Chymry croenliw, ac edrych ar hynny drwy gydol hanes gan ddefnyddio theori dad-drefedigaethol.”

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Rwy’n credu y bydd y cyfle hwn yn cael effaith fawr iawn ar fy ngyrfa fel artist ac fel awdur, gan fy helpu i ysgrifennu, creu, golygu a chyhoeddi darn creadigol i ychwanegu at fy nghorff o waith.”

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli