Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn gwobrwyo £10,000 i awduron am gomisiynau digidol

Cyhoeddwyd Iau 11 Maw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn gwobrwyo £10,000 i awduron am gomisiynau digidol

Mae Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi enwau’r pum awdur fydd yn derbyn cyfran o gronfa comisiwn gwerth £10,000. Gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth a llesiant, bydd cynnwys a gweithgareddau’r pum prosiect hyn yn elwa awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol yn ystod y cyfnod ansicr hwn – yn benodol, unigolion o gefndiroedd incwm isel.

Yr awduron llwyddianus yw Seren Haf Grime, Rufus Mufasa, clare e. potter, Dominika Rau a Hammad Rind. Mae’r comisiynau yn cynnwys gweithdai gydag unigolion o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Nhrelluest sy’n wynebu heriau iechyd meddwl; gweithio gyda mamau yn Sir Gaerfyrddin drwy gofnodi eu straeon a’u profiadau yn ystod y pandemig; gweithdai gydag unigolion ifanc sy’n byw â chanser eilradd; prosiect yn cefnogi pobl ifanc a mamau ifanc digartref ar draws Cymru; a phrosiect â cheiswyr lloches a ffoaduriaid gyda chymorth y Congolese Development Project.

Mae rhagor o wybodaeth am bob awdur a’u prosiectau isod. Bydd gan bob prosiect ei dudalen ei hun ar wefan Llenyddiaeth Cymru, a gaiff ei ddiweddaru wrth i weithgareddau ddatblygu.

Trwy gydol pandemig COVID-19, mae Llenyddiaeth Cymru wedi parhau i gefnogi a chynnal ystod o weithgareddau a chyfleoedd i awduron, gan sicrhau fod ein hymroddiad i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn parhau i fod mor gryf ag erioed.

Y llynedd, wrth i argyfwng byd-eang COVID-19 ddechrau ein heffeithio, llwyddom i addasu ein rhaglen a’n gweithgareddau yn gyflym ac ail-gyfeirio ein cyllid a’n cefnogaeth i’r rheiny a oedd yn wynebu’r caledni mwyaf. Mae ein cyfres o Weithiau Comisiwn i Awduron – gan gynnwys y cyfle hwn mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru – wedi cefnogi 25 o awduron llawrydd i gyflawni adnoddau, gweithdai a gweithgareddau digidol gydag ystod o grwpiau ac unigolion. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn ar gael yma.

Rydym yn ymwybodol iawn o effaith COVID-19 ar ein llesiant ac ar ein hiechyd meddwl, a sut y mae’r cyfnod hwn wedi cynyddu unigrwydd ac unigedd i lawer. Gall llenyddiaeth, yn ei holl ffurfiau amrywiol, fod o gymorth i ddod â phobl ynghyd ac i roi llais i’r rheiny sydd heb lais yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Gwyddwn fod ysgrifennu creadigol a darllen creadigol yn gallu bod o fudd i’n llesiant meddyliol, ac mae gweithgareddau creadigol yn cael eu defnyddio’n gyson fel triniaethau ataliol, lliniarol ac iachaol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o allu cefnogi’r pum prosiect arloesol hyn ac yn edrych ymlaen at weld y newid cadarnhaol i fywydau a llesiant unigolion a ddaw yn sgil y gweithgareddau hyn.

 

Y Prosiectau:

Bydd Seren Haf Grime yn cynnal prosiect o chwe gweithdy therapiwtig dwyieithog fydd yn edrych ar chwedleua ac ysgrifennu creadigol mewn dull arloesol. Bydd y prosiect wedi ei anelu at oedolion iau (rhwng 25-45 yn fras) sydd yn byw â chanser eilaidd, a chaiff ei redeg mewn partneriaeth â Hosbis Dewi Sant.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Seren, cliciwch yma.

 

Bydd Rufus Mufasa yn cynllunio prosiect i weithio gyda mamau, gan gofnodi straeon rhai o leisiau anghofiedig y pandemig. Bydd y prosiect yn archwilio diwylliant mamolaeth / benywdod, gan edrych ar droi’r anweledig yn weledol drwy alw am ymwybyddiaeth ac am newid, a thrwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad creadigol gynhwysfawr.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Rufus, cliciwch yma.

 

Bydd clare e. potter yn gweithio gyda’r elusen ddigartrefedd flaenllaw, Llamau, i greu a rhedeg gweithdai creadigol gyda grwpiau amrywiol. Bwriad y prosiect yw i annog ac ysbrydoli pobl ifanc (16-21 oed), menywod sengl, a theuluoedd sy’n derbyn cymorth tai a llesiant gan Llamau.

Am ragor o wybodaeth am brosiect clare, cliciwch yma.

 

Bydd Dominika Rau yn datblygu ac yn rhedeg chwe gweithdy yn archwilio ein dealltwriaeth o’r corff ac o’n llesiant. Bydd y gweithdai ysgrifennu yn edrych ar ddeall y corff, a’i werthfawrogi wrth iddo brosesu a gweithio drwy’r argyfwng llesiant sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Bydd yn cydweithio gyda’r Congolese Development Project.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Dominika, cliciwch yma.

 

Bydd Hammad Rind yn cynnal cyfres o bedwar gweithdy ysgrifennu amlieithog yn edrych ar y cysyniad o berthyn, wedi eu hanelu at unigolion sy’n byw â heriau iechyd meddwl. Bydd y gweithdai wedi eu hanelu yn benodol at aelodau o’r cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig yn Nhrelluest. Cynhelir y prosiect ar y cyd â 4Winds a Llwybr Celf Trelluest.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Hammad, cliciwch yma.