Dewislen
English
Cysylltwch

Teitl y prosiect: Trwy’n llygid ni

Cyfranogwyr: Llamau: elusen digartref yng Nghymru

Artist arweiniol: clare e. potter

 

Nod y prosiect:

Arddangosfa wythnos o hyd fel rhan o arddangosfa prosiect Ein Byd gan Llamau.

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Roedd y prosiect yn ddemocrataidd; gan dynnu meddyliau a gweledigaeth greadigol ynghyd i benderfynu sut a beth gafodd ei greu fel grŵp. Defnyddiodd y cyfranogwyr eu doniau a’u mewnwelediadau i gyd-siapio cyfeiriad, fformat a chynnwys y gweithdy. Roedd yn fenter ar y cyd, i gyd yn dysgu gyda’i gilydd. Myfyriodd staff Llamau, y cyfranogwyr a minnau wrth i bob sesiwn fynd yn ei blaen – roedd y sgyrsiau parhaus hyn yn rhan bwysig o’r broses greadigol. Yn y pen draw, nod y gweithdai oedd i’r unigolion deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, iddynt cael eu grymuso ac i ddatblygu eu sgiliau a’u llesiant trwy weithgareddau hwyliog a chynnwys creadigol yr oeddent yn cysylltu ag ef ac yn ymateb iddo.

 

Bywgraffiad artist:

Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol pwysig hwnnw.

 

“Rwyf am rannu sut y gall darllen / clywed / ysgrifennu barddoniaeth fod yn fwy radical na dim ond er mwynhad a chysur. Rwyf am rannu bod gwneud celf (gair llafar, cerddi gweledol ac ati) yn rhan o broses o wella, canfod hunanymwybyddiaeth, cryfhau llais a hyder, helpu pobl i eiriol drostynt eu hunain; bod mynegiant creadigol yn offeryn i wynebu a newid polisïau anghyfiawn neu aneffeithlon. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar gryfderau’r cyfranogwyr, yn darparu sgiliau a mewnwelediadau newydd fel y byddant yn teimlo eu bod wedi’u hegluro. Rwy’n edrych ymlaen at eu cefnogi yn ystod y cyfnod creadigol hwn.”

Blog

Darllenwch gofnod blog clare wrth iddi fyfyrio ar y prosiect, a’r budd o ddefnyddio barddoniaeth i gefnogi llesiant.

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #3